• English
  • Cymraeg

Yn ddiweddar fe dderbyniais gan y Parch. Jennie Hurd lun o gofeb mewn capel Cymreig: capel y Wesleaid a adnabuwyd adeg y Rhyfel Mawr fel Cefnblodwel. Mae hon yn ddigon nodweddiadol o’r fath o gofebau sydd i’w darganfod mewn capeli cefn gwlad Cymru: slab o farmor gyda manlylion ddau aelod a fu farw.

 

Dyma’r testun:

Er Serchus Coffawdwriaeth am

Pte WILLIAM TANAT JONES

GLAN-YR-AFON

YR HWN A GWYMPODD AR FAES Y RHYFEL YN RONSEY, FFRAINC, MEDI 18fed 1918, YN 31 MLWYDD OED.

HEFYD Pte JOHN HUGH WOODING, SYCAMORE COTTAGE, MOELYDD.

A GWYMPODD AR FAES Y RHYFEL YN FFRAINC, AWST 30ain 1916, YN 23 MLWYDD OED.

_____________________________

“CARIAD MWY NA HWN NID OES GAN NEB”.

______________________________

RHODDASANT EU BYWYD ER MWYN CYFIAWNDER, RHYDDID, A CHREFYDD.

 

Er bod y dyfyniad o’r Beibl (Ioan 15:13) yn un sydd i’w weld yn ddigon aml ar gofebau capeli Cymru, mae’r llinell olaf sydd yn cyhoeddi’n uniongyrchol bod y dynion wedi gwneud aberth dros ‘Gyfiawnder, Rhyddid a Chryefydd’ yn ddatganiad cryfach nag a welir fel arfer,

 

Mae’n hawdd i ddarganfod y ddau ddyn ar wefan y CWGC. Fe goffair John Hugh Wooding ar gofeb enfawr Thiepval, yn ardal y Somme, Ffrainc. Bu farw tra’n gwasanaethu gyda’r King’s Shropshire Light Infantry.

 

Fe gladdwyd William Tanat Jones ym mynwent Ronssoy yn Ffrainc, yn ardal y Somme (sylwer bod y sillafiad yn anghywir ar y gofeb yn y capel). Roedd yntau’n gwasanaethu gyda 25ain Gatrawd y Royal Welsh Fusiliers.

 

Gellir dod o hyd i wybodaeth am William mewn ambell i bapur newydd Cymreig. Ceir adroddiad yn y Llangollen Advertiser, 11 Hydref 1918, am sut y cyhoeddwyd ei farwolaeth yn yr eglwys yn Llanyblodwel:

On Sunday morning the Vicar (the Rev. J. Allen Jones) referred in feeling terms to the death in action on the west front of Pte. William Tanat Jones, Tyissa, who a month ago was at home on leave, and to the death of Arthur Lewis, The Stores, Porthywaen, who was killed in action in the recent Bulgarian fighting. The whole parish will lament their loss. The organist (Mr T. B. Griffiths) played the Dead March in “Saul.”

 

Ceir ddau adroddiad amdano yn Y Gwyliedydd Newydd (papur newydd wythnosol y Wesleaid Cymraeg). Yn gyntaf cofnodwyd ei briodas, yng nghapel Cefnblodwel ar 4 Ionawr 1916, i Miss Helena Jones, merch Mr a Mrs Jones, Ty Isa. Nodwyd bod William yn gwasanaethu gyda Iwmyn Trefaldwyn (Montgomery Yeomanry: uned a fyddai’n gael ei ad-drefnu yn 1917 fel 25ain Fataliwn y RWF).

 

Yna ceir adroddiad manwl am ei farwolaeth yn rhifyn 6 Tachwedd 1918

 

CEFNBLODWEL

Prudd iawn gennym orfod cofnodi marwolaeth Mr W. Tanat Jones, annwyl briod Mrs Tanat Jones, Ty Isa, a mab Mr a Mrs Wm. Jones, Glanyrafon. Cwympodd ein cyfaill yn y frwydr yn Ffrainc, Medi 18, er tristwch mawr i’w deulu, a’i gyfeillion. Ymunasai a’r fyddin yn gynnar yn y Rhyfel, a bu am oddeutu dwy flynedd ar y maes ym Mhalestina a llawen oedd clywed amdano yn dod o bob brwydr yn ddianaf. Yn ystod y flwyddyn hon symudwyd ef o’r Dwyrain i Ffrainc. Ym mis Awst cafodd ddod adre am dro, a llawen oedd pawb o’i weled yn edrych mor iach, a siriol. Ond ymhen pythefnos ar ôl dychwelyd i’r maes cafodd ergyd farwol, a chladdwyd ef yn barchus yng nghladdfa gyhoeddus Royssons.

Nos Wener, Hydref 18, cynhaliwyd oedfa goffa amdano yng nghapel Cefnblodwel. Pregethodd y Parch Evan Roberts, Croesoswallt, i gynulleidfa fawr gan gyfeirio at gymeriad a gwaith ein cyfaill.

Dyn ieuanc tawel ac enciliol oedd W.T.Jones, ond un a hoffid gan bawb a’i hadwaenai. Yr oedd bob amser yn barod i wneud cymwynas. Tystia’r bechgyn oedd yn ei ymyl yn y fyddin eu bod wedi colli cyfaill cywir iawn. Carai achos Cefnblodwel yn fawr, a disgwylid pethau mawr oddiwrtho pe cawsai ei arbed. Dyma un arall o wyr ieuanc gobeithiol wedi ei aberthu ar allor rhyfel. Huned yn dawel yn ei lannerch bell a chwythed yr awelon yn dyner dros fangre ei fedd. Cydymdeimlwn yn ddwys a’i briod ieuanc a’i rieni, a’i frawd a’i chwiorydd. Cysured yr Arglwydd hwy yn eu trallod.

 

Fodd bynnag, wrth geisio dod o hyd i gapel Cefnblodwel ar restr y Comisiwn Brenhinol o gapeli Cymru, fe gafwyd problem: nid oedd y fath gapel ar y rhestr. Wrth chwilio ymhellach fe ddaeth y rheswm yn amlwg: mae’r adeilad yn tipyn yr ochr arall i’r ffin, chwe milttir i’r de-orllewin o Groesoswallt.

 

Wrth chwilio ar y we am fwy o wybodaeth am y ddau ddyn, fe ddaw rhai eitemau diddorol I’r golwg. Coffäir William Tanat Jones ar garreg fedd ei rieni (William ac Ann Jones) yn Nantmawr – mae’r aarysgrifen yn y Gymraeg er bod Nantmawr yn Swydd Amwythig.

 

Hefyd yn Nantmawr, ceir Rhestr Anrhydedd i gyn-ddisgyblion yr ysgol leol a wasanaethodd yn y Rhyfel Mawr, gan gynnwys enw John Hugh Wooding. Ceir mwy o wybodaeth amdano fan hyn.

 

Nid yw’n ymddangos bod yr un ohonynt wedi’i gynnwys yn ‘Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru’, a gomisiynwyd yn 1928 (er y dylai William Tanat Jones wedi cael ei gynnwys yn rhinwedd y ffaith ei fod yn gwasanaethu mewn Catrawd Cymreig).

 

Bellach cynhelir y gwasanaethau yng nghapel Cefnblodwel yn yr iaith Saesneg, er bod yr achos o hyd yn perthyn i Gylchdaith Cymru y Methodistiaid. Mae’n dangos sut all ardaloedd ar y ffin gael syniadau hyblyg, diddorol am eu hunaniaeth, heb unrhyw broblem gydag uniaithu â ‘Chymru’ a ‘Lloegr’.

 

Ebrill 27th, 2018

Posted In: Uncategorized

Leave a Reply

Your email address will not be published.

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University