• English
  • Cymraeg

Wrth i brosiect ‘Cofebau Cymru i’r Rhyfel Mawr’ gasglu gwybodaeth am y cofebau sydd ar hyd a lled y wlad, mae wedi dod yn amlwg bod ardaloedd gwahanol o Gymru gyda phatrymau gwahanol o goffáu. Er enghraifft, mae’n hawdd gweld (ac egluro) bod mwy o gofebau yn yr ardaloedd diwydiannol na sydd yn y Gymru wledig. Er bod nifer o eithriadau, fel rheol mae’r cofebau rhyfel yng nghefn gwlad Cymru yn llai niferus a chyda llai o enwau arnynt – mae hyn yn amlwg oherwydd roedd llai o boblogaeth yn y parthau hynny.

O fewn y Gymru ddiwydiannol neu drefol, ceir nifer o batrymau diddorol – hynny yw, rhai ardaloedd lle roedd y proses o goffáu yn fwy amlwg nag eraill. (Wrth gwrs, un ffactor mae’n rhaid ei ystyried yw nad yw’r cofebau wedi goroesi i’r un graddau ym mhob man, a bod rhai rhannau o Gymru lle mae’n ymddangos bod mwy wedi eu colli na sydd wedi eu cadw). Bydd yr erthygl hon yn canolbwyntio ar Dreforys, gogledd Abertawe, ardal ag oedd â chasgliad niferus o gapeli’r Anghydffurfwyr yn 1914.

Dengys y map uchod sut y dosbarthwyd y capeli (gan gynnwys data Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Erbyn hyn mae rhai o’r rhain wedi cau ac eraill wedi uno, ond erys nifer o’u cofebau o hyd.

Gan fod cynifer o gapeli mewn un ardal, roedd elfen o gystadleuaeth rhyngddynt ac rydym yn gallu gweld hyn yn amlygu ei hun yn y cyfnod 1914-18 pan godwyd cwestiynau am nifer y dynion oedd wedi gwirfoddoli o bob gynulleidfa. Ymdrechodd pob sefydliad i ddangos eu bod yn ‘gwneud eu rhan’ dros ymdrech y rhyfel, ac felly fe geision nhw gael cyhoeddusrwydd am y nifer o ddynion a oedd wedi ymuno â’r Lluoedd Arfog. Er enghraifft, dywedodd un adroddiad papur newydd yn 1916 er nad Carmel oedd â’r gynulleidfa fwyaf yn Nhreforys, ‘[it] has the good record of having 36 of its members and adherents with the Colours’ (Herald of Wales, 22 Ionawr 1916, t.8).

 

 

 

Dyma un enghraifft o ‘Restr Anrhydedd’ a gadwyd gan Philadephia, capel y Methodistiaid Calfinaidd. Mae’n debyg y dangosodd y rhan fwyaf o gapeli lleol Rhestr Anrhydedd yn debyg i hon wrth i’r rhyfel barhau.

 

Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf ohonynt wedi goroesi oherwydd wedi terfyn yr ymladd fe’u rhoddwyd o’r neilltu wrth i gofebau mwy addurnedig gael eu comisiynu.

 

Un peth sydd yn amlwg wrth edrych ar y cofebau isod yw bod un artist lleol wedi cynllunio nifer ohonynt. W. J. James o Benrhiwforgan, Treforys, a gynlluniodd pob un o’r isod: o’r chwith ar y top, ac yn null y cloc – Soar; Carmel; Tabernacl, Treforys; Tabernacl, Cwmrhydyceirw a Seion. Ym mhob un mae llun o’r capel yn y canol tua’r top gyda Jac yr Undeb a’r Ddraig Goch ar y naill ochr.

Mae cynllun y Rhestr Anrhydedd yn y Tabernacl (ar Stryd Woodfield – capel sy’n enwog fel un o’r mwyaf mawreddog yng Nghymru) yn hynod o ddiddorol. Arno ceir arwyddair y Gatrawd Gymreig, “Gwell Angau na Chywilydd” mewn pedair iaith (Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg a Fflemineg) a deg o luniau militaraidd, gan gynnwys delweddau o ynnau peiriant a thanciau.

Yn ogystal â’r Rhestr Anrhydedd, mae gan y Tabernacl, capel y Bedyddwyr, Cwmrhydyceirw, dabled sydd yn coffáu’r ddau ddyn o’r gynulleidfa a fu farw.

Nid oes Rhestr Anrhydedd wedi goroesi ym Methania (Methodistiaid Calfinaidd) – er bod Adroddiad Blynyddol 1919 yn rhoi gwybodaeth am y 55 o ddynion y capel a wasanaethodd yn y rhyfel. Ar un ochr o’r pulpud ceir cofeb farmor i’r 10 o ddynion a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yna, ar ochr arall y pulpud, mae cofeb debyg i’r 5 a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd, fel tystiolaeth drist i’r ffaith nad ‘rhyfel i ddod â phob rhyfel i ben’ oedd y Rhyfel Mawr.

  

Chwefror 5th, 2018

Posted In: Uncategorized

One Comment

Mewn blog cynharach nodwyd rhai enghreifftiau lle coffawyd unigolion ar fwy nag un gofeb. Roedd hyn i’w ddisgwyl os oedd dynion neu ferched yn dal cysylltiad â sefydliad oedd yn awyddus i goffáu’r sawl a ymladdodd ac a fu farw, naill ai wrth i’r Rhyfel fynd yn ei flaen neu ar ei ddiwedd.

Ffordd arall o ddod o hyd i’r cysylltiadau hyn yw drwy edrych ar un gofeb a gweld sawl enw a restrir hefyd  ar gofebau lleol arall. Yn ddiweddar cawsom hyd i ddarlun o gofeb Ysgol Terrace Road i’r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yr Ysgol yng nghyffiniau ardal Mount Pleasant.  Mae cofeb yr Ysgol yn cynnwys enwau 65 o ddynion ‘a roes eu bywyd er diogelu Rhyddid yn y Rhyfel Byd Cyntaf, 1914-1918’.

Mae llawer o’r dynion ar y gofeb hon yn ymddangos ar gofebau eraill  yn Abertawe, yn ogystal ag ar Senotaff y ddinas sy’n cofnodi enwau pawb a gollodd ei fywyd. Un enw sy’n werth sylwi arno yw David Dupree  – mae’n ymddangos mewn blog arall ac yn cael ei enwi ar gofeb gwaith Hafod Isha .

 

Y mae enw o leiaf un arall  – sef Malcolm McIndeor – yn cael ei enwi ar gofeb Clwb Salisbury a  safai gynt ar Walter Road.

Caiff pump o’r dynion eu henwi ar gofeb plwy S. Jude (eglwys a leolwyd ar Terrace Road) –

sef Llewelyn Arnold, Felix Edwards, Edward Gamage, Fred C. Thomas a George Fortune, gydag enw’r olaf yn ymddangos hefyd ar gofeb capel y Bedyddwyr, Mount Pleasant.

Mae bron yn sicr mai Richard Brayley yw’r R. Brayley a goffeir yng nghapel Carmarthen Road.

Mae’n siwr y daw mwy o enwau’r gwŷr o Ysgol Terrace Road i’r amlwg wrth edrych yn fanwl ar gofebau lleol eraill.

Awst 12th, 2017

Posted In: Uncategorized

Leave a Comment

Mae Rodney Parade bellach yn gartref i Glwb Rygbi Dreigiau Cansewydd a Gwent ond mae’r giatiau mynedfa yn ein atgoffa o hanes y clwb. Codwyd y giatiau er mwyn cofio’r 85 aelod o Clwb Athletaidd Casnewydd a gollodd ei fywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae nifer fawr o’r enwau yma ar gofebau lleol o amgylch Casnewydd – er enghraifft, coffawyd 18 ar gofeb yn Eglwys St Mark, mae yna pump ar Cofeb Hen Fechgyn Ysgol Uwchradd Casnewydd a tri ar gofeb Capel Methodistiaid Victoria Avenue. Ymladdodd llawer o’r dynion yma gyda’r catrodau lleol – roedd oleuaf 24 gyda’r Monmouthshire Regiment, a roedd oleuaf 18 gyda’r South Wales Borderers.

Evening Express, 12/12/1908, p.2

Ar y llaw arall, cafodd chwech o’r dynion yma ei lladd tra’n ymladd fel aelodau o byddinoedd tramor – tri hefo byddin Canada, ac un yr un hefo byddinoedd Awstralia, Seland Newydd a De Affrica. Mae hyn wrth sgwrs yn awgrymu ei fod nhw wedi ymfudo cyn cychwyn y rhyfel. Ymfudodd pobl am llawer o resymau gwahanol ar droad yr ugeinfed ganrif, ond mae’n rhaid mae’r un o’r achlysuron mwyaf anarferol yw un Philip Dudley Walller.

Cafodd Philip ei eni yn Bath yn 1889, ond symudodd i Llanelli hefo’i rhieni. Dyma lle gychwynnodd ei yrfa rygbi. Roedd yn flaenwr ddawnus, a chwaraeodd ei gêm gyntaf i Gymru pan oedd dim ond yn deunaw mlwydd oed. Disgrifiodd yr Evening Express (12 Rhagfyr 1908, rhifyn pêl-droed, tud. 2) ei llwyddiant fel “phenomenal rise to football fame” – roedd o dim ond wedi cychwyn chwarae i trydydd tîm Casnewydd yn y tymor 1906-07. Yn 1910 cafodd Waller ei ddewis i chwarae i’r Llewod Prydeinig ar daith i De Affrica. Mae’n ymddangos ei bod ef ac aelod arall o’r tîm wedi cael amser mor dda ei fod nhw wedi dewis aros yno. Dywedai erthygl yn yr Evening Express dan y pennawd “Great Loss to Newport Club” (31 Awst 1910, tud. 4) ei fod hi’n “definitely reported that P. D. Waller and Melville Baker, of Newport, who are now with the British team, will remain in South Africa.”

Sefydlodd ei hunain yn Johannesburg, lle ddaeth yn aeold o Gyngor y Dref. Adroddodd y Llanelli Star ei fod wedi ymrestru mewn i’r South African Heavy Artillery yn Awst 1915 oherwydd ei fod o’n “good sport in every sense of th term and full of patriotic fervour, he saw it to be his duty to do something for his Country” (5 Ionawr 1918, tud. 1). Yn wir, roedd y Llanelli Star yn eiddgar i ganu clod i Phil Waller yn gyffredinol: “Personally, he was a charming young man. Of fine physique, abundant fervour, and highly attractive maner, he was a very popular officer, loved by the men and regarded with very great favour by his supervisors.”

Yn anffodus, bu farw Philip Waller tra’n brwydro yn Ffrainc ar 14 Rhagfyr 1917. Claddwyd ym mynwent Cornel Croes Coch yn agos i Arras. Ysgrifennodd y Llanelli Star ei fod hefo “a wide circle of friends who regret his untimely but glorious death.” Rhai misoedd yn ddiweddaraf, adroddodd y Cambria Daily Leader bod ei frawd Richard Percy wedi cael ei lladd ym Montrose – “he had gained his wings as a pilot only a week before his death (3 Mehefin 1918, tud. 3). Nid yw cofeb rhyfel Llanelli yn rhestri enwau’r milwyr a gofiwyd arno, ond mae enwau’r ddau frawd ar Rhestr Cofeb Sir Caerfyrddin.

 

Mehefin 16th, 2017

Posted In: Uncategorized

Leave a Comment

Y mae gan Cofebau Cymreig i’r Rhyfel Mawr ddiddordeb arbennig yn y cofebau hynny a sefydlwyd gan gymunedau neilltuol i’r rhai a gollodd eu bywyd yn y Rhyfel Mawr.

O’r capeli y daw’r mwyafrif o’r fath gofebau a gasglwyd gennym, ond mae gennym ddiddordeb hefyd yn y rhai a grëwyd gan ysgolion, clybiau a gweithleoedd.

Mae her arbennig wrth chwilio am gofebau gweithleoedd gan nad yw llawer ohonynt oedd ar agor yn 1914 yn dal i fynd bellach. Er enghraifft nid oes un o’r 400 o byllau glo de Cymru a oedd yn weithredol adeg y Rhyfel yn dal mewn bodolaeth bellach, ac yn y rhan fwyaf o’r achosion nid yw eu hadeiladau yn sefyll chwaith. Yn yr un modd, y mae’r mwyafrif o ddiwydiannau trwm Cymru naill ai wedi eu hail-leoli neu wedi cau. Fodd bynnag, yn un o’r prif ardaloedd lle ffynnai diwydiant anfferrus Cymru, saif yr adeilad a fu’n gartref i waith Hafod Isha, lle mwyndoddwyd cobalt a nicel.

Y tu allan i’r adeilad, gwelir cofgolofn garreg yn enwi un ar ddeg o ddynion a laddwyd yn y rhyfel. Mae’n ddiddorol nodi mai eu cydweithwyr a ysgogodd codi’r gofgolofn ac nid y cwmni ei hunan.

Wrth ddefnyddio papurau newydd Abertawe mae’n bosibl i ddysgu mwy am y dynion hyn. Bu un ohonynt eisoes yn destun blog, sef Dai Dupree.

Daw’r cliwiau cyntaf mewn cofnod a welir mewn dwy rôl anrhydedd a gyhoeddodd y Cambria Daily Leader yn Medi a Hydref 1914, yn rhestru enwau’r dynion o’r gwaith a oedd wedi gwirfoddoli i ymuno â’r fyddin. Ceir 64 o enwau ar y rhestr a gyhoeddwyd ar 23 Hydref – gan gynnwys Dupree; George; Isaac; Jenkins; Rees; Sword a Williams.

Felly fe wyddom mai Emin Stanley George yw E. S. George ac iddo gael ei ladd ger Ypres tra’n gwasanaethu gyda Chatrawd Dorsetshire ym Mawrth 1915; lladdwyd George Rees ym Mehefin 1915 tra’n gwasanaethu â’r South Wales Borderers; roedd William Edward Isaac yn gwasanaethu yn adran fagnelau’r Gatrawd Gymreig pan laddwyd ef yn Awst 1916; yng Nghatrawd Oxford and Bucks y gwasanaethai Fred Jenkins a laddwyd yn Salonica yr un mis. Mae’r ffaith fod Charles Williams yn cael ei enwi yn Rhestr Hydref 1914 ar Rôl Anrhydedd y papur newydd fel un yn gwasanaethu gyda’r South Lancashire Light Infantry yn caniatáu inni ddod i’r casgliad gyda pheth sicrwydd mai ef yw’r ‘C. Williams’ a enwir ar Gofeb Hafod Isha. Fe’i lladdwyd yn Salonica ym Medi 1918 wrth ymladd gyda’r Chatrawd De Lancashire.

Dichon mai’r ifancaf o’r enwau ar y gofeb yw eiddo Harold Grey, a fu farw ar y llong S.S. Dundalk, chwe diwrnod cyn ei benblwydd yn 19 oed ar 14 Hydref 1918.

Y mae adroddiadau mewn papurau newydd arall yn ei gwneud hi’n hawdd i adnabod eraill o’r dynion. Ceir adroddiad byr am farwolaeth Maurice Kirwan, 20 oed, a laddwyd yn Ffrainc yn Awst 1917. Dywedir iddo fod yn un o’r gweithwyr a fu yng ngwaith Hafod Isha. Rhoddir yr un wybodaeth am George Pickett a fu farw ar H.M.S. Arbutus. Cafodd y llong ei tharo gan long danfor llynges yr Almaen yn Rhagfyr 1917.

Y ddau na chânt eu rhestru gan y Commonwealth War Graves Commission ymhlith y rhai a laddwyd yw J. White, a J. S. Sword. Y mae gormod o’r un enw â’r cyntaf wedi eu cofrestru, tra bod eisiau mwy o ymchwil am yr ail. Rhestrir James Spence Sword yn rhestr Hydref Cambria Daily Leader: Dengys y cofnodion iddo ymrestru â’r Royal Naval Volunteer Reserve ar 13 Hydref 1914 gan wasanaethu ar sawl llong ryfel tan iddo gael ei ryddhau o’i wasanaeth yn gynnar yn 1919. Er na welir ei enw yn rhestr CWGC list, mae’r ffaith fod ei gydweithwyr yn ystyried iddo fod ymhlith y rhai a glwyfwyd yn y rhyfel ac yn awgrymu iddo farw’n ddiweddarach fel canlyniad i’w glwyfau neu heintglwyf a gafodd yn y rhyfel.

Dirgelwch arall nad oes ateb hawdd iddo yw pam roedd eraill a enwai’r papurau newydd fel gweithwyr yn Hafod Isaf ac a syrthiodd yn y rhyfel heb gael eu henwau ar y gofeb a ysgogwyd gan y gweithlu? Un enghraifft o hyn yw James Heffron, a fu farw yn Awst 1915 tra’n gwasanaethu gyda’r Somerset Light Infantry.

 

Chwefror 27th, 2017

Posted In: Uncategorized

4 Comments

Mae unigolion yn perthyn i nifer o gymunedau ar yr un pryd, ac yn meddu ar berthnasau â grwpiau amrywiol ar nifer o lefelau gwahanol. Roedd hyn yn wir – ac efallai yn fwy gweithredol – gan mlynedd yn ôl. Pan fyddai dyn ifanc yn mynd i ryfel yn 1914-18 byddai ei absenoldeb yn cael ei deimlo mewn amryw ffordd gan y cymunedau yr oedd yn rhan ohonynt – yn ogystal, wrth reswm, ymhlith ei deulu.

Felly mae milwyr a morwyr unigol yn gallu cael eu coffáu ar fwy nag un gofeb. Yn wir, mae’n siŵr bod y rhan fwyaf o’r Cymry a syrthiodd yn y rhyfel yn cael eu cofio ar o leiaf dwy gofeb. I roi enghraifft a dderbyniodd sylw mewn erthygl arall ar y blog, cafodd y 11 o ddynion o ardal Rhydymain a laddwyd yn y Rhyfel eu coffáu ar gofebau dau gapel, ac fe enwir pawb namyn un ar gofeb tref Dolgellau. Yn ogystal, fe enwir y rhai o Ogledd Cymru a syrthiodd ar gofeb arbennig ym Mangor, y bwa coffáu (‘Memorial Arch’); fe ddylai enw pob Cymro a laddwyd fod yn ‘Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru’; fe ddylai pob milwr o Brydain a laddwyd fod yng nghyfrol ‘Soldiers Died the Great War’; ac mae pawb o’r Gymanwlad a fu farw yn cael eu cofio gan y Commonwealth War Graves Commission (CWGC).

 

Wrth gwrs, gan fod cynifer o Gymry gyda chyfenwau cyffredin megis Jones, Williams ac Evans, nid yw’n bosibl bob tro i fod yn sicr mai’r un unigolyn sydd ar y cofebau amrywiol.

 

Ond pan oedd gan y milwr neu’r morwr gyfenw llai cyffredin, mae’n gallu bod yn haws. Coffeir Harry Rosen ar y cofebau yn y man lle addolai – y synagog ym Merthyr Tudful – ac yn ei weithle, gwaith dur a ‘Mountain Levels’ cwmni’r brodyr Crawshay. (Cedwir y ddwy gofeb ysblennydd hyn bellach yn Amgueddfa Castell Cyfarthfa). Dim ond dau ‘H. Rosen’ sydd ar restr y CWGC, ac mae’n amlwg bod y Rosen hwn o Ferthyr wedi gwasanaethu gyda’r Royal Naval Division, a’i fod wedi’i ladd ar ddiwrnod olaf 1917.


Cymro ifanc arall â ganddo enw sy’n hawdd ei olrhain oedd Clarence Stiff o Gwmbrân. Fe rannwyd deunydd sydd ym meddiant ei deulu gyda phrosiect ‘Cymry’r Rhyfel Mawr Ar-lein’ yn 2010. Dim ond 17 oed oedd yntau pan y’i lladdwyd ar Ffrynt y Gorllewin yn 1915. Mae ei ysgrif goffa mewn papur newydd lleol yn ei alw’n ‘llanc rhagorol’: ‘He was an enthusiastic cricketer, and a member of the Cwmbran Cricket Club. He was also a scholar at the Cwmbran Wesleyan Sunday School.’

 

Coffeir Clarence ar dair cofeb wahanol yng Nghwmbrân. Yn Eglwys Sant Gabriel ceir byrddau pren sy’n rhestru 86 o ddynion y plwyf a laddwyd yn y rhyfel, gan gynnwys Clarence. Hefyd ceir ei enw ar y rhestr o bump a syrthiodd yn y Rhyfel Mawr yn Neuadd Byddin yr Iachawdwriaeth ar Stryd Wesle. Fe gofiodd ei gyflogwr – gweithiau Cwmbrân cwmni G. K. N. – hefyd amdano. (Fel y trafodwyd mewn blog gynt, fe sefydlodd y cwmni hwn nifer o gofebau i’w gweithwyr ar draws De Cymru).

Weithiau mae enw cyntaf anghyfarwydd yn ddigon i sicrhau mai’r un dyn sydd ar gofebau gwahanol. Cofnodir Pendal Thomas, peiriannydd, ar gofeb tref Pontardawe i’r Rhyfel Mawr. Enwir R Pendal Thomas ar gofeb capel Pembroke Terrace (MC), Caerdydd (sydd bellach yn fwyty). Nid oes ‘Pendal Thomas’ ar fas-data’r CWGC, ond mae Robert Pendrill Thomas, peiriannydd, a fu farw ar fwrdd S.S. Bayronto ar 30 Gorffennaf 1918. Ceir yr wybodaeth ychwanegol mai ei rieni oedd Hannah a Robert Thomas o Bontardawe. Felly nid oes dwywaith mai’r un dyn a goffeir ar y cofebau ym Mhontardawe a Chaerdydd.

 

Ionawr 19th, 2017

Posted In: Uncategorized

Leave a Comment

Mae’n hen draddodiad o fewn i’r grefydd Gristnogol i gynnwys ffenestri lliw mewn eglwysi sy’n adrodd straeon o’r Beibl, neu o fywyd rhyw sant. Ceir enghreifftiau nodedig yng Ngogledd Cymru o ffenestri a grëwyd yn y canol oesoedd neu yn gynnar yn y cyfnod modern. Yn oes Victoria, pan adnewyddwyd llawer o’r hen eglwysi ar draws Cymru, gosodwyd ffenestri lliw ynddynt. Yn ogystal â golygfeydd o’r Beibl, roedd rhai o rhain wedi eu gosod er anrhydedd i ryw gymwynaswr. Hefyd ceir enghreifftiau mewn rhai eglwysi megis y Santes Fair, Trefynwy, o gofebau i Ryfel y Boer.

 

Nid yw’n syndod felly fod gosod ffenestri lliw yn ffordd o goffáu y sawl a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn arbennig y rhai a syrthiodd yn y Rhyfel. Er hynny, mae’n rhyfeddol sawl un o’r fath gofebau a welir yng Nghymru. Mae llyfr ardderchog Martin Crampin, Stained Glass from Welsh Churches (a gyhoeddwyd gan Y Lolfa yn 2014) yn cynnwys 30 o dudalennau o ddarluniau o’r cofebau hyn.

 

Er bod nifer o ffenestri lliw wedi eu rhoi mewn capeli Anghydffurfiol, gwelir y mwyafrif o’r cofebau hyn o’r Rhyfel Byd Cyntaf mewn eglwysi Anglicanaidd. Y mae’r delweddau a grëwyd yn aml yn drawiadol ac yn heriol. Mae llawer yn cynnwys portread o filwyr o’r Rhyfel – gwelir un sy’n arbennig o drawiadol yn Eglwys Crist, Yr Orsedd (Rossett), yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Wedi ei gysegru yn 1925 i goffáu ‘milwyr y plwyf a roes eu bywyd yn y Rhyfel Mawr’ darlunnir tri o filwyr: ar yr ochr dde ceir milwr o’r Corfflu Cymreig yn cael cymorth gan gludwr-wely yn perthyn i’r R.A.M.C.

Am fwy o ddelweddau o hyn, gweler gwefan a grëwyd gan Martin Crampin ar ‘Gwydr Lliw yng Nghymru’.

Mae nifer o’r delweddau at wefan ‘Stained Glass in Wales’ yn cynnwys Milwyr o’r Rhyfel Byd Cyntaf ynghyd â Christ, gan gysylltu dioddefiadau’r milwyr â stori Crist ar y Groes. Dyna geir yn Eglwys Sant Pedrog, Llanbedrog (o 1918) wrth ddangos ‘Milwr syrthiedig gyda Christ a’r Angylion’, a’r Santes Fair, Spittal (Sir Benfro, o 1916) sy’n dangos ‘Y crist Atgyfodedig yn cwrdd â’r milwr a syrthiodd yn y gad’.
Yn Eglwys Sant Iago, Maenorbŷr, ceir montage o Grist ar y Groes yng nghwmni lluoedd arfog gan gynnwys nyrs.

Un enghraifft nad yw ar y bâs-data yw’r ffenestr lliw yn Eglwys Llanfrechfa, ger Cwmbrân. Mae hon yn darlunio’r Crist Atgyfodedig gyda milwr a syrthiodd ac mae’n coffáu yr Uwch Capten Edmuund Styant Williams a laddwyd yn Ypres ar 8 Mai 1915.

 

 

Y mae hefyd yn drist i nodi yr adeg pryd dadorchuddiwyd rhai o’r cofebau. Crëwyd rhai yn 1919 yn syth ar ôl y Rhyfel, eraill yn ugeiniau’r ganrif, tra bod rhai wedi eu dadorchuddio tra bod yr ymladd yn mynd ymlaen. Cysegrwyd un enghraifft nodedig ar Noswyl Nadolig 1916 yn Eglwys Sant Sannan, Bedwellte.

Dengys hwn Crist ar y Groes gyda milwyr mewn gwisg milwrol y Rhyfel Byd Cyntaf gerllaw; un yn penlinio, un arall yn gorwedd wedi ei glwyfo, neu yn farw. (Ceir mwy o wybodaeth mewn erthygl gan David Mills yn Journal of the Gelligaer Historical Society Cyf. 23, 2016).

Mae’r ffenestr wedi ei gyflwyno i goffáu llawfeddyg lleol, Dr John Clarke, ac mae’r milwr sy’n penlinio yn debyg iawn iddo. Hefyd, mae’r milwr a glwyfwyd yn edrych yn debyg i ŵr lleol arall a syrthiodd, Sgt. W. J. Haskoll o Gatrawd Sir Fynwy, a fu farw yn 31 oed yn Ffrainc ar 25 Mai 1915.

Rhagfyr 21st, 2016

Posted In: Uncategorized

One Comment

Ym Moncath ger Aberteifi, dwy flynedd ar ôl ddiwedd y Rhyfel yn 1918 codwyd cofeb ar ffurf obelisg ar dir Capel Vachendre i goffáu y Preifat Tom Lewis a fu farw ar 27 Medi 1918 tra’n garcharor Rhyfel. Ef oedd mab 27 oed i Jonathan a Martha Lewis, Winllan, Boncath. Ef hefyd oedd yr unig aelod o’r eglwys i farw yn y Rhyfel Mawr. Ni chladdwyd Tom Lewis yng nghapel Vachendre; i weld y fan lle gorwedd ei gorff rhaid teithio i ogledd Ffrainc gan i’r gŵr o Foncath gael ei gladdu yn Glageon Communal Extension Cemetery, ger pentre Trelon, ychydig i gilomedrau o’r ffin â Gwlad Belg. Ar y pryd roedd yn aelod o Fataliwn Cyntaf yr East Yorkshire Regiment.

vachendre-obeliskNid oes hynodrwydd yn y math o obelisg sy’n coffäu Tom Lewis yng nghapel Vachendre; bu’r fath ddelweddau a chofebau yn gyffredin yn amser Victoria ac Edward ac mae rai tebyg i’w gweld ym mywentydd ar draws Gorllewin Cymru a thu hwnt. Yr hyn sy’n wahanol yn yr achos hwn yw’r darn arian mawr sydd wedi ei roi yn seiliau’r gofeb. Dyna ydyw: y medaliwn oddi wrth ‘Brenin a Gwlad’ diolchgar a roddwyd i deulu Tom Lewis a phob teulu a gollodd fachgen neu ferch yn y Rhyfel Mawr.

vachendre-ceiniog

 

Mae gweld medaliwn coffa milwr yn annodweddiadol o gofebau’r Rhyfel Byd. Yn gael ei adnabod fel ‘Ceiniog y Meirw’ (a hynny’n ddilornus yn ôl rhai) dead_mans_pennybathwyd dros filiwn o’r medaliynnau efydd hyn yn y blynyddoedd yn dilyn y Rhyfel. Mesurai’r medaliwn 120mm ar draws ac fe’i lluniwyd gan y cerflunydd Edward Carter Preston. Roedd enw’r milwr a syrthiodd arno heb ei rheng yn adlewyrchu’r ffaith fod pawb yn gyfartal mewn marwolaeth hyd yn oed os nad oedd hynny’n wir pan oeddent byw. Mae llun Brittania, gyda’i thryfer yn rhan o’r alegori gyda llew a dau ddolffin – yr olaf yn cynrychioli grym morwrol y llynges. Ar y gwaelod yr oedd llew arall yn bwyta eryr yr Almaenwyr. O gwmpas y ‘geiniog’ yr oedd y geiriau ‘He died for freedom and honour’ (‘She died …’ os mai merch a laddwyd). Ar y pryd ystyriai rhai y medaliwn yn gydnabyddiath annigonol i’r sawl a laddwyd, ond mae’n amlwg fod teulu Tom Lewis yn ymfalchïo ynddo gan roi lle amlwg iddo yng nghofeb eu mab.

Fel yn achos obelisg Capel Vachendre roedd y teulu a chyfeillion agos yn sicrhau fod cofebau capeli, eglwysi ac eraill, yn rhoi amlygrwydd i’r enwau, hyd yn oed os nad gweddillion y rhai a syrthiodd yn gorwedd yno. Roedd enwau’r milwyr a gladdwyd neu a syrthiodd ac heb fedd dramor yn cael eu torri ar gerrig beddau y teuluoedd gartre ar draws Prydain. Dyma enghraifft o Ynys Môn – er cof am William Jones Owen a fu farw ym Mrwydr Mametz Wood (Gorffennaf 1916).bedd-bodffordd-william-jones-owen

 

 

Roedd y cofebau hyn yn cyfateb i’r bedd tramor ar gyfer y sawl na fedrai fforddio’r gost o deithio dramor i Ffrainc neu Wlad Belg, neu’r sawl nad oedd ganddynt fedd a’r rhai fu farw ar y môr, neu a orweddai mewn beddau yn Mesopotamia, Palestina, Gallipoli, neu Salonika. Wedi’r Rhyfel ymwelai rhai perthnasau a chyfeillion agos yn gyson â’r mannau hyn; ac roedd y cofebau lleol yn atgof parhaol i’r rhai oedd yn fyw ac yn dioddef oherwydd y golled. Erbyn heddiw mae llawer o’r safleoedd hyn yn cael eu hanwybyddu ond mae pob un yn dwyn i gof aberth y sawl a gollodd eu bywyd a gofid a hiraeth y sawl a oedd agosaf atynt.

 

Mae obelisg Vachendre yn un arwyddocaol am reswm arall. Pan gafodd ei ddadorchuddio yn Hydref 1920, ymdeithiodd y cynfilwyr oedd yno yn llu o bentre Boncath i’r capel i glywed yr areithiau wrth ddadorchuddio’r gofeb. Roedd y ddwy farn am y Rhyfel yn amlwg yn yr areithiau hyn. Yn ffodus i’r hanesydd mae adroddiad amdanynt yn y Cardigan and Tivyside Advertiser, ar 22 Hydref 1920. Cyflwynodd y Parchg Esgar James o Aberteifi neges oedd heb amheuaeth yn wrth-filwrol yn dweud nad oeddent wedi ymgasglu ‘i fawrháu militariaeth na rhyfel ond i dalu teyrnged i un a roes ei fywyd lawr er eu mwyn’. Dadorchuddiwyd y gofeb can y Cyrnol Spence Colby a gyflwynodd safbwynt hollol wahanol am y digwyddiadau gan ddweud ‘y dylai’r bobl druenus a deithiodd dros y wlad yn siarad yn erbyn yr hyn a alwent yn filitariaeth adael y wlad a dangos beth oeddent mew gwirionedd: bradwyr i’w gwlad.’ Mae’n anodd barnu wrth ddarllen cofnod byr y papur am y digwyddiad ai ateb sylwadau Esgar James yr oedd y Cyrnol neu ymosod ar aelodau o blith yr Anghydffurfwyr wrth gyfeirio at y ‘bobl druenus’, ond mae agwedd gwrthgyferbyniol y ddau siaradwr a’r teimladau cas a deifiol yn dangos y tensiynau a fodolai rhwng rhai Anghydffurfwyr a’r sawl fel y Cyrnol Spence Colby a gefnogai’n frwd rhan Prydain yn y Rhyfel. Yng Nghymru mae graddau gwrthwynebiad cymdeithas wledig i ryfel yn ystod 1914-1918 ac wedi hynny yn dal yn destun dadl rhwng haneswyr y Rhyfel Mawr, ac yn enwedig am ran gweinidogion yn pregethu yn erbyn rhyfel ac y cefnogi pasiffistiaeth. Dichon ei bod hi’n annoeth i ffurfio barn gyffredinol am agwedd y rhan hon o Gymru yn seiliedig ar un adroddiad mewn papur, a hanes datguddio un gofeb, ond gall tystiolaeth y ffynhonnell hon fod yn rhan o astudiaeth o anerchiadau dadorchuddio cofebau yn ugeiniau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n cael eu hadrodd yn llawn gan rai papurau newydd lleol. Gan osod hyn o’r neilltu, mae safbwynt Esgar James yn cyfateb i syniadau radical, gwrthryfelgar gweinidog Anghydffurfiol yng Nghymru yn ôl rhai haneswyr; ac mae rhai yn credu ei fod yn dangos agwedd a oedd yn gyffredin drwy Brydain yn y cyfnod ar ôl y Rhyfel – pobl yn fwy sinigaidd ac wedi eu dadrithio gan y rhyfel a’i ganlyniadau.

Dr Lester Mason, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

I gyrraedd capel Vachendre rhaid teithio ar ffordd A484 Dinbych-y-pysgod – Aberteifi; milltir a hanner i’r gogledd o Crymych (wedi mynd trwy Blaenffos) troi ar y dde i’r B4332 am Cenarth/Catellnewyd Emlyn. Ym mhentre Boncath cymryd y tro i’r dde i Bwlch y Groes . Milltir lawr y ffordd ar yr ochr dde mae’r Capel.

Hydref 24th, 2016

Posted In: Uncategorized

Leave a Comment

“Machlud bywyd a ddaeth â llawenydd i lawer o gartrefi yn Abertawe”

Mae’n amlwg fod David Arthur ‘Dai’ Dupree/Du Pree (mae’r ffordd y sillafir ei enw yn amrywio) yn ŵr ifanc tra phoblogaidd. Roedd yn chwaraewr rygbi brwd, yn aelod brwd o’r Ysgol Sul ac fel y nododd  yr Herald of Wales yn un o’r bobl hynny  â’r ddawn i gynhesu’n calon pan ddown i gysylltiad â hwy.

Hafod Isha Works WW1 memorialFe’i ganwyd yn Abertawe tua 1895. Ar adeg cyfrifiad 1911 roedd yn byw gyda’i rhieni a’i chwe brawd a chwaer yn 12 Short Street, heb fod ymhell o’r orsaf drenau. Dywed y Cyfrifiad ei fod yn gweithio fel negesydd ar y rheilffordd tra bod William a Frederick, ei frodyr hŷn, yn gweithio fel siyntwyr ar y rheilffordd. Fodd bynnag y mae’n rhaid ei fod wedi newid ei waith gan fod ei enw gyda deg arall ar gofeb Gweithle Hafod Isha ar Ffordd Morfa.

Mae’n amlwg ei fod yn frwd i wneud beth allai dros ei wlad oherwydd roedd ymhlith y cyntaf i wirfoddoli yn Abertawe. O dan y pennawd A GREAT SEND OFF mae’r Cambria Daily Leader yn dweud fod y trên i Lundain am 3.35 ar brynhawn Llun ar 7 Medi 1914 wedi cludo nifer o wirfoddolwyr i Gaerdydd a Llundain. Dewisodd y papur roi sylw arbennig i Dai Dupree ac un gwirfoddolwr arall (Will Harris, Trafalgar Terrace), ymhlith y criw a deithiai. Disgrifiwyd Dai fel chwaraewr rygbi ifanc, poblogaidd, a chanddo lu o ffrindiau yn Abertawe, tra bod Will hefyd yn chwaraewr poblogaidd arall â chanddo nifer o ffrindiau.

 

Ym mhapur newydd o ddiweddarach y mis hwnnw mae ffotograff o holl chwaraewyr tîm rygbi Danygraig – pob un ohonynt bellach wedi gwirfoddoli i wasanaethu yn y rhyfel. Mae llun o Dai ar ochr dde’r rhes ganol.

Y mae llawer o golofnau’r Cambria Daily Leader a’r Herald of Wales yn sôn am Dai. Cyn y Rhyfel ymddangosai ei enw’n aml ar y dudalen chwaraeon: yn ogystal â chwarae rygbi i Danygraig, roedd yn chwarae pêl-droed i’r Alexander Corinthians (tîm oedd yn gysylltiedig â’r Ysgol Sul a fynychai). Dai DupreeYn ystod y Rhyfel roedd yn un o’r perfformwyr yng nghyngerdd y Gwarchodlu Cymreig. Mae’r Cambria Daily Leader yn dyfynnu llawer o’r hyn ddywedodd milwr anhysbys a gafodd amser ardderchog yno. Cafodd y Clwb Glee ymateb emosiynol iawn wedi iddynt ganu ‘Aberystwyth’ a ‘Ton-y-Botel’, a meddai’r milwr ‘mae’n rhaid fod y Saeson oedd yn bresennol wedi meddwl ein bod ni yn wir yn bobl od’. Fe ddilynodd perfformiad Dupree, ond yn anffodus yr unig beth a ddywedir amdano oedd bod y digrifwyr yn arbennig  ac y dylid adnabod Dai ar ôl hynny yn ‘hen foi o Abertawe.’ Byddai’n ddiddorol cael gwybod sut berfformiad oedd gan Dai a sut yr enillodd y fath lysenw.  Yn ddiweddarach dywedodd yr Herald of Wales mai enw’r gân a luniodd oedd y ‘Spanish Onion’ yn cael ei ddarlunio gan weithredoedd rhyfedd. ‘Ni allai’r gynulleidfa beidio â chwerthin. Fe’i perfformiodd ar y Ffrynt hefyd gyda’r un canlyniadau’. Unwaith eto, mae’r wybodaeth yn hynod o brin am fanylion am ei ystumiau.

Bu farw Dai Dupree ar 27 Medi 1916 yn 22 oed. Cofiwyd ef yn annwyl gan ei gyfoedion yn Abertawe a chan y Gwarchodlu Gymreig. Yn wahanol i’r arfer cyflwynodd ei eglwys gofeb ar wahân iddo yn hytrach na roi cofeb wedi ei gysegru i bawb a syrthiodd yn y Rhyfel. Dichon i hyn ddigwydd cyn i’r Rhyfel ddod i ben. Cofnododd y Cambria Daily Leader ar 20  Tachwedd 1916  fod cofeb prês wedi ei ddadorchuddio yn cofnodi’r sawl oedd yn y Rhyfel ac un arall er cof am David Dupree yn unig. Ysywaeth, caeodd Capel Alexandra Road, ac fel gyda chofebau eraill ar draws Cymru ni wyddom beth ddigwyddodd i’r naill na’r llall o’r cofebau.

Fel llawer o filwyr Cymreig arall, person ifanc cyffredin oedd Dai, a ganmolid am ei ddigrifwch; gŵr caredig a ddeuai yn arweinydd mewn rhyw faes. Yng ngeiriau’r Herald of Wales: ‘Y mae rhai llanciau a ffafrwyd gan natur sydd fel pelydr cynnes o’r haul pan ddown ar eu traws. Peledr haul oedd David Dupree.’

Gorffennaf 29th, 2016

Posted In: Uncategorized

Leave a Comment

Wrth i brosiect ‘Cofebau Cymreig’ gasglu gwybodaeth am gofebau’r Rhyfel Byd Cyntaf o bob rhan o Gymru, un peth a ddisgwyliem yw fod cofebau cefn gwlad yn llai sylweddol na rheiny o ardaloedd dinesig poblog. Ni fyddai capeli ac eglwysi gwledig wedi danfon cymaint o ŵyr i’r lluoedd arfog â chapeli ac eglwysi tref drwchus ei phoblogaeth. Hefyd yn y Gymru ddiwydiannol ceid cofebau mewn gweithfeydd i gofio nifer fawr a syrthiodd yn y Rhyfel. Mae’n amlwg na ddigwyddai hyn mewn ardaloedd lle gweithiai’r dynion fel gweision fferm neu denant fferm.

Aberyscir Church (4)Felly mae cofeb hen eglwys Aberysgir, pedair milltir i’r gorllewin o Aberhonddu yn nodweddiadol o’r cofebau syml a geir mewn eglwysi gwledig. Cofnoda wybodaeth am bump o wŷr o’r plwyf, wedi eu trefnu yn nhrefn y wyddor.

 

Dau frawd, meibion teulu  bonheddig Francis a Lucy Dickinson o Aberyskir Court, yw’r enwau cyntaf ar y gofeb. Bu farw’r ddau yn ystod misoedd olaf y Rhyfel. Bu farw Digby Dickinson, yr ieuengaf o’r brodyr ar Ffrynt y Gorllewin ar 18 Awst  1918, tra’n arwain ei ddynion mewn cyrch. Rhydd y Commonwealth War Graves Commision 28 Awst fel y dyddiad cafodd ei ladd ond mae’r adroddiad hwn yn y papur newydd lleol, sy’n uchel ei ganmoliaeth o ddewder y lefftenant ifanc, yn cadarnhau mai y 18fed o Awst sy’n gywir.

Aberyscir Church_

Bu farw’r brawd hŷn, Francis Dickinson, Francis_Dickinsonmis yn ddiweddarach ym mrwydr  Doiran yn Salonica. Roedd y frwydr hon, mewn maes yr anghofiwyd amdano, yn fethiant llwyr i Brydain a chostiodd fywyd dwsenni o filwyr Cyffinwyr De Cymru (South Wales Borderers, SWB).

Cynhaliwyd gwasanaeth i gofio’r brodyr yn Aberhonddu ar 1 Tachwedd 1918, deng niwrnod cyn i’r cadoediad rhoi terfyn ar yr ymladd.  John LewisCynhaliwyd y gwasanaeth dau ddiwrnod ar ôl i un arall ar y gofeb farw.

 

Roedd John Lewis yn fab i John ac Anne Lewis o Llanddew, a chafodd ei ladd ar Ffrynt y Gorllewin ar 29 Hydref 1918. Gwelir ei lun ar wefan Cymru1914.

 

Ni ddeuthpwyd o hyd i wybodaeth am y Lewis arall ar gofeb Aberyscir, sef Sarsiant W. G. Lewis. Fodd bynnag y mae llawer o wybodaeth ar gael am Edgar Gilbert. Mab ydoedd i Eli ac Elizabeth Gilbert o Lwyn-llwyd, Aberyscir. Cyn  y Rhyfel bu’n gweithio fel glöwr yn Llanhiledd (Blaenau Gwent). Ymunodd ef a’i frawd â’r SWB yn haf 1915.

Clwyfwyd Edgar yn gynnar yn 1916 (gweler detholiad o lythyr) ond dychwelodd i’r gad. Ar 25 Gorffennaf 1916 cafodd ei anafu’n ddifrifol yn yr arennau ac wrth i gyfaill fynd i’w achub a’i gario i ddiogelwch, lladdwyd y ddau gan ergydion o ddryll peiriannol.  Ei frawd, Joseph, a hysbysodd y teulu.

Gilbert gravestone Aberyscir

Gan na wyddys lle cafodd ei gladdu, coffeir Edgar Gilbert ar gofeb Thiepval – ynghyd â thros 72,000 eraill o filwyr Prydain a’r Gymanwlad. Fodd bynnag gwelir ei enw ar un gofeb arall, sef carreg fedd ei rieni ym mynwent Aberysgir.

Edgar Gilbert grave

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gorffennaf 22nd, 2016

Posted In: Uncategorized

Leave a Comment

Wrth i’r gwaith o gasglu manylion am nifer fawr o gofebau rhyfel Cymru fynd ymlaen, un peth rydym yn gallu astudio yw beth oedd y bobl ar y pryd yn galw’r rhyfel, er mwyn gael syniad o sut roedden nhw’n deall yr ornest. Wrth gwrs, nid oedd neb ar y pryd yn cyfeirio ato fel ‘y Rhyfel Byd Cyntaf’.Moriah

 

Yr enw mwyaf cyfarwydd yw ‘Y Rhyfel Mawr’ yn y Gymraeg / ‘The Great War’ yn Saesneg. Mae hwn yn enwedig yn wir am y cofebau a godwyd i’r meirw yn y blynyddoedd wedi’r rhyfel. Gweler, er enghraifft, cofeb Moriah, Ynystawe.

 

Gwelir eithriad bychan mewn rhai cofebau sy’n cyfeirio at ‘Ryfel Mawr Ewrop’, fel un Hermon, Pen-bre. Yn yr un ffordd mewn cofebau’r iaith Saesneg, ceir cyfeiriad weithiau at ‘the Great European War’, fel yng nghofebau eglwys Fethodistaidd Conway Road, Caerdydd, Noddfa, Abersychan, neu Carmarthen Road, Abertawe (isod).

Hermon Carmarthen Road

 

 

 

 

Os roddir dyddiadau, y tuedd yw i nodi ‘1914 – 1918’, er bod rhai, fel cofeb Bethel, Sgeti a chofeb Mount Pleasant, Abertawe, yn rhoi ‘1914 – 1919’ sydd yn adlewyrchu’r ffaith mai cadoediad a gafwyd yn 1918, a dim ond yn y flwyddyn ganlynol y llofnodwyd y gytundeb heddwch.

 

TabernaclMewn rhai cofebau capel, fodd bynnag, ceir enw amgen ar y Rhyfel. Mae rhestr anrhydedd y Tabernacl, Treforys, yn cyfeirio at ‘Rhyfel Rhyddid’, ac yn Saesneg, ‘the Great War, 1914-18, for Liberty and Justice’. Mae’n werth oedi i ystyried y datganiad hwn: mae’n ein hatgoffa bod pobl ar y pryd yn gallu ystyried mai rhyfel dros egwyddorion hanfodol ydoedd, a’i fod yn ymgyrch cyfiawn.

 

Ceir teitl arall ar gofeb capel Methodistiaid Calfinaidd Dinmael, yn Uwchaled, Sir Gonwy: ‘Brwydr Armagedon 1914-18’. Dinmael3

 

Hyd yn hyn, dyma’r unig gofeb sydd wedi dod i’r golwg sy’n cyfeirio at ‘Armagedon’, ond mae’n adlewyrchu sut oedd pobl yn siarad am y gyflafan ar y pryd. Yn wir, mae’n bosibl olrhain defnydd y gair ‘Armagedon’ / ‘Armageddon’ ym mhapurau newydd Cymru yn ystod blynyddoedd yr ymladd trwy ddefnyddio casgliad ardderchog ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol. Ceir ychydig o ystyriaeth o hyn ym mhennod agoriadol y llyfr Creithiau: Dylanwad y Rhyfel Mawr ar Gymdeithas a Diwylliant yng Nghymru a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru ym mis Awst – ond dyma un graff nad yw yn fersiwn terfynol yr ysgrif.

Armagedon

Amlder ymddangosiad y gair ‘Armagedon’ yng nghasgliad ‘Papurau Newydd Cymru Arlein’, 1914 i 1918, fesul dri mis

 

Fe welir yn hwn bod ychydig iawn o gyfeiriadau at ‘Armagedon’ cyn dechrau’r Rhyfel, ond bod nifer fawr o ymddangosiadau o’r gair yn ystod yr ymladd, gydag uchafbwyntiau ar adegau megis y misoedd cyntaf, Ail Frwydr Ypres, Brwydr y Somme a’r misoedd gwaedlyd yn 1918.

Felly, wrth edrych yn ôl ar y gyflafan, roedd yn naturiol i gapelwyr Dinmael ddefnyddio iaith Feiblaidd a disgrifio’r ymgyrch fel y gyflafan a ddisgrifir yn Llyfr y Datguddiad fel y frwydr ar ddiwedd y byd.

dinmael2

Dau beth arall i nodi ar y gofeb hon: yn gyntaf, sylwer bod canran rhyfeddol o uchel – 12 allan o’r 23 o ddynion – gyda’r cyfenw Jones. Nid oes rhyfedd bod y gofeb hon (fel nifer fawr o gofebion cefn gwlad Cymru) yn rhoi enw’r fferm yn ogystal, i wahaniaethu rhwng y dynion ag enwau tebyg.

Yn ail, nodwch yr enw cyntaf ar y rhestr: David Ellis, B.A., Penyfed. Dyma’r ‘bardd a gollwyd’, aelod o uned Gymreig arbennig yr RAMC (gweler, er enghraifft, un o’i gerddi fan hyn ac un o’i lythyrau fan hyn). Diflanodd tra’n gwasanaethu yn Salonica ym mis Mehefin 1918.

Mehefin 27th, 2016

Posted In: Uncategorized

Leave a Comment

« Previous PageNext Page »

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University