• English
  • Cymraeg

Siloh Glandwr - Roll of Honour_Ar ôl bron 190 o flynyddoedd, fe gaeodd capel mawreddog yr Annibynnwyr, Siloh Glandŵr, ei ddrysau ym mis Ionawr 2016. Ganrif yn ôl, roedd rhyw 640 o aelodau yma; ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd roedd dros 600; pan ddaeth yr achos i ben roedd nifer yr aelodau yn llai na deg.

Yn nghyntedd yr adeilad roedd ‘llech anrhydedd’ i goffáu’r 84 o ddynion y capel a wasanaethodd yn y lluoedd arfog rhwng 1914 a 1918. Nid yw’r cyfanswm hwn yn annisgwyl ar gyfer cofeb capel yng ngogledd Abertawe – ceir, er enghraifft, 81 o enwau ar gofeb Caersalem Newydd, Treboeth, a 66 ar gofeb Carmel, Treforys.

Mae’r ddarluniau sydd ar y gofeb hon yn ddiddorol, ond eto mae tebygrwydd â chofebau eraill. seilo angelGwelir colofnau ffug-glasurol naill ochr i’r enwau ar gofebau capel Mynydd Bach (gogledd Abertawe), Zoar (Merthyr), Graig (Merthyr), Libanus (Dowlais) a Carmel (Aberdâr), i enwi dim ond pump arall. Hefyd, gweler angylion ar gofebau Zoar (Merthyr) a Noddfa (Abersychan).

Nid yw’r dewis o adnod Beiblaidd yn un cyfarwydd (‘Tariannau y ddaear ydynt eiddo Duw’ – Salm 47:9) ond eto, fe welir egwyddorion tebyg ar gofebau capeli ar hyd y wlad.

O ran y dynion ei hunan, rydym yn gwybod (diolch i adroddiadau blynyddol y capel) bod 18 wedi gwirfoddoli yn 1914 a 10 yn 1915. Cyflwynwyd gorfodaeth filwrol ar ddechrau 1916, felly nid oes modd dyfalu faint o ddewis oedd gan y 25 a ymrestrodd y flwyddyn honno, na’r 15 yn 1917 na’r 12 yn 1918.

Nodir Seilo Canadianbod un o’r dynion (Capten Willie Richards) wedi gwasanaethu gyda lluoedd Canada. Eto, ceir nifer o enghreifftiau tebyg ar draws Cymru o ddynion a wasanaethodd gyda (yn arbennig) byddin Canada neu Awstralia. Adlewyrcha hwn yr ymfudo sylweddol a oedd wedi digwydd o Gymru i’r dominiynau yn y degawd hyd at 1914.

Nid y ‘llech anrhydedd’ yn unig sy’n cyflwyno safbwynt y capel am gyfiawnder yr achos Brydeinig: anfonwyd llythyrau bob Nadolig gan y gweinidog, y Parch. Samuel Williams, i ddynion y fyddin a’r llynges yn eu sicrhau bod Siloh yn eu cefnogi a gweddïo drostynt. Pan ddychwelodd y milwyr ar ymweliad, cynhaliwyd cyfarfodydd i’w croesawu, a chyflwynwyd iddynt rodd o ysgrifbin gan y capel. Gallwch ddarllen fan hyn adrodiad o Ionawr 1917 pan y cyflwynwyd Preifat Tom Matthews ag ysgrifbin gan y Parch Williams.seilo rhestr

 

Yn wahanol i nifer o gapeli, nid oes cofeb ar wahân yn Siloh i’r rhai a syrthiodd, ond fe ychwanegwyd croes wrth enwau chwech o’r dynion i nodi eu bod wedi marw yn y rhyfel.

 

Er bod capel Siloh wedi cau a bydd yr adeilad yn cael ei werthu, mae’r gofeb wedi’i diogelu diolch i Archifau Gorllewin Morgannwg.

Ebrill 25th, 2016

Posted In: Uncategorized

Leave a Comment

Mae gan brosiect ‘Cofebau Cymreig i’r Rhyfel Mawr’ ddiddordeb mewn cofebau sy’n coffáu cymunedau arbennig, megis y rhai mewn capeli, clybiau, ysgolion neu weithleoedd. Wrth gwrs, diflannodd neu newidiodd rhai o’r sefydliadau hyn dros y blynyddoedd ac yn achos gweithleoedd mae’n anodd dod o hyd i lofeydd a diwydiannau sy’n dal i ffynnu.

Un sefydliad sydd yn ffynnu a’i le yn y gymdeithas yn sicr yw’r Heddlu. Gwir i ad-drefnu ddigwydd ac fe ymunodd yr hen Heddlu Morgannwg ag heddluoedd annibynnol Caerdydd, Merthyr, Castell-nedd ac Abertawe i ffurfio Heddlu De Cymru. Mae gan yr heddluoedd trefol eu cofebau eu hunain i’r rhai o’u plith a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar Heddlu Morgannwg.

Y tu allan i BencadlysSouth Wales Police - memorial to the dead2 yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr saif cofeb drawiadol yn enwi 58 a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r 28 a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd.

South Wales Police - memorial to the dead cu names

 

Fel arfer fe welir Rhestr Anrhydedd trawiadol oddi mewn i’r adeilad – Glamorgan Constabulary - South Wales Police - Roll of Honourond ar hyn o bryd, oherwydd gwaith adnewyddu, mae hwn yn yr orsaf yng Nghaerdydd.

Mae’r gofeb hon yn rhestru’r 58 o ddynion gan roi manylion am gylchoedd eu gwasanaeth fel aelodau o’r heddlu.

SWP RoH

Mae Grwp Prosiect Rhyfel Byd Cyntaf Heddlu De Cymru wedi bod yn brysur yn ymchwilio i hanes y dynion hyn fel bod mwy ar gael na dim ond rhestr o enwau. Mae cyfres o lyfrynnau yn cael eu paratoi gan ddechrau gydag un sy’n adrodd stori’r rhai syrthiodd yn 1914.

 

Wrth edrych ar lyfryn 1915, mae’n rhyfedd gweld fod pump o heddweision Morgannwg ac un o Gaerdydd wedi cael eu lladd ar yr un diwrnod, 27 Medi 1915, ar ddiwrnod cyntaf  Brwydr Loos (yng ngwlad Belg ar Ffrynt y Gorllewin). Lladdwyd pump arall o heddlu De Cymru o fewn mis yn yr un ardal.SWP Richard Thomas

Mae llyfryn yn adrodd am y cysylltiad fu rhwng yr Heddlu a’r Gwarchodlu Cymreig ac mae
llyfryn arall yn ffocysu ar stori Richard Thomas (a adwaenid fel ‘Dick’).

Wedi ei eni yn Ferndale yn 1881, roedd yn adnabyddus cyn y rhyfel fel sbortsmon a enillodd bedwar cap yn chwarae fel blaenwr i Gymru rhwng 1906 a 1909. Roedd yn un o’r tîm a enillodd y Gamp Lawn am y tro cyntaf pan enillodd Cymru yn erbyn Iwerddon ym Mawrth 1908. Er iddo ennill bri fel blaenwr caled, chwaraeai fel cefnwr yn nhîm Heddlu Morgannwg.  I brofi ei fod yn amryddawn, fe enillodd pencampwriaeth bocsio pwysau trwm yr heddlu dair gwaith.

Yn Awst 1913 cafodd Dick ei ddyrchafu’n Rhingyll a’i roi yng ngorsaf yr Heddu Pen-y-bont ar Ogwr. Fodd bynnag ym mhumed mis y Rhyfel gwirfoddolodd i wasanaethu yn y 16eg Bataliwn y Gatrawd Gymreig a adwaenid fel Bataliwn Dinas Caerdydd. Roedd hwn yn rhan o ‘Gorff y Fyddin Gymreig’ – a ffurfiwyd fel rhan o’r ymdrech a arweinid gan Lloyd George i sicrhau fod ‘Byddin Gymreig ar faes y gad’. Wedi ymarfer yng Nghymru, aeth yr uned  ymlaen i Gaer-wynt am ymarfer pellach cyn ymadael i Ffrynt y Gorllewin fel rhan o Adran 38 (Gymreig) y Fyddin.

Bu’r Adran yn ymladd am y tro cyntaf ym mrwydr fawr Mametz Wood, chwe diwrnod wedi dechrau ymgyrch y Somme yn 1916. Roedd Bataliwn Dinas Caerdydd ymhlith y rhai a orchmynnwyd i ymosod ar 7 Gorffennaf ar draws dir agored i feddiannu’r goedwig oedd ag amddiffynfeydd cryf.  Roedd Dick Thomas yn un o 300 o golledigion y bataliwn y diwrnod hwnnw.

South Wales Police - Roll of H2

Wrth edrych ar gofeb heddlu Morgannwg, ceir gwybodaeth am eraill a laddwyd yn yr un frwydr. Lladdwyd Robert Harris (Bataliwn Dinas Caerdydd, 7 Gorffennaf 1916), William Edward Trinder (Bataliwn Dinas Caerdydd, 7 Gorffennaf 1916) a William Henry Loud (10fed  Bataliwn (Rhondda) y Gatrawd Gymreig, 10 Gorffennaf 1916) wrth i’r Cymry feddiannu Mametz Wood; nid nepell i ffwrdd lladdwyd Edward Beresford (Catrawd South Staffordshire, 10 Gorffennaf) tra’n cynorthwyo yn yr ymgyrch.

 Gyda diolch i Gaeth Madge am ei gymorth

Ebrill 18th, 2016

Posted In: Uncategorized

Leave a Comment

Pentref yn Nyffryn Ogwen, sir Caernarfon yw Tregarth. Mae capel y Methodistiaid Wesleaid, ‘Shiloh’ a’r eglwys, ‘St Mary’s’ yn dal ar agor ac mae ganddynt gofebau sy’n cofio rheiny a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r eglwys hefyd yn dal cofeb yr hen ysgol Sul, a ffenestr gwydr lliw er cof am y brodyr Brock. Eu tad oedd pennaeth yr ysgol leol. Mae gatiau’r eglwys hefyd yn gofeb i’r sawl a fu farw yn y ddau ryfel byd.

DSCN0336 (800x600)Mae cofeb Shiloh yn rhestru enwau a chartrefi aelodau’r gynulleidfa a fu farw yn ymladd yn y rhyfel (er enghraifft: Richard Jones – Tyddyn Dicwm). Mi roedd yn rhaid rhestru enw’r stryd neu’r fferm lle roeddent wedi byw, gan bod y gymuned yn adnabod pobl trwy enw’r lle roeddent yn byw, yn hytrach na thrwy eu cyfenwau. Felly, mae’n debyg y byddai Richard Jones wedi cael ei adnabod fel Richard Tyddyn Dicwm. Mae’r gatiau tu allan i St. Mary a chofeb yr ysgol Sul hefyd yn nodi lle roedd y milwyr yn byw. Roedd hyn yn bwysig hefyd gan fod nifer o’r milwyr efo’r un cyfenw – mae 43 enw ar gofeb yr ysgol Sul, ac o’r rheiny mae 13 yn ‘Jones.’

Mae cofeb St Mary, ar y llaw arall, yn ymddangos fel ei bod yn DSCN0342canolbwyntio mwy ar y rhan roedd y milwyr yn chwarae yn y rhyfel yn hytrach na’u rhan yn y gymuned. Nid yw’r gofeb yn dweud lle roedd y milwyr yn byw, na hyd yn oed enw cyntaf y rhai a laddwyd. Yn lle hynny, mae’n rhestru eu rheng yn y fyddin; llythyren gyntaf eu henw; cyfenw a’r flwyddyn a’r ardal lle y syrthion nhw. Mae’r gofeb gwydr lliw i’r brodyr Brock yn St Mary yn adlewyrchu’r pwyslais ar ymdrechion milwrol. Rydym yn gwybod o gofeb yr ysgol Sul bod y teulu yn byw yn Sunnyside, ond nid yw’r gofeb wydr yn sôn am hynny. Mae’n darllen: ‘In loving memory of Lieut. Herbert Leslie Brock (BA Wales) 20th Div. MGC. Killed in action in France April 10th 1918 age 28, and Private Ivor James Baxter Brock 14th Batt. R. W. F. killed in France Sept. 1st 1917 age 19. “Greater love hath no man than this that a man lay down his life for his friends.” S. John XV 13’ (Er cof annwyl am Lieut. Herbert Leslie Brock (BA Cymru) 20fed adran. MGC. Lladdwyd wrth ymladd yn Ffrainc Ebrill 10fed 1918 yn 28 mlwydd oed, a Preifat Ivor James Baxter Brock 14fed adran. R.W.F. wedi lladd yn Ffrainc Medi 1af 1917 yn 19 mlwydd oed. “Cariad mwy na hwn nid oes gan neb, sef bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion’ Ioan XV. 13.)

Mae cofebion gwahanol yn cofio dynion mewn gwahanol ffyrdd, ac mae’r un peth yn wir am ysgrifau coffa y papurau newydd. Un amcan y prosiect (ymhlith eraill) yw ymchwilio i gofebau ar draws Cymru er mwyn gweld os yw hi’n bosib nodi patrymau yn eu harddull a’u geiriad. Er enghraifft, a oedd nodi cartref y milwr ar gofeb yn nodwedd unigryw i ogledd Cymru, neu a oedd hi’n arferol ar draws cefn gwlad Cymru? A oedd pob Eglwys Anglicanaidd yn nodi lle ac ar ba ddyddiad y bu aelodau o’i chynulleidfa farw yn y rhyfel? Mae angen mwy o ymchwil hefyd ar ysgrifau coffa y papurau newydd – a oedd eu safbwynt crefyddol neu wleidyddol yn cael effaith ar y math o ysgrif goffa roeddent yn eu cyhoeddi?

Mae tair enghraifft o ysgrifau coffa dynion o Tregarth yn dilyn. Roedd Y Llan yn bapur Anglicanaidd dwyieithog, tra roedd y Gwyliedydd Newydd yn bapur y Wesleaid. Roedd Y Genedl yn fwy gwleidyddol ei naws, gan gefnogi’r Rhyddfrydwyr ond hefyd yn croesawu cyfraniadau oedd yn adlewyrchu’r safbwynt sosialaidd.

Ymddangosai bod Y Llan a’r Genedl yn pwysleisio bod y milwyr yn ddynion dewr oedd wedi cwympo er lles y breninDSCN0338 a’r gwlad. Tra roedd Y Llan (28/4/1916, tud.7) yn ymestyn eu cydymdeimlad mwyaf tuag at holl deulu David Williams, yn enwedig ei wraig, ei blant ifanc a’i fam, roeddent yn credu ‘y mae cysur i’w gael wrth feddwl ei fod wedi marw wrth wneud ei ddyletswydd.’ Mis yn ddiweddarach, roedd Y Genedl (23/5/1916, tud.8) yn gryfach ei argyhoeddiad fod y milwyr yn marw dros achos cyfiawn. Roedd yr erthygl am wasanaeth er cof am Richard Price Jones, ond yn ei chanol mae’n sôn am bob milwr yn y rhyfel: ‘Da gweled yr ardalwyr yn gollwng dagrau hiraeth, ac o barch, ar ôl y bechgyn sydd yn rhoddi eu bywydau i lawr i gadw y gelynion rhag gwneud ein gwlad fel Belgium, Serbia a Pholand.’ Cafodd gwasanaeth coffa Richard Price Jones ei gynnal yng Nghapel Calfinaidd Tregarth, ond yn anffodus nid wyf yn gwybod os yw’r capel dal ar agor nac os oes ganddyn nhw gofeb.

DSCN0345Roedd y Gwyliedydd Newydd yn hollol wahanol, ac yn llai sicr bod y Rhyfel Mawr yn achos a oedd yn werth yr aberth. Cydnabyddai hefyd nad oedd pob milwr ar faes y gad eisiau bod yno. Nid yw fy ymchwil hyd yn hyn wedi bod yn helaeth iawn, felly mae’r ysgrif goffa gyntaf am filwr o eglwys Shiloh rwyf wedi darganfod yn dod o fis Medi 1916. Roedd gorfodaeth filwrol wedi’i chyflwyno yn mis Mawrth 1916, a roedd agweddau am y rhyfel dros Brydain gyfan wedi newyd cryn dipyn ers diwrnodau gwladgarol a gobeithiol 1914. Hefyd, fel mae Dafydd Roberts wedi egluro yn ei erthygl: ‘”Dros ryddid a thros ymerodraeth” Ymatebion yn Nyffryn Ogwen 1914-1918’ (Trafodion Cymdeithas Hanes Caernarfon, 1988-9 tud.107- 123), roedd trigolion Dyffryn Ogwen wedi bod yn eithaf amharod i ymrestru ers cychwyn y rhyfel. Roedd traddodiad cryf o heddychiaeth ymhlith Methodistiaid Cymru cyn 1914, ac efallai bod hyn wedi cael effaith ar safbwynt Y Gwyliedydd Newydd am y rhyfel. Pan yn ysgrifennu am wasanaeth coffa Rowland Hughes (12/9/16, tud.6) mae’n cyfeirio at faes y gad fel ‘maes y gyflafan ofnadwy.’ Pan fu farw Owen Ellis ar y ffrynt, chwaraeodd y papur (30/1/1917, tud.7) hefo’r ymadrodd ‘maes y gad’, gan ei alw’n hytrach yn ‘faes y gwaed.’ Erbyn i David Richard Jones farw (2/7/1918, erthygl yn cael ei chyhoeddi 24/7/1918, tud.8), roedd Y Gwyliedydd Newydd yn galw’r holl rhyfel yn ‘y gyflafan erchyll yma.’

Mewn dwy erthygl am aelodau o gynulleiddfa Shiloh a fu farw ar y ffrynt, mae’r papur yn ei gwneud hi’n glir nad DSCN0319oeddent wedi ymrestru oherwydd eu bod nhw’n credu mewn gogoniant rhyfel. Mae’r cyntaf, am Rowland Hughes (12/9/16, tud. 6), yn dweud: ‘Ymunodd a’r fyddin o argyhoeddiad dwfn. Methai a chysgu’r nos gan faint bwysai ar ei feddwl. Cychwynnodd i’r chwarel at ei waith, troes yn ei ôl, a cherddodd i Fangor i ymuno a’r fyddin, – “yr wyf i fod i listio, meddai, i ymladd dros gyfiawnder.” Er ei fod wedi penderfynu ymladd dros ei egwyddorion yn y diwedd, mae’r papur newydd yn gwenud hi’n glir nad oedd y penderfyniad yn un hawdd i’w gwneud. Yr erthygl am Owen Ellis yw’r ail enghraifft (30/10/1917, tud. 7). Pan yn disgrifio’i gymeriad, dywedai’r papur ei fod yn ‘un o’r bechgyn tyneraf ei ysbryd, a pharatof ei gymwynas. Er iddo farw’n filwr ar faes y gwaed, nid milwr mohono wrth anianawd. Yr oedd o duedd enciliedig, gwell ganddo wrando na llefaru. Er hynny, pan alwyd arno i gyflawni’r annymunol gwnaeth hynny yn ffyddlon a theyrngarol. Da gennym glywed gan ei Gaplan iddo farw fel y bu fyw, yn llawn arwriaeth.’ Er bod y dyfyniad yn cyfeirio at Owen yn ‘gwneud ei ddyletswydd” ac yn ‘marw yn llawn arwriaeth,’ mae hefyd, dwi’n meddwl, yn gwneud hi’n berffaith glir na ddylai o fod wedi marw ar faes y gwaed.

Mae’r erthygl yma ond wedi edrych yn fras ar rhai cofebau mewn un pentref. Mi fyddai’n hynod ddiddorol os gallai eraill edrych ar gofebau ac ysgrifau coffa eu hardaloedd lleol.

 

Ebrill 11th, 2016

Posted In: chapels / capeli, memorials

Tags: ,

Leave a Comment

Mae’n bosibl mai’r cyfanswm o 85 o ddynion o Gasnewydd a laddwyd ar 8 Mai 1915 yw’r golled fwyaf a ddioddefodd unrhyw dref Gymreig ar un diwrnod yn ystod y Rhyfel Mawr. Roedden nhw’n rhan o Frwydr Crib Frezenberg, a oedd yn rhan o’r ymgyrch sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Ail Frwydr Ypres.

mons stow hillMae’r llun yma’n dangos dynion yn gorymdeithio lawr Stow Hill, Casnewydd, yn yr Haf 1914 – mae’r ysgrifen arno yn dweud  ‘Newport boys off to the front’. Job William White yw’r dyn sy wedi ei amlygu ar flaen y llun. Cafodd ei ladd ar 8 Mai 1915. Yn bellach tu ôl iddo mae John Albert Pope, a laddwyd ddwy flynedd yn ddiweddarch, ar 17 Mehefin 1917. Cafodd Bataliwn Cyntaf Catrawd Sir Fynwy ei ricriwtio yn y Drill Hall yn Stow Hill, Casnewydd. Aeth y dynion yma (gyda dau fataliwn arall y gatrawd) ymlaen i chwarae rhan bwysig yn Ail Frwydr Ypres, a gychwynnodd ar 22 Ebrill 1915.

 

Ar 8 Mai roedd Catrawd Sir Fynwy yn ceisio amddiffyn Crib Frezenberg rhag ymosodiad ffyrnig yr Almaenwyr. Erbyn diwedd y diwrnod, roedd y Gatrawd wedi colli 211 o ddynion a swyddogion – 150 o’r Bataliwn Cyntaf, 19 o’r Ail Fataliwn a 42 o’r Trydydd. Erbyn diwedd mis Mai roedd y tri bataliwn wedi colli cyfanswm o 515 o ddynion, gyda’r Trydydd Battaliwn yn dioddef y colledion mwyaf.

 

MayEighthYn ystod y frwydr ymatebodd Capten Harold Thorne Edwards ymateb i gynnig yr Almaenwyr i ildio gyda’r geiriau: “Surrender be damned” a fe wnaeth e a’i ddynion yr aberth eithaf. Cafodd yr olygfa o safiad olaf Gapten Edwards a’i ddynion ei ddarlunio gan Fred Roe, yn ei ddarlun “Surrender be damned.” Cafodd ei baentio yn 1935 ar ôl ei gomisiynu gan y South Wales Argus. Mae’n dangos Capten Edwards yn tanio ei lawdryll tuag at yr Almaenwr oedd yn agosáu. Rwy’n meddwl bod y darlun bellach yn cael ei arddangos yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, ar ôl hongian yng nghanolfan dinesig Cyngor Dinas Casnewydd am sawl blwyddyn.

Yn ystod fy ymchwiliadau ar gyfer gwefan Newport’s War Dead fe ddes i ar draws ffotograff yn y South Wales Argus, 9 Mai 1947, o’r Henadur Mrs. Sarah J Haywood yn dadorchuddio plac o flaen aelodau Cymrodoriaeth Catrawd Sir Fynwy ym mharc Bellevue, Casnewydd. Efallai bod y plac yma wedi cymryd lle’r plac wreiddiol fyddai wedi’i chysylltu â gelli o wyth Coeden Fai (draenen wen) gafodd eu plannu yn y 1920au fel cofeb i’r rheiny o Gatrawd Sir Fynwy a fu farw ar 8 Fai 1915.

 

may 8

Dangosodd fy ymholiadau fod y coed naill ai wedi marw neu ei torri lawr. Yn anffodus golygai hyn nad oedd digwyddiad a fu’n achos tristwch mawr i deuluoedd a ffrindiau y dynion hyn o Gasnewydd yn cael ei gofio bellach.

 

Dechreuais ymgyrch i gael cofeb newydd er mwyn cofio brwydr Crib Frezenberg a’r dynion fu farw ar 8 Mai 1915. Ymunodd y cynghorwr Charles Ferris a nifer o ffrindiau eraill gan gynwys fy merch, Shelley, yn yr ymgyrch. Codwyd arian ac ar 8 Mai 2015 cafodd gofeb newydd ei dadorchuddio ar lannau’r afon Wysg gyferbyn a thafarn Blaine Wharf, Casnewydd. Mynychodd nifer  o fawrion a phersonél milwrol y digwyddiad.

 

P1020580 (1)

 

 

Geiriau ar y gofeb ar lannau’r afon Wysg

8fed Fai 1915

MAE’R GELLI YMA WEDI EI PHLANNU/ ER COF AM DDYNION/ CATRAWD SIR FYNWY WNAETH/ GYMERYD RHAN YN AMDDIFFYNIAD CRIB FREZENBERG/ YN YSTOD AIL FRWYDR YPRES./

YN YSTOD Y FRWYDR HON (LLE DEFNYDDIODD Y FYDDIN ALMENIG NWY GWENWYNIG AR Y FFRYNT AM Y TRO CYNTAF)/ FE DDALIODD TAIR BATALIWN CATRAWD SIR FYNWY Y LLINELL FLAEN./ FE WNAETH SAFIAD GWROL Y GATRAWD/ MEWN AMGYLCHIADAU ANODD TU HWNT  HELPU DIOGELU DINAS YPRES/ RHAG SYRTHIO I DDWYLO’R GELYN A/ RHWYSTRWYD Y FYDDIN ALMAENIG RHAG FEDDIANNU’R PORTHLADDOEDD HOLL BWYSIG.

PARHAODD AIL FRWYDR YPRES/ O’R 22 EBRILL I 25 MAI 1915 AC O GANLYNIAD I’R YMLADD BU FARW/ 526 O DDYNION CATRAWD SIR FYNWY AC ANAFWYD 799/ COLLWYD MWY NAG 80 DYN O CASNEWYDD YN NIWRNOD CYNTAF FRWYDR CRIB FREZENBERG YN UNIG.

Look Up, And Swear By The Green Of The Spring/ That You’ll Never Forget” – SIGFRIED SASSOON, 1919

usk bank

stow hill

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn gynharach ar yr un diwrnod, dadorchuddwyd cerflunwaith pren newydd wrth ymyl yr hen Drill Hall ar Stow Hill, lle cafodd y dynion hyn ei recriwtio. Mae’n darlunio’r olygfa a baentiodd Fred Roe o Capten Harold Thorne Edwards a’i ddynion yn sefyll yn erbyn ymosodiad yr Almaenwyr.

 

Ebrill 4th, 2016

Posted In: memorials

Tags: ,

2 Comments

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University