• English
  • Cymraeg

Tabernacl, Caerdydd WW1Ar wal y tu fewn i’r Tabernacl, capel y Bedyddwyr yn yr Aes yng nghanol Caerdydd, mae cofeb i goffáu chwech o ddynion yr eglwys a fu farw yn y Rhyfel Mawr.
Tabernacl 1916_rhestr1

Mae’r gofeb ei hunan yn un mawreddog, wedi’i cherfio mewn marmor.

Nid oes cofnod i ddweud os fu ‘Rhestr Anrhydedd’ yn cael ei arddangos yn ystod blynyddoedd yr ymladd i nodi cyfraniad pob un o ddynion y Tabernacl i’r lluoedd arfog. Fodd bynnag, mae adroddiadau blynyddol y capel yn nodi enwau pawb a oedd wedi ymaelodi, ac felly fe welwn fod ymglymiad yr eglwys â’r rhyfel yn dwysau o flwyddyn i flwyddyn. Roedd 45 o enwau ar y rhestr ar ddiwedd 1915, 62 yn 1916, a 66 yn 1917 (gan gynnwys pedwar a oedd wedi cael eu lladd). Roedd nifer aelodau y Tabernacl yn ystod y rhyfel yn amrywio o oddeutu 520 i 560: mae’r cyfanswm o 66 felly yn cynrychioli rhan sylweddol o ddynion ifainc y Tabernacl.

Rhestr o aelodau’r eglwys a oedd yn gwasanaethu yn 1916

Tabernacl 1916_rhestr2Gellid gweld yn yr un modd sut y dyfnhaodd effaith y Rhyfel o edrych ar sylwadau’r gweinidog yn yr adroddiadau. Ar ddiwedd 1914 cafwyd llawer mwy o sôn am y tân a oedd wedi achosi niwed i’r capel nag am y Rhyfel, ond fe aeth sylwadau’r Parch Charles Davies yn fwyfwy prudd a theimladol wrth i’r ymladd barhau a chipio mwy a mwy o ddynion ifainc o’i braidd. ‘Gadawant fwlch mawr ar eu hol, a theimlwn y baich yn trymhau ar ein hysgwyddau yn herwydd colli eu gwasanaeth gwerthfawr’ ysgrifennodd ar gychwyn 1917 yn yr adroddiad am 1916. Fodd bynnag, nodwch ei fod yn datgan yn glir mai rhyfel cyfiawn oedd hwn wrth ddisgrifio ‘teyrngarwch’, ‘dewrder’ ac ‘aberth’ y dynion, ‘yn eu gwaith yn wynebu anghyfleusterau a pheryglon rhyfel er amddiffyn ein gwlad, a sicrhau buddugoliaeth i gyfiawnder a gwir rhyddid yn ein byd’.

Yn y rhestrau o ddynion ceir nodiadau am ble’r oedd nifer ohonynt yn gwasanaethu. Ar ddiwedd 1916 roedd nifer fawr ohonynt mewn gwersylloedd yn Lloegr neu Gymru; 14 gyda’r BEF (British Expeditionary Force) ar Ffrynt y Gorllewin; chwech yn yr Aifft; pedwar yn Salonica ac un yn Bombay.

Yr enw cyntaf ar y gofeb yw Oscar D. Morris. Mae’n bosibl dod o hyd i dipyn o wybodaeth amdano: mae’r llythyrau a anfonodd wrth geisio ymuno â’r Corfflu Cymreig ar gael ar wefan Cymru1914 – http://cymru1914.org/cy/view/archive/4089505

Gellir hefyd dod o hyd i adroddiad am ei ddyrchafiad i fod yn lifftenant (Awst 1915 – http://cymru1914.org/cy/view/newspaper/3886208/7/ART121) ac yna adroddiadau am ei farwolaeth ar Ffrynt y Gorllewin ar 21 Ebrill 1917 (http://cymru1914.org/cy/view/newspaper/3886989/1/ART11 a Tabernacl, Caerdydd WW1_cuhttp://cymru1914.org/cy/view/newspaper/3886999/3/ART35 )

Yr ail enw yw W. Bevan Rees, un o Landybïe, Sir Gaerfyrddin (a oedd yn 20 oed ac yn gweithio fel glöwr adeg cyfrifiad 1911). Bu yntau farw ym Mhalesteina ar 3 Tachwedd 1917.

Reggie I.V.C.Thomas yw’r enw nesaf: bu yntau farw ar 24 Tachwedd 1917 yn 19 oed, tra’n gwasanaethu ar Ffrynt y Gorllewin gyda’r South Wales Borderers. Nid oes ganddo fedd, ond mae ei enw ar gofeb Cambrai.

Gellir darganfod John Wynford Thomas fel bachgen 12 oed yng nghyfrifiad 1911, yn byw yn Llanbedr Efelffre. Nid oes awgrym pa bryd y symudodd i Gaerdydd, ond fe listiodd yn y ddinas, gan ymuno â’r South Wales Borderers. Fe’i laddwyd yn Fflandrys ar 31 Hydref 1917.

Er gwaethaf ei enw cyffredin, mae’n bosibl bod yn sicr mai’r William John Thomas a enwir ar y gofeb yw’r llanc 18 oed a fu farw ar 11 Gorffennaf 1918 tra’n gwasanaethu gyda’r Army Service Corps. Fe’i gladdwyd ym mynwent Cathays, Caerdydd.

Fodd bynnag, nid yw enw Trevor N Evans ar restr y meirw y Commonwealth War Graves Commission. Yn ôl cofnodion y Tabernacl yr oedd yntau’n filwr yn 1916, yn gwasanaethu fel Gunner gyda’r RFA (Royal Field Artillery) ar Salisbury Plain. Noda cofnodion y capel ei fod wedi marw ar 18 Chwefror 1919.

Mawrth 22nd, 2016

Posted In: chapels / capeli, memorials, Uncategorized

Tags: , ,

4 Comments

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University