• English
  • Cymraeg

Wrth i’r gwaith o gasglu manylion am nifer fawr o gofebau rhyfel Cymru fynd ymlaen, un peth rydym yn gallu astudio yw beth oedd y bobl ar y pryd yn galw’r rhyfel, er mwyn gael syniad o sut roedden nhw’n deall yr ornest. Wrth gwrs, nid oedd neb ar y pryd yn cyfeirio ato fel ‘y Rhyfel Byd Cyntaf’.Moriah

 

Yr enw mwyaf cyfarwydd yw ‘Y Rhyfel Mawr’ yn y Gymraeg / ‘The Great War’ yn Saesneg. Mae hwn yn enwedig yn wir am y cofebau a godwyd i’r meirw yn y blynyddoedd wedi’r rhyfel. Gweler, er enghraifft, cofeb Moriah, Ynystawe.

 

Gwelir eithriad bychan mewn rhai cofebau sy’n cyfeirio at ‘Ryfel Mawr Ewrop’, fel un Hermon, Pen-bre. Yn yr un ffordd mewn cofebau’r iaith Saesneg, ceir cyfeiriad weithiau at ‘the Great European War’, fel yng nghofebau eglwys Fethodistaidd Conway Road, Caerdydd, Noddfa, Abersychan, neu Carmarthen Road, Abertawe (isod).

Hermon Carmarthen Road

 

 

 

 

Os roddir dyddiadau, y tuedd yw i nodi ‘1914 – 1918’, er bod rhai, fel cofeb Bethel, Sgeti a chofeb Mount Pleasant, Abertawe, yn rhoi ‘1914 – 1919’ sydd yn adlewyrchu’r ffaith mai cadoediad a gafwyd yn 1918, a dim ond yn y flwyddyn ganlynol y llofnodwyd y gytundeb heddwch.

 

TabernaclMewn rhai cofebau capel, fodd bynnag, ceir enw amgen ar y Rhyfel. Mae rhestr anrhydedd y Tabernacl, Treforys, yn cyfeirio at ‘Rhyfel Rhyddid’, ac yn Saesneg, ‘the Great War, 1914-18, for Liberty and Justice’. Mae’n werth oedi i ystyried y datganiad hwn: mae’n ein hatgoffa bod pobl ar y pryd yn gallu ystyried mai rhyfel dros egwyddorion hanfodol ydoedd, a’i fod yn ymgyrch cyfiawn.

 

Ceir teitl arall ar gofeb capel Methodistiaid Calfinaidd Dinmael, yn Uwchaled, Sir Gonwy: ‘Brwydr Armagedon 1914-18’. Dinmael3

 

Hyd yn hyn, dyma’r unig gofeb sydd wedi dod i’r golwg sy’n cyfeirio at ‘Armagedon’, ond mae’n adlewyrchu sut oedd pobl yn siarad am y gyflafan ar y pryd. Yn wir, mae’n bosibl olrhain defnydd y gair ‘Armagedon’ / ‘Armageddon’ ym mhapurau newydd Cymru yn ystod blynyddoedd yr ymladd trwy ddefnyddio casgliad ardderchog ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol. Ceir ychydig o ystyriaeth o hyn ym mhennod agoriadol y llyfr Creithiau: Dylanwad y Rhyfel Mawr ar Gymdeithas a Diwylliant yng Nghymru a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru ym mis Awst – ond dyma un graff nad yw yn fersiwn terfynol yr ysgrif.

Armagedon

Amlder ymddangosiad y gair ‘Armagedon’ yng nghasgliad ‘Papurau Newydd Cymru Arlein’, 1914 i 1918, fesul dri mis

 

Fe welir yn hwn bod ychydig iawn o gyfeiriadau at ‘Armagedon’ cyn dechrau’r Rhyfel, ond bod nifer fawr o ymddangosiadau o’r gair yn ystod yr ymladd, gydag uchafbwyntiau ar adegau megis y misoedd cyntaf, Ail Frwydr Ypres, Brwydr y Somme a’r misoedd gwaedlyd yn 1918.

Felly, wrth edrych yn ôl ar y gyflafan, roedd yn naturiol i gapelwyr Dinmael ddefnyddio iaith Feiblaidd a disgrifio’r ymgyrch fel y gyflafan a ddisgrifir yn Llyfr y Datguddiad fel y frwydr ar ddiwedd y byd.

dinmael2

Dau beth arall i nodi ar y gofeb hon: yn gyntaf, sylwer bod canran rhyfeddol o uchel – 12 allan o’r 23 o ddynion – gyda’r cyfenw Jones. Nid oes rhyfedd bod y gofeb hon (fel nifer fawr o gofebion cefn gwlad Cymru) yn rhoi enw’r fferm yn ogystal, i wahaniaethu rhwng y dynion ag enwau tebyg.

Yn ail, nodwch yr enw cyntaf ar y rhestr: David Ellis, B.A., Penyfed. Dyma’r ‘bardd a gollwyd’, aelod o uned Gymreig arbennig yr RAMC (gweler, er enghraifft, un o’i gerddi fan hyn ac un o’i lythyrau fan hyn). Diflanodd tra’n gwasanaethu yn Salonica ym mis Mehefin 1918.

Mehefin 27th, 2016

Posted In: Uncategorized

Leave a Reply

Your email address will not be published.

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University