Mae unigolion yn perthyn i nifer o gymunedau ar yr un pryd, ac yn meddu ar berthnasau â grwpiau amrywiol ar nifer o lefelau gwahanol. Roedd hyn yn wir – ac efallai yn fwy gweithredol – gan mlynedd yn ôl. Pan fyddai dyn ifanc yn mynd i ryfel yn 1914-18 byddai ei absenoldeb yn cael ei deimlo mewn amryw ffordd gan y cymunedau yr oedd yn rhan ohonynt – yn ogystal, wrth reswm, ymhlith ei deulu.
Felly mae milwyr a morwyr unigol yn gallu cael eu coffáu ar fwy nag un gofeb. Yn wir, mae’n siŵr bod y rhan fwyaf o’r Cymry a syrthiodd yn y rhyfel yn cael eu cofio ar o leiaf dwy gofeb. I roi enghraifft a dderbyniodd sylw mewn erthygl arall ar y blog, cafodd y 11 o ddynion o ardal Rhydymain a laddwyd yn y Rhyfel eu coffáu ar gofebau dau gapel, ac fe enwir pawb namyn un ar gofeb tref Dolgellau. Yn ogystal, fe enwir y rhai o Ogledd Cymru a syrthiodd ar gofeb arbennig ym Mangor, y bwa coffáu (‘Memorial Arch’); fe ddylai enw pob Cymro a laddwyd fod yn ‘Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru’; fe ddylai pob milwr o Brydain a laddwyd fod yng nghyfrol ‘Soldiers Died the Great War’; ac mae pawb o’r Gymanwlad a fu farw yn cael eu cofio gan y Commonwealth War Graves Commission (CWGC).
Wrth gwrs, gan fod cynifer o Gymry gyda chyfenwau cyffredin megis Jones, Williams ac Evans, nid yw’n bosibl bob tro i fod yn sicr mai’r un unigolyn sydd ar y cofebau amrywiol.
Ond pan oedd gan y milwr neu’r morwr gyfenw llai cyffredin, mae’n gallu bod yn haws. Coffeir Harry Rosen ar y cofebau yn y man lle addolai – y synagog ym Merthyr Tudful – ac yn ei weithle, gwaith dur a ‘Mountain Levels’ cwmni’r brodyr Crawshay. (Cedwir y ddwy gofeb ysblennydd hyn bellach yn Amgueddfa Castell Cyfarthfa). Dim ond dau ‘H. Rosen’ sydd ar restr y CWGC, ac mae’n amlwg bod y Rosen hwn o Ferthyr wedi gwasanaethu gyda’r Royal Naval Division, a’i fod wedi’i ladd ar ddiwrnod olaf 1917.
Cymro ifanc arall â ganddo enw sy’n hawdd ei olrhain oedd Clarence Stiff o Gwmbrân. Fe rannwyd deunydd sydd ym meddiant ei deulu gyda phrosiect ‘Cymry’r Rhyfel Mawr Ar-lein’ yn 2010. Dim ond 17 oed oedd yntau pan y’i lladdwyd ar Ffrynt y Gorllewin yn 1915. Mae ei ysgrif goffa mewn papur newydd lleol yn ei alw’n ‘llanc rhagorol’: ‘He was an enthusiastic cricketer, and a member of the Cwmbran Cricket Club. He was also a scholar at the Cwmbran Wesleyan Sunday School.’
Coffeir Clarence ar dair cofeb wahanol yng Nghwmbrân. Yn Eglwys Sant Gabriel ceir byrddau pren sy’n rhestru 86 o ddynion y plwyf a laddwyd yn y rhyfel, gan gynnwys Clarence. Hefyd ceir ei enw ar y rhestr o bump a syrthiodd yn y Rhyfel Mawr yn Neuadd Byddin yr Iachawdwriaeth ar Stryd Wesle. Fe gofiodd ei gyflogwr – gweithiau Cwmbrân cwmni G. K. N. – hefyd amdano. (Fel y trafodwyd mewn blog gynt, fe sefydlodd y cwmni hwn nifer o gofebau i’w gweithwyr ar draws De Cymru).
Weithiau mae enw cyntaf anghyfarwydd yn ddigon i sicrhau mai’r un dyn sydd ar gofebau gwahanol. Cofnodir Pendal Thomas, peiriannydd, ar gofeb tref Pontardawe i’r Rhyfel Mawr. Enwir R Pendal Thomas ar gofeb capel Pembroke Terrace (MC), Caerdydd (sydd bellach yn fwyty). Nid oes ‘Pendal Thomas’ ar fas-data’r CWGC, ond mae Robert Pendrill Thomas, peiriannydd, a fu farw ar fwrdd S.S. Bayronto ar 30 Gorffennaf 1918. Ceir yr wybodaeth ychwanegol mai ei rieni oedd Hannah a Robert Thomas o Bontardawe. Felly nid oes dwywaith mai’r un dyn a goffeir ar y cofebau ym Mhontardawe a Chaerdydd.
g.h.matthews Ionawr 19th, 2017
Posted In: Uncategorized
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University