• English
  • Cymraeg

Nodwedd amlwg ar gofebion y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru yw cynnwys darn o farddoniaeth fel rhan o’r arysgrif. Weithiau mae yma gerdd a gyfansoddwyd yn arbennig gan fardd lleol, fel yn achos y gofeb ym mynwent capel yr Annibynwyr, Llwynyrhwrdd, ger Tegryn yng ngogledd Sir Benfro.

            O sŵn corn ac adsain cad – huno maent.

             Draw ymhell o’u mamwlad:

            Gwlith calon ga glewion gwlad

            Wedi’r cur, mwynder cariad.

Dyma englyn gan John Brynach Davies, neu “Brynach” o ddefnyddio’i enw barddol . Roedd Brynach yn newyddiadurwr wrth ei alwedigaeth, ac yn aelod gweithgar o’r capel hwn, ac fe fyddai’n barddoni’r helaeth, yn cystadlu mewn eisteddfodau ac yn dathlu digwyddiadau lleol. Peth hollol naturiol oedd iddo gyfrannu fel hyn, ac er nad yw ei enw ar y gofeb, nid oes amheuaeth mai ef oedd y bardd gan fod yr englyn i’w weld yn Awelon Oes, casgliad o’i farddoniaeth a gyhoeddwyd ar ôl iddo farw yn ddyn cymharol ifanc yn 1925, a nodyn wrth y gerdd yn dweud Oddiar Garreg Goffa’r Milwyr yn Llwynyrhwrdd.

Dro arall dyfyniad sydd ar y gofeb o gerdd gan fardd adnabyddus, fel y llinell hon o englyn enwog Ellis Evans, neu “Hedd Wyn” eto i ddefnyddio’i enw barddol. Fe welais i’r llinell hon ar gofebion yn y de-orllewin – yn Aberbanc, Castell Newydd Emlyn a Phencader, ac fe fyddai’n ddiddorol gwybod am fannau eraill lle defnyddiwyd hi fel rhan o’r arysgrif.

           Eu haberth nid â heibio.

Fel yr eglura Alan Llwyd ac Elwyn Evans yn eu cyfrol Gwaedd y Bechgyn: Blodeugerdd Barddas o Gerddi’r Rhyfel Mawr 1914-1918, fe gyfansoddwyd yr englyn hwn ganddo yn 1916, er cof am Tommy Morris, cyfaill a fu farw yn Ffrainc. Coffáu un dyn oedd Hedd Wyn, a ffurf unigol sydd yn yr englyn gwreiddiol, ei aberth; yma ar y cofebion mae angen coffáu nifer o bobl, ac fe newidiwyd y geiriad i’r lluosog, eu haberth.

           Ei aberth nid â heibio – ei wyneb

            Annwyl nid â’n ango,

            Er i’r Almaen ystaenio

            Ei ddwrn dur yn ei waed o.

Nid aberth yw’r unig thema sydd yn codi yn y cerddi hyn. Un arall yw’r cof am y rhai a gollwyd, fydd yn para am byth. Daw un o’r dyfyniadau mwyaf poblogaidd ar y thema hwn o waith John Ceiriog Hughes, “Ceiriog”, ac fe’i gwelais ar 12 o gofebion ar draws y de-orllewin.

           Mewn angof ni chânt fod.

Ar ddwy gofeb arall cafwyd fersiwn ychydig yn wahanol o’r un llinell.

           Yn angof ni chânt fod.

O bennill yn y gerdd Dyffryn Clwyd y daw’r dyfyniad hwn yn wreiddiol,

           Mewn Anghof ni chânt fod,

            Wŷr y cledd, hir eu clod,

            Tra’r awel tros eu pennau chwŷth:

            Y mae yng Nghymru fyrdd,

            O feddau ar y ffyrdd,

            Yn balmant hyd ba un y rhodia rhyddid byth!

Bu farw Ceiriog yn 1887, heb weld cyflafan y Rhyfel Byd Cyntaf, a chyfeirio y mae yma at arwyr yr hen oesoedd. Ond mae defnyddio’r llinell hon yn yr arysgrif fel petai yn awgrymu bod y meirw a goffeir yma yn arwyr hefyd, wedi ennill eu lle yn yr un traddodiad o goffadwriaeth haeddiannol.

Nid yw gweld cerddi fel hyn yn annisgwyl. Maent yn ategu themau’r cofebion, ac yn gydnaws â’r awydd i gofio dewrder ac aberth y rhai a gollwyd. Ond ambell waith fe ddaw cerdd wahanol iawn i’r golwg, cerdd sydd yn gwrthod gwerthoedd milwrol ac yn dyheu am heddwch. Hyd yn hyn fe welais ddwy o’r rhain, un ar gofeb Llanilar ger Aberystwyth, ac un ar gofeb Llangynog ger Caerfyrddin.

Llanilar

Mae adysgrif Llanilar yn coffáu un dyn o’r ardal mewn ffordd syml a gweddus, ond edrychwch ar y cwpled sydd yn dod ar ddiwedd yr arysgrif! Ni lwyddais i ddarganfod enw’r bardd a gyfansoddodd y darn hwn, ond mae ei deimladau yn glir. Nid oes lle i ryfel mewn byd gwâr, a heddwch yn unig sydd yn glod i Dduw.

           Ior Nef! Gwna di i ryfel beidio a bod,

            A’r gwaedlyd gledd i rydu er dy glod.

Mae’r holl arysgrif yn Gymraeg, a rhaid bod y teimladau a fynegir yma yn gyhoeddus, sef galar am ddyn ifanc a gollwyd o’r gymdeithas a dyhead am weld diwedd ar ryfel, yn gydnaws â barn y gymuned yn Llanilar.

Mae’r sefyllfa yn Llangynog ychydig yn wahanol, er bod y gerdd a ddyfynnir yn debyg o ran ei argyhoeddiad. Llangynog

Yma mae geiriad yr arysgrif yn Saesneg, yn llawer mwy milwrol ei naws, a’r milwyr a fu farw wedi ymladd for their king and empire. Ond nid dyma’r neges a geir yn y cwpled Cymraeg sydd ar y gofeb.

           Segurdod yw clod y cledd,

            A rhwd yw ei anrhydedd.

Esgyll englyn enwog gan William Ambrose, “Emrys”, sydd yma, eto yn pregethu heddychaeth digymrodedd.

           Celfyddyd o hyd mewn hedd – aed yn uwch

            O dan nawdd tangnefedd;

            Segurdod yw clod y cledd,

            A rhwd yw ei anrhydedd.

Tybed oedd y bobl luniodd y geiriad Saesneg ar y gofeb, a’i rwysg milwrol, wedi deall ergyd y dyfyniad hwn yn Gymraeg? Beth ddigwyddodd yn Llangynog, i greu cofeb oedd yn mawrygu rhyfel mewn un iaith, ac yn ei wrthwynebu yn y llall?

Tybed a oes enghreiffiau eraill o gerddi fel hyn mewn mannau eraill yng Nghymru ar gofebion y rhyfel byd cyntaf, yn edrych ymlaen at ddyfodol o heddwch gwâr, a diwedd ar ryfela? Tybed hefyd a oes cerddi tebyg i’w gweld yn Saesneg, un ai yma yng Nghymru neu dros y ffin? Ni welais erioed gyfeiriad at hyn, ond mae’n werth holi a chwilota.

 

Gwen Awbery

Caerdydd

Mehefin 3rd, 2016

Posted In: Uncategorized

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University