“Machlud bywyd a ddaeth â llawenydd i lawer o gartrefi yn Abertawe”
Mae’n amlwg fod David Arthur ‘Dai’ Dupree/Du Pree (mae’r ffordd y sillafir ei enw yn amrywio) yn ŵr ifanc tra phoblogaidd. Roedd yn chwaraewr rygbi brwd, yn aelod brwd o’r Ysgol Sul ac fel y nododd yr Herald of Wales yn un o’r bobl hynny â’r ddawn i gynhesu’n calon pan ddown i gysylltiad â hwy.
Fe’i ganwyd yn Abertawe tua 1895. Ar adeg cyfrifiad 1911 roedd yn byw gyda’i rhieni a’i chwe brawd a chwaer yn 12 Short Street, heb fod ymhell o’r orsaf drenau. Dywed y Cyfrifiad ei fod yn gweithio fel negesydd ar y rheilffordd tra bod William a Frederick, ei frodyr hŷn, yn gweithio fel siyntwyr ar y rheilffordd. Fodd bynnag y mae’n rhaid ei fod wedi newid ei waith gan fod ei enw gyda deg arall ar gofeb Gweithle Hafod Isha ar Ffordd Morfa.
Mae’n amlwg ei fod yn frwd i wneud beth allai dros ei wlad oherwydd roedd ymhlith y cyntaf i wirfoddoli yn Abertawe. O dan y pennawd A GREAT SEND OFF mae’r Cambria Daily Leader yn dweud fod y trên i Lundain am 3.35 ar brynhawn Llun ar 7 Medi 1914 wedi cludo nifer o wirfoddolwyr i Gaerdydd a Llundain. Dewisodd y papur roi sylw arbennig i Dai Dupree ac un gwirfoddolwr arall (Will Harris, Trafalgar Terrace), ymhlith y criw a deithiai. Disgrifiwyd Dai fel chwaraewr rygbi ifanc, poblogaidd, a chanddo lu o ffrindiau yn Abertawe, tra bod Will hefyd yn chwaraewr poblogaidd arall â chanddo nifer o ffrindiau.
Ym mhapur newydd o ddiweddarach y mis hwnnw mae ffotograff o holl chwaraewyr tîm rygbi Danygraig – pob un ohonynt bellach wedi gwirfoddoli i wasanaethu yn y rhyfel. Mae llun o Dai ar ochr dde’r rhes ganol.
Y mae llawer o golofnau’r Cambria Daily Leader a’r Herald of Wales yn sôn am Dai. Cyn y Rhyfel ymddangosai ei enw’n aml ar y dudalen chwaraeon: yn ogystal â chwarae rygbi i Danygraig, roedd yn chwarae pêl-droed i’r Alexander Corinthians (tîm oedd yn gysylltiedig â’r Ysgol Sul a fynychai). Yn ystod y Rhyfel roedd yn un o’r perfformwyr yng nghyngerdd y Gwarchodlu Cymreig. Mae’r Cambria Daily Leader yn dyfynnu llawer o’r hyn ddywedodd milwr anhysbys a gafodd amser ardderchog yno. Cafodd y Clwb Glee ymateb emosiynol iawn wedi iddynt ganu ‘Aberystwyth’ a ‘Ton-y-Botel’, a meddai’r milwr ‘mae’n rhaid fod y Saeson oedd yn bresennol wedi meddwl ein bod ni yn wir yn bobl od’. Fe ddilynodd perfformiad Dupree, ond yn anffodus yr unig beth a ddywedir amdano oedd bod y digrifwyr yn arbennig ac y dylid adnabod Dai ar ôl hynny yn ‘hen foi o Abertawe.’ Byddai’n ddiddorol cael gwybod sut berfformiad oedd gan Dai a sut yr enillodd y fath lysenw. Yn ddiweddarach dywedodd yr Herald of Wales mai enw’r gân a luniodd oedd y ‘Spanish Onion’ yn cael ei ddarlunio gan weithredoedd rhyfedd. ‘Ni allai’r gynulleidfa beidio â chwerthin. Fe’i perfformiodd ar y Ffrynt hefyd gyda’r un canlyniadau’. Unwaith eto, mae’r wybodaeth yn hynod o brin am fanylion am ei ystumiau.
Bu farw Dai Dupree ar 27 Medi 1916 yn 22 oed. Cofiwyd ef yn annwyl gan ei gyfoedion yn Abertawe a chan y Gwarchodlu Gymreig. Yn wahanol i’r arfer cyflwynodd ei eglwys gofeb ar wahân iddo yn hytrach na roi cofeb wedi ei gysegru i bawb a syrthiodd yn y Rhyfel. Dichon i hyn ddigwydd cyn i’r Rhyfel ddod i ben. Cofnododd y Cambria Daily Leader ar 20 Tachwedd 1916 fod cofeb prês wedi ei ddadorchuddio yn cofnodi’r sawl oedd yn y Rhyfel ac un arall er cof am David Dupree yn unig. Ysywaeth, caeodd Capel Alexandra Road, ac fel gyda chofebau eraill ar draws Cymru ni wyddom beth ddigwyddodd i’r naill na’r llall o’r cofebau.
Fel llawer o filwyr Cymreig arall, person ifanc cyffredin oedd Dai, a ganmolid am ei ddigrifwch; gŵr caredig a ddeuai yn arweinydd mewn rhyw faes. Yng ngeiriau’r Herald of Wales: ‘Y mae rhai llanciau a ffafrwyd gan natur sydd fel pelydr cynnes o’r haul pan ddown ar eu traws. Peledr haul oedd David Dupree.’
g.h.matthews Gorffennaf 29th, 2016
Posted In: Uncategorized
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University