• English
  • Cymraeg

Ers dros ganrif, mae gwaith nicel y Mond wedi bod yn safle o bwys ac yn gyflogwr sylweddol i drigolion Clydach, yng ngwaelod Cwm Tawe. Cynhyrchodd y gwaith nicel am y tro cyntaf ym 1902, gan ddefnyddio proses a ddyfeisiwyd gan Ludwig Mond, cemegydd ac entrepreneur o’r Almaen. Saif ei gerflun gerllaw hyd heddiw, yn edrych ar ei greadigaeth. Er i berchnogaeth y gwaith newid dros y blynyddoedd, fel ei fod bellach yn perthyn i gwmni Vale o Frasil, i bobl leol, ‘y Mond’ yw e o hyd.

Mond_WW1+WW2

Wrth gerdded i mewn i ganolfan gymunedol y Mond (gerllaw’r gweithle) fe gerddwch heibio i ddwy gofeb, yn coffáu’r 33 o ddynion yn gysylltiedig â’r cwmni a fu farw yn y Rhyfel Mawr, a’r 19 a laddwyd yn yr Ail Ryfel Byd.

 

Mae’r nifer o enwau ar gofeb y Rhyfel Mawr yn drawiadol, er mai ond cyfran fechan ydynt o’r 450 o ddynion y Mond a wirfoddolodd neu (ar ôl 1916) a orfodwyd i wasanaethu yn y lluoedd arfog. Awgryma’r ystadegau fod 250 ohonynt wedi gwirfoddoli ym misoedd cynnar y Rhyfel. Heblaw am unrhyw resymau eraill dros wirfoddoli, fe gafodd y dynion eu hannog i wneud gan reolwyr y cwmni, gan addo talu hanner tâl y dynion i deuluoedd y sawl a oedd yn briod, a chan gynnig cefnogaeth ariannol i deuluoedd dynion sengl a ymrestrodd. Wrth reswm, roedd galw mawr am gynnyrch y gweithle, hynny yw nicel o safon uchel, yn ystod blynyddoedd yr ymladd, ac roedd yn gyfnod llewyrchus i’r cwmni. Am fwy o wybodaeth am hyn, gweler y blog hwn o 2014 ar wefan y BBC.

 

Un canlyniad o’r llif o ddynion o’r Mond i mewn i’r lluoedd arfog oedd bod merched wedi’u recriwtio am y tro cyntaf i weithio ar lawr y gweithle. Felly, dim ond rhan o’r stori o effaith y Rhyfel ar y gymuned yng Nghlydach yw’r rhestr o enwau ar y gofeb.

 

Mae gwaith rhagorol gan yr hanesydd lleol Bill Hyett wedi dod o hyd i wybodaeth ddiddorol am hanesion y 33 o ddynion a laddwyd. Mond_WW1Mae patrymau annisgwyl yn ymddangos ac mae’n rhaid bod yn ofalus wrth ddadansoddi’r manylion. Mae Mr Hyett wedi darganfod manylion bywgraffiadol am bob un o’r milwyr a’r morwyr heblaw un. Yr ystadegau mwyaf nodedig sy’n dod allan o’r ymchwil yw bod dros ddwy ran o dair o’r dynion – 23 ohonynt – wedi eu geni yn Lloegr. Ganwyd tri arall yn Iwerddon, sy’n golygu mai dim ond chwech ohonynt a anwyd yng Nghymru. Nid yw hyn yn adlewyrchu gweithlu’r Mond yn gyffredinol, lle mae’n amlwg bod y rhan fwyaf o’r enwau ar gofnod cyflogaeth y cwmni yn Gymreig.

 

Fe ddaw gymorth i egluro’r sefyllfa hon wrth astudio pryd y lladdwyd y dynion hyn. O’r pedwar a fu farw yn 1914, fe anwyd tri yn Lloegr ac un yn Iwerddon; yn 1915, fe laddwyd deg o Loegr ac un o Iwerddon; yn 1916, roedd pob un o’r saith a fu farw yn dod o Loegr. Fodd bynnag yn 1917 roedd tri o’r meirw wedi’u geni yng Nghymru a thri yn Lloegr; yn 1918 bu farw dau Gymro ac un Gwyddel; ac roedd yr olaf i farw, yn 1919, yn Gymro.

 

Mond_ystadegau

Fe ddengys hyn fod y rhan fwyaf o’r dynion a ymunodd yn gynnar yn y Rhyfel, ac felly yn fwyaf tebygol i gael eu lladd, wedi eu geni yn Lloegr. Roedd gan nifer o’r rhain swyddi fel labrwyr yn y gwaith, nad oedd yn talu cystal â’r swyddi sgiliedig. Roedd rhai ohonynt heb fod wedi gweithio’n hir yn y Mond, er enghraifft Reginald Edwards, a anwyd yn Erdsley, swydd Henffordd. Dechreuodd yntau yn y Mond ar 11 Awst 1914 ac fe wirfoddolodd ar gyfer y Royal Field Artillery ym mis Medi 1914.

Felly y rhai a oedd y mwyaf tebyg i ymuno â’r lluoedd arfog yn gynnar oedd y dynion di-sgil, a llawer ohonynt wedi symud i Glydach o Loegr. Yn aml roedd gan y gweithwyr a anwyd yn lleol swyddi a oedd yn galw am fwy o sgiliau ac a dalwyd yn well, ac felly yn llai tebygol i wirfoddoli ar gyfer y lluoedd arfog.

Dyma fanylion, allan o ymchwil rhagorol Mr Hyett, am ddau unigolyn sy’n rhoi enghreifftiau o’r straeon personol sydd y tu ôl i’r rhestr foel o enwau ar y plac metel. Y cyntaf o ddynion y Mond i farw yn y Rhyfel oedd Peter McCarthy, a anwyd yn Tipperary. Roedd o gwmpas 25 oed pan ddechreuodd weithio yn y Mond ym mis Mawrth 1914, ond mae’n sicr ei fod yn aelod wrth gefn o’r fyddin [army reservist] a alwyd ym mis Awst 1914 i wasanaethu, oherwydd fe’i lladdwyd ar Ffrynt y Gorllewin ar 7 Hydref 1914. Ni ŵyr neb lle gorwedd ei gorff.

Mond_McCarthy

Y dyn olaf o’r Mond i farw yn sgil y Rhyfel oedd Sidney Phillips (sydd ar y gofeb fel ‘S. C. Phillips’, er bod ymchwil Mr Hyett wedi dangos mai George oedd ei enw canol). Fe’i ganwyd yn Abertawe ac roedd yn byw yn Stryd Ebenezer yn y dref gyda’i wraig a’u tri o blant. Roedd Sidney’n un o’r rhai a wirfoddolodd yn 1914, gan wasanaethu’n gyntaf gyda’r Gatrawd Gymreig cyn trosglwyddo i Gatrawd York a Lancaster. Fe ddioddefodd anaf bwled i’w glun ym mis Mai 1916 ond fe gafodd wellhad o hynny dim ond i ddioddef wedyn mewn ymosodiad nwy yn Ffrainc. Fe’i hanfonwyd adref a chafodd ei ryddhau o’r fyddin ym mis Medi 1918, ond bu farw ar 17 Ebrill 1919. Cafodd angladd filwrol ym mynwent Dan-y-Graig, Abertawe.

Mond_PhillipsMond_top

Mai 23rd, 2016

Posted In: Uncategorized

Leave a Reply

Your email address will not be published.

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University