Ar ôl bron 190 o flynyddoedd, fe gaeodd capel mawreddog yr Annibynnwyr, Siloh Glandŵr, ei ddrysau ym mis Ionawr 2016. Ganrif yn ôl, roedd rhyw 640 o aelodau yma; ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd roedd dros 600; pan ddaeth yr achos i ben roedd nifer yr aelodau yn llai na deg.
Yn nghyntedd yr adeilad roedd ‘llech anrhydedd’ i goffáu’r 84 o ddynion y capel a wasanaethodd yn y lluoedd arfog rhwng 1914 a 1918. Nid yw’r cyfanswm hwn yn annisgwyl ar gyfer cofeb capel yng ngogledd Abertawe – ceir, er enghraifft, 81 o enwau ar gofeb Caersalem Newydd, Treboeth, a 66 ar gofeb Carmel, Treforys.
Mae’r ddarluniau sydd ar y gofeb hon yn ddiddorol, ond eto mae tebygrwydd â chofebau eraill. Gwelir colofnau ffug-glasurol naill ochr i’r enwau ar gofebau capel Mynydd Bach (gogledd Abertawe), Zoar (Merthyr), Graig (Merthyr), Libanus (Dowlais) a Carmel (Aberdâr), i enwi dim ond pump arall. Hefyd, gweler angylion ar gofebau Zoar (Merthyr) a Noddfa (Abersychan).
Nid yw’r dewis o adnod Beiblaidd yn un cyfarwydd (‘Tariannau y ddaear ydynt eiddo Duw’ – Salm 47:9) ond eto, fe welir egwyddorion tebyg ar gofebau capeli ar hyd y wlad.
O ran y dynion ei hunan, rydym yn gwybod (diolch i adroddiadau blynyddol y capel) bod 18 wedi gwirfoddoli yn 1914 a 10 yn 1915. Cyflwynwyd gorfodaeth filwrol ar ddechrau 1916, felly nid oes modd dyfalu faint o ddewis oedd gan y 25 a ymrestrodd y flwyddyn honno, na’r 15 yn 1917 na’r 12 yn 1918.
Nodir bod un o’r dynion (Capten Willie Richards) wedi gwasanaethu gyda lluoedd Canada. Eto, ceir nifer o enghreifftiau tebyg ar draws Cymru o ddynion a wasanaethodd gyda (yn arbennig) byddin Canada neu Awstralia. Adlewyrcha hwn yr ymfudo sylweddol a oedd wedi digwydd o Gymru i’r dominiynau yn y degawd hyd at 1914.
Nid y ‘llech anrhydedd’ yn unig sy’n cyflwyno safbwynt y capel am gyfiawnder yr achos Brydeinig: anfonwyd llythyrau bob Nadolig gan y gweinidog, y Parch. Samuel Williams, i ddynion y fyddin a’r llynges yn eu sicrhau bod Siloh yn eu cefnogi a gweddïo drostynt. Pan ddychwelodd y milwyr ar ymweliad, cynhaliwyd cyfarfodydd i’w croesawu, a chyflwynwyd iddynt rodd o ysgrifbin gan y capel. Gallwch ddarllen fan hyn adrodiad o Ionawr 1917 pan y cyflwynwyd Preifat Tom Matthews ag ysgrifbin gan y Parch Williams.
Yn wahanol i nifer o gapeli, nid oes cofeb ar wahân yn Siloh i’r rhai a syrthiodd, ond fe ychwanegwyd croes wrth enwau chwech o’r dynion i nodi eu bod wedi marw yn y rhyfel.
Er bod capel Siloh wedi cau a bydd yr adeilad yn cael ei werthu, mae’r gofeb wedi’i diogelu diolch i Archifau Gorllewin Morgannwg.
g.h.matthews Ebrill 25th, 2016
Posted In: Uncategorized
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University