• English
  • Cymraeg

Yng Nghapel yr Annibynwyr yn Rhyd-y-main (chwe milltir o Ddolgellau ar y ffordd i’r Bala), gwelir plac pres mewn lle amlwg i goffáu dynion lleol a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe’i lleolir ar y wal y tu ôl i’r pulpud fel y’i gwelir  gan unrhyw un sy’n addoli yno wrth iddo edrych ar y gweinidog.

Mae’r arysgrif yn darllen:Rhydymain - Capel yr Annibynwyr (6)

ER  COFFAWDWRIAETH  SERCHOG  AM

Y  RHAI  A’U  HENWAU  ISOD  A

SYRTHIASANT  YN  Y  RHYFEL  FAWR

1914-1918

“MEWN  ANGHOF  NI  CHANT  FOD”

 

Wedi rhestru eu henwau ynghyd â’u cyfeiriadau ceir adnod o’r Beibl: “MYFI  YW  YR  ATGYFODIAD  A’R  BYWYD” (Ioan 11:27). Mae’r geiriau’n rhai cyfarwydd a gellir dod o hyd i arysgrifau tebyg mewn capeli ac eglwysi ar draws Cymru.

Rhestrir un ar ddeg o enwau:

Rhydymain - Capel yr Annibynwyr (8)Lewis Jones                              Esgeiriau

Hugh Edward Evans                 Glan Eiddon

William Williams                        Ty Cerryg

William Evan James                  Braich-y-Ceunant

John Richard James                  Braich-y-Ceunant

William Hughes                          Ty Capel

Robert Griffiths                           Pen-y-Bont

Edward Evans                            Blaen-y-Ddol

Thomas Evans                           Coedrhoslwyd

Eiddion Thomas Marchant         Railway Cottage

Joseph Martin                            Bryncoedifor

 

Mae’n ddiddorol fod yr union un enwau i’w gweld ar gofeb capel lleol arall. Capel yn perthyn i’r Methodistiaid Calfinaidd rhwng Rhyd-y-main a Bryncoedifor oedd Siloh a sefydlwyd yn 1874 ond sydd bellach yn dŷ annedd. Mae’r goflech farmor bellach i’w gweld ym mynwent y capel.

Rhydymain - Bryncoedifor - Siloh (5)

Felly, tra bod y mwyafrif o gapeli Cymraeg ond yn coffáu y sawl o’u cynulleidfa hwy a wasanaethodd ac a syrthiodd yn y rhyfel, yn yr achos hwn y mae’r ddau gapel wedi penderfynu anrhydeddu pobun o’r ardal a laddwyd. Ar adeg pan fodolai rhyw gymaint o gystadlu rhwng y gwahanol enwadau, dichon fod hyn yn dangos fod y galar oedd yn eu huno yn fwy na’r gwahaniaethau athrawiaethol oedd yn eu gwahanu.

 

Gellir dod o hyd i bron bob un a enwir yma ar Gofeb tref Dolgellau. Mae ymchwil i hanes y dynion hyn yn dweud llawer mwy wrthym amdanynt. (Y ffynonellau a chwiliwyd am wybodaeth yw llyfryn sydd ymhlith archifau Meirionnydd yn Nolgellau, a gwefan http://www.roll-of-honour.com/Merionethshire/Dolgellau.html ).

 

Edward Evans           Mab John a Jane Evans, Blaen-y-ddol, Rhydymain. Gwasanaethodd gydag ail Fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Fe’i lladdwyd yn Bullecourt 27 Mai 1917, yn 25 oed. Fe’i coffeir ar Gofeb Arras.

Hugh Edward Evans           Mab Griffith a Mary Anne Evans, Glan Eiddon, Rhydymain. Gwasanaethodd gyda ‘Chwmni Myfyrwyr Cymreig yr R.A.M.C.’ a aeth allan i Salonica. Bu farw o falaria yng ngwlad Groeg, 28 Hydref 1917, yn 23 oed. Fe’i claddwyd ym Mynwent Brydeinig, Kalamaria, Salonika, Groeg.

Robert Griffiths                 [Fe’i coffeir ar gofeb Dolgellau ac yng nhofnodau CWGC dan yr enw  Robert William Griffith].  Mab David ac Elizabeth Griffith, 2, Penybont, Rhydymain. Gwasanaerthodd gyda 9fed Bataliwn, Y Gatrawd Gymreig. Lladdwyd ef ar faes y gad 20 Rhagfyr 1917, yn 20 oed. Fe’i coffeir ar Gofeb Thiepval.

John Richard James              10fed Bataliwn, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Lladdwyd ef ar faes y Gad yn Somme 28 Tachwedd 1916. Fe’i ganwyd yn Nolgellau ac ymrestrodd yn Holborn, Llundain. Fe’i claddwyd ym mynwent Euston Road, Colincamps    Braich-y-Ceunant

William Evan James                10fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Lladdwyd ef ar faes y gad yn Somme 16 Awst 1916. Ganwyd yn Nolgellu ac ymrestrodd yn Holborn, London. Fe’i claddwyd ym mynwent Ffordd Guillemont, Guillemont  Braich-y-Ceunant

Ymunodd y ddau frawd James yn Llundain.

Lewis Jones              Mab John a Jane Jones, Esgeiriau, Rhydymain. Gwasanaethodd ym Mataliwn cyntaf y Gwarchodlu Cymreig. Bu farw o’i anafiadau yn ei gartef 25 Medi 1917, yn 21 oed. Claddwyd ef ym mynwent capel yr Annibynwyr Rhyd-y-main.

Joseph Martin                Mab Samuel a Mary Martin, Trewent, Altamon, Launceston, Cernyw. Gwasanaethodd gyda 13 Bataliwn, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Lladdwyd ar faes y gad 29 Hydref 1916, yn 24 oed. Claddwyd ym Mynwent Essex Farm, Ypres.

Eiddion Thomas Marchant         Mab Mr. a Mrs. Thomas Nelson Marchant o Railway Cottage, Rhydymain. Gwasanaethodd yn 233 Cwmni Corfflu’r Dryllau Peiriannol. Lladdwyd ar faes y gad yn Ypres 4 Hydref 1917, yn 21 oed. Fe’i coffeir ar Gofeb Tyne Cot, Gwlad Belg.

William Williams               Gwasanaethodd gydag ail Fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Bu farw o’i anafiadau 21 Medi 1918. Claddwyd ym mynwent Thilloy Road, Beaulencourt

 

Am y ddau arall a goffeir, mae’n debyg y gellir adnabod William Hughes –

William Hughes         [Yn ôl pob tebyg] Mab William ac Ann Hughes, 91 High Street, Blaenau Ffestiniog. Gwasanaethodd 1/5 Bataliwn, Cyffinwyr De Cymru. Anafwyd ar Ffrynt y Marne a bu farw o’i anafiadau ar 30 Mai 1918, yn 19 oed. Fe’i coffeir ar Gofeb Soissons.

Fodd bynnag, nid yw’r wybodaeth sydd ar gael yn gymorth i adnabod Thomas Evans, Coedrhoslwyd.

Mawrth 7th, 2016

Posted In: chapels / capeli, iconography, memorials

5 Comments

Leave a Reply

Your email address will not be published.

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University