• English
  • Cymraeg

Wrth i brosiect ‘Cofebau Cymru i’r Rhyfel Mawr’ gasglu gwybodaeth am y cofebau sydd ar hyd a lled y wlad, mae wedi dod yn amlwg bod ardaloedd gwahanol o Gymru gyda phatrymau gwahanol o goffáu. Er enghraifft, mae’n hawdd gweld (ac egluro) bod mwy o gofebau yn yr ardaloedd diwydiannol na sydd yn y Gymru wledig. Er bod nifer o eithriadau, fel rheol mae’r cofebau rhyfel yng nghefn gwlad Cymru yn llai niferus a chyda llai o enwau arnynt – mae hyn yn amlwg oherwydd roedd llai o boblogaeth yn y parthau hynny.

O fewn y Gymru ddiwydiannol neu drefol, ceir nifer o batrymau diddorol – hynny yw, rhai ardaloedd lle roedd y proses o goffáu yn fwy amlwg nag eraill. (Wrth gwrs, un ffactor mae’n rhaid ei ystyried yw nad yw’r cofebau wedi goroesi i’r un graddau ym mhob man, a bod rhai rhannau o Gymru lle mae’n ymddangos bod mwy wedi eu colli na sydd wedi eu cadw). Bydd yr erthygl hon yn canolbwyntio ar Dreforys, gogledd Abertawe, ardal ag oedd â chasgliad niferus o gapeli’r Anghydffurfwyr yn 1914.

Dengys y map uchod sut y dosbarthwyd y capeli (gan gynnwys data Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Erbyn hyn mae rhai o’r rhain wedi cau ac eraill wedi uno, ond erys nifer o’u cofebau o hyd.

Gan fod cynifer o gapeli mewn un ardal, roedd elfen o gystadleuaeth rhyngddynt ac rydym yn gallu gweld hyn yn amlygu ei hun yn y cyfnod 1914-18 pan godwyd cwestiynau am nifer y dynion oedd wedi gwirfoddoli o bob gynulleidfa. Ymdrechodd pob sefydliad i ddangos eu bod yn ‘gwneud eu rhan’ dros ymdrech y rhyfel, ac felly fe geision nhw gael cyhoeddusrwydd am y nifer o ddynion a oedd wedi ymuno â’r Lluoedd Arfog. Er enghraifft, dywedodd un adroddiad papur newydd yn 1916 er nad Carmel oedd â’r gynulleidfa fwyaf yn Nhreforys, ‘[it] has the good record of having 36 of its members and adherents with the Colours’ (Herald of Wales, 22 Ionawr 1916, t.8).

 

 

 

Dyma un enghraifft o ‘Restr Anrhydedd’ a gadwyd gan Philadephia, capel y Methodistiaid Calfinaidd. Mae’n debyg y dangosodd y rhan fwyaf o gapeli lleol Rhestr Anrhydedd yn debyg i hon wrth i’r rhyfel barhau.

 

Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf ohonynt wedi goroesi oherwydd wedi terfyn yr ymladd fe’u rhoddwyd o’r neilltu wrth i gofebau mwy addurnedig gael eu comisiynu.

 

Un peth sydd yn amlwg wrth edrych ar y cofebau isod yw bod un artist lleol wedi cynllunio nifer ohonynt. W. J. James o Benrhiwforgan, Treforys, a gynlluniodd pob un o’r isod: o’r chwith ar y top, ac yn null y cloc – Soar; Carmel; Tabernacl, Treforys; Tabernacl, Cwmrhydyceirw a Seion. Ym mhob un mae llun o’r capel yn y canol tua’r top gyda Jac yr Undeb a’r Ddraig Goch ar y naill ochr.

Mae cynllun y Rhestr Anrhydedd yn y Tabernacl (ar Stryd Woodfield – capel sy’n enwog fel un o’r mwyaf mawreddog yng Nghymru) yn hynod o ddiddorol. Arno ceir arwyddair y Gatrawd Gymreig, “Gwell Angau na Chywilydd” mewn pedair iaith (Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg a Fflemineg) a deg o luniau militaraidd, gan gynnwys delweddau o ynnau peiriant a thanciau.

Yn ogystal â’r Rhestr Anrhydedd, mae gan y Tabernacl, capel y Bedyddwyr, Cwmrhydyceirw, dabled sydd yn coffáu’r ddau ddyn o’r gynulleidfa a fu farw.

Nid oes Rhestr Anrhydedd wedi goroesi ym Methania (Methodistiaid Calfinaidd) – er bod Adroddiad Blynyddol 1919 yn rhoi gwybodaeth am y 55 o ddynion y capel a wasanaethodd yn y rhyfel. Ar un ochr o’r pulpud ceir cofeb farmor i’r 10 o ddynion a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yna, ar ochr arall y pulpud, mae cofeb debyg i’r 5 a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd, fel tystiolaeth drist i’r ffaith nad ‘rhyfel i ddod â phob rhyfel i ben’ oedd y Rhyfel Mawr.

  

Chwefror 5th, 2018

Posted In: Uncategorized

One Comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University