• English
  • Cymraeg

Pentref yn Nyffryn Ogwen, sir Caernarfon yw Tregarth. Mae capel y Methodistiaid Wesleaid, ‘Shiloh’ a’r eglwys, ‘St Mary’s’ yn dal ar agor ac mae ganddynt gofebau sy’n cofio rheiny a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r eglwys hefyd yn dal cofeb yr hen ysgol Sul, a ffenestr gwydr lliw er cof am y brodyr Brock. Eu tad oedd pennaeth yr ysgol leol. Mae gatiau’r eglwys hefyd yn gofeb i’r sawl a fu farw yn y ddau ryfel byd.

DSCN0336 (800x600)Mae cofeb Shiloh yn rhestru enwau a chartrefi aelodau’r gynulleidfa a fu farw yn ymladd yn y rhyfel (er enghraifft: Richard Jones – Tyddyn Dicwm). Mi roedd yn rhaid rhestru enw’r stryd neu’r fferm lle roeddent wedi byw, gan bod y gymuned yn adnabod pobl trwy enw’r lle roeddent yn byw, yn hytrach na thrwy eu cyfenwau. Felly, mae’n debyg y byddai Richard Jones wedi cael ei adnabod fel Richard Tyddyn Dicwm. Mae’r gatiau tu allan i St. Mary a chofeb yr ysgol Sul hefyd yn nodi lle roedd y milwyr yn byw. Roedd hyn yn bwysig hefyd gan fod nifer o’r milwyr efo’r un cyfenw – mae 43 enw ar gofeb yr ysgol Sul, ac o’r rheiny mae 13 yn ‘Jones.’

Mae cofeb St Mary, ar y llaw arall, yn ymddangos fel ei bod yn DSCN0342canolbwyntio mwy ar y rhan roedd y milwyr yn chwarae yn y rhyfel yn hytrach na’u rhan yn y gymuned. Nid yw’r gofeb yn dweud lle roedd y milwyr yn byw, na hyd yn oed enw cyntaf y rhai a laddwyd. Yn lle hynny, mae’n rhestru eu rheng yn y fyddin; llythyren gyntaf eu henw; cyfenw a’r flwyddyn a’r ardal lle y syrthion nhw. Mae’r gofeb gwydr lliw i’r brodyr Brock yn St Mary yn adlewyrchu’r pwyslais ar ymdrechion milwrol. Rydym yn gwybod o gofeb yr ysgol Sul bod y teulu yn byw yn Sunnyside, ond nid yw’r gofeb wydr yn sôn am hynny. Mae’n darllen: ‘In loving memory of Lieut. Herbert Leslie Brock (BA Wales) 20th Div. MGC. Killed in action in France April 10th 1918 age 28, and Private Ivor James Baxter Brock 14th Batt. R. W. F. killed in France Sept. 1st 1917 age 19. “Greater love hath no man than this that a man lay down his life for his friends.” S. John XV 13’ (Er cof annwyl am Lieut. Herbert Leslie Brock (BA Cymru) 20fed adran. MGC. Lladdwyd wrth ymladd yn Ffrainc Ebrill 10fed 1918 yn 28 mlwydd oed, a Preifat Ivor James Baxter Brock 14fed adran. R.W.F. wedi lladd yn Ffrainc Medi 1af 1917 yn 19 mlwydd oed. “Cariad mwy na hwn nid oes gan neb, sef bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion’ Ioan XV. 13.)

Mae cofebion gwahanol yn cofio dynion mewn gwahanol ffyrdd, ac mae’r un peth yn wir am ysgrifau coffa y papurau newydd. Un amcan y prosiect (ymhlith eraill) yw ymchwilio i gofebau ar draws Cymru er mwyn gweld os yw hi’n bosib nodi patrymau yn eu harddull a’u geiriad. Er enghraifft, a oedd nodi cartref y milwr ar gofeb yn nodwedd unigryw i ogledd Cymru, neu a oedd hi’n arferol ar draws cefn gwlad Cymru? A oedd pob Eglwys Anglicanaidd yn nodi lle ac ar ba ddyddiad y bu aelodau o’i chynulleidfa farw yn y rhyfel? Mae angen mwy o ymchwil hefyd ar ysgrifau coffa y papurau newydd – a oedd eu safbwynt crefyddol neu wleidyddol yn cael effaith ar y math o ysgrif goffa roeddent yn eu cyhoeddi?

Mae tair enghraifft o ysgrifau coffa dynion o Tregarth yn dilyn. Roedd Y Llan yn bapur Anglicanaidd dwyieithog, tra roedd y Gwyliedydd Newydd yn bapur y Wesleaid. Roedd Y Genedl yn fwy gwleidyddol ei naws, gan gefnogi’r Rhyddfrydwyr ond hefyd yn croesawu cyfraniadau oedd yn adlewyrchu’r safbwynt sosialaidd.

Ymddangosai bod Y Llan a’r Genedl yn pwysleisio bod y milwyr yn ddynion dewr oedd wedi cwympo er lles y breninDSCN0338 a’r gwlad. Tra roedd Y Llan (28/4/1916, tud.7) yn ymestyn eu cydymdeimlad mwyaf tuag at holl deulu David Williams, yn enwedig ei wraig, ei blant ifanc a’i fam, roeddent yn credu ‘y mae cysur i’w gael wrth feddwl ei fod wedi marw wrth wneud ei ddyletswydd.’ Mis yn ddiweddarach, roedd Y Genedl (23/5/1916, tud.8) yn gryfach ei argyhoeddiad fod y milwyr yn marw dros achos cyfiawn. Roedd yr erthygl am wasanaeth er cof am Richard Price Jones, ond yn ei chanol mae’n sôn am bob milwr yn y rhyfel: ‘Da gweled yr ardalwyr yn gollwng dagrau hiraeth, ac o barch, ar ôl y bechgyn sydd yn rhoddi eu bywydau i lawr i gadw y gelynion rhag gwneud ein gwlad fel Belgium, Serbia a Pholand.’ Cafodd gwasanaeth coffa Richard Price Jones ei gynnal yng Nghapel Calfinaidd Tregarth, ond yn anffodus nid wyf yn gwybod os yw’r capel dal ar agor nac os oes ganddyn nhw gofeb.

DSCN0345Roedd y Gwyliedydd Newydd yn hollol wahanol, ac yn llai sicr bod y Rhyfel Mawr yn achos a oedd yn werth yr aberth. Cydnabyddai hefyd nad oedd pob milwr ar faes y gad eisiau bod yno. Nid yw fy ymchwil hyd yn hyn wedi bod yn helaeth iawn, felly mae’r ysgrif goffa gyntaf am filwr o eglwys Shiloh rwyf wedi darganfod yn dod o fis Medi 1916. Roedd gorfodaeth filwrol wedi’i chyflwyno yn mis Mawrth 1916, a roedd agweddau am y rhyfel dros Brydain gyfan wedi newyd cryn dipyn ers diwrnodau gwladgarol a gobeithiol 1914. Hefyd, fel mae Dafydd Roberts wedi egluro yn ei erthygl: ‘”Dros ryddid a thros ymerodraeth” Ymatebion yn Nyffryn Ogwen 1914-1918’ (Trafodion Cymdeithas Hanes Caernarfon, 1988-9 tud.107- 123), roedd trigolion Dyffryn Ogwen wedi bod yn eithaf amharod i ymrestru ers cychwyn y rhyfel. Roedd traddodiad cryf o heddychiaeth ymhlith Methodistiaid Cymru cyn 1914, ac efallai bod hyn wedi cael effaith ar safbwynt Y Gwyliedydd Newydd am y rhyfel. Pan yn ysgrifennu am wasanaeth coffa Rowland Hughes (12/9/16, tud.6) mae’n cyfeirio at faes y gad fel ‘maes y gyflafan ofnadwy.’ Pan fu farw Owen Ellis ar y ffrynt, chwaraeodd y papur (30/1/1917, tud.7) hefo’r ymadrodd ‘maes y gad’, gan ei alw’n hytrach yn ‘faes y gwaed.’ Erbyn i David Richard Jones farw (2/7/1918, erthygl yn cael ei chyhoeddi 24/7/1918, tud.8), roedd Y Gwyliedydd Newydd yn galw’r holl rhyfel yn ‘y gyflafan erchyll yma.’

Mewn dwy erthygl am aelodau o gynulleiddfa Shiloh a fu farw ar y ffrynt, mae’r papur yn ei gwneud hi’n glir nad DSCN0319oeddent wedi ymrestru oherwydd eu bod nhw’n credu mewn gogoniant rhyfel. Mae’r cyntaf, am Rowland Hughes (12/9/16, tud. 6), yn dweud: ‘Ymunodd a’r fyddin o argyhoeddiad dwfn. Methai a chysgu’r nos gan faint bwysai ar ei feddwl. Cychwynnodd i’r chwarel at ei waith, troes yn ei ôl, a cherddodd i Fangor i ymuno a’r fyddin, – “yr wyf i fod i listio, meddai, i ymladd dros gyfiawnder.” Er ei fod wedi penderfynu ymladd dros ei egwyddorion yn y diwedd, mae’r papur newydd yn gwenud hi’n glir nad oedd y penderfyniad yn un hawdd i’w gwneud. Yr erthygl am Owen Ellis yw’r ail enghraifft (30/10/1917, tud. 7). Pan yn disgrifio’i gymeriad, dywedai’r papur ei fod yn ‘un o’r bechgyn tyneraf ei ysbryd, a pharatof ei gymwynas. Er iddo farw’n filwr ar faes y gwaed, nid milwr mohono wrth anianawd. Yr oedd o duedd enciliedig, gwell ganddo wrando na llefaru. Er hynny, pan alwyd arno i gyflawni’r annymunol gwnaeth hynny yn ffyddlon a theyrngarol. Da gennym glywed gan ei Gaplan iddo farw fel y bu fyw, yn llawn arwriaeth.’ Er bod y dyfyniad yn cyfeirio at Owen yn ‘gwneud ei ddyletswydd” ac yn ‘marw yn llawn arwriaeth,’ mae hefyd, dwi’n meddwl, yn gwneud hi’n berffaith glir na ddylai o fod wedi marw ar faes y gwaed.

Mae’r erthygl yma ond wedi edrych yn fras ar rhai cofebau mewn un pentref. Mi fyddai’n hynod ddiddorol os gallai eraill edrych ar gofebau ac ysgrifau coffa eu hardaloedd lleol.

 

Ebrill 11th, 2016

Posted In: chapels / capeli, memorials

Tags: ,

Leave a Reply

Your email address will not be published.

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University