• English
  • Cymraeg

Ym Moncath ger Aberteifi, dwy flynedd ar ôl ddiwedd y Rhyfel yn 1918 codwyd cofeb ar ffurf obelisg ar dir Capel Vachendre i goffáu y Preifat Tom Lewis a fu farw ar 27 Medi 1918 tra’n garcharor Rhyfel. Ef oedd mab 27 oed i Jonathan a Martha Lewis, Winllan, Boncath. Ef hefyd oedd yr unig aelod o’r eglwys i farw yn y Rhyfel Mawr. Ni chladdwyd Tom Lewis yng nghapel Vachendre; i weld y fan lle gorwedd ei gorff rhaid teithio i ogledd Ffrainc gan i’r gŵr o Foncath gael ei gladdu yn Glageon Communal Extension Cemetery, ger pentre Trelon, ychydig i gilomedrau o’r ffin â Gwlad Belg. Ar y pryd roedd yn aelod o Fataliwn Cyntaf yr East Yorkshire Regiment.

vachendre-obeliskNid oes hynodrwydd yn y math o obelisg sy’n coffäu Tom Lewis yng nghapel Vachendre; bu’r fath ddelweddau a chofebau yn gyffredin yn amser Victoria ac Edward ac mae rai tebyg i’w gweld ym mywentydd ar draws Gorllewin Cymru a thu hwnt. Yr hyn sy’n wahanol yn yr achos hwn yw’r darn arian mawr sydd wedi ei roi yn seiliau’r gofeb. Dyna ydyw: y medaliwn oddi wrth ‘Brenin a Gwlad’ diolchgar a roddwyd i deulu Tom Lewis a phob teulu a gollodd fachgen neu ferch yn y Rhyfel Mawr.

vachendre-ceiniog

 

Mae gweld medaliwn coffa milwr yn annodweddiadol o gofebau’r Rhyfel Byd. Yn gael ei adnabod fel ‘Ceiniog y Meirw’ (a hynny’n ddilornus yn ôl rhai) dead_mans_pennybathwyd dros filiwn o’r medaliynnau efydd hyn yn y blynyddoedd yn dilyn y Rhyfel. Mesurai’r medaliwn 120mm ar draws ac fe’i lluniwyd gan y cerflunydd Edward Carter Preston. Roedd enw’r milwr a syrthiodd arno heb ei rheng yn adlewyrchu’r ffaith fod pawb yn gyfartal mewn marwolaeth hyd yn oed os nad oedd hynny’n wir pan oeddent byw. Mae llun Brittania, gyda’i thryfer yn rhan o’r alegori gyda llew a dau ddolffin – yr olaf yn cynrychioli grym morwrol y llynges. Ar y gwaelod yr oedd llew arall yn bwyta eryr yr Almaenwyr. O gwmpas y ‘geiniog’ yr oedd y geiriau ‘He died for freedom and honour’ (‘She died …’ os mai merch a laddwyd). Ar y pryd ystyriai rhai y medaliwn yn gydnabyddiath annigonol i’r sawl a laddwyd, ond mae’n amlwg fod teulu Tom Lewis yn ymfalchïo ynddo gan roi lle amlwg iddo yng nghofeb eu mab.

Fel yn achos obelisg Capel Vachendre roedd y teulu a chyfeillion agos yn sicrhau fod cofebau capeli, eglwysi ac eraill, yn rhoi amlygrwydd i’r enwau, hyd yn oed os nad gweddillion y rhai a syrthiodd yn gorwedd yno. Roedd enwau’r milwyr a gladdwyd neu a syrthiodd ac heb fedd dramor yn cael eu torri ar gerrig beddau y teuluoedd gartre ar draws Prydain. Dyma enghraifft o Ynys Môn – er cof am William Jones Owen a fu farw ym Mrwydr Mametz Wood (Gorffennaf 1916).bedd-bodffordd-william-jones-owen

 

 

Roedd y cofebau hyn yn cyfateb i’r bedd tramor ar gyfer y sawl na fedrai fforddio’r gost o deithio dramor i Ffrainc neu Wlad Belg, neu’r sawl nad oedd ganddynt fedd a’r rhai fu farw ar y môr, neu a orweddai mewn beddau yn Mesopotamia, Palestina, Gallipoli, neu Salonika. Wedi’r Rhyfel ymwelai rhai perthnasau a chyfeillion agos yn gyson â’r mannau hyn; ac roedd y cofebau lleol yn atgof parhaol i’r rhai oedd yn fyw ac yn dioddef oherwydd y golled. Erbyn heddiw mae llawer o’r safleoedd hyn yn cael eu hanwybyddu ond mae pob un yn dwyn i gof aberth y sawl a gollodd eu bywyd a gofid a hiraeth y sawl a oedd agosaf atynt.

 

Mae obelisg Vachendre yn un arwyddocaol am reswm arall. Pan gafodd ei ddadorchuddio yn Hydref 1920, ymdeithiodd y cynfilwyr oedd yno yn llu o bentre Boncath i’r capel i glywed yr areithiau wrth ddadorchuddio’r gofeb. Roedd y ddwy farn am y Rhyfel yn amlwg yn yr areithiau hyn. Yn ffodus i’r hanesydd mae adroddiad amdanynt yn y Cardigan and Tivyside Advertiser, ar 22 Hydref 1920. Cyflwynodd y Parchg Esgar James o Aberteifi neges oedd heb amheuaeth yn wrth-filwrol yn dweud nad oeddent wedi ymgasglu ‘i fawrháu militariaeth na rhyfel ond i dalu teyrnged i un a roes ei fywyd lawr er eu mwyn’. Dadorchuddiwyd y gofeb can y Cyrnol Spence Colby a gyflwynodd safbwynt hollol wahanol am y digwyddiadau gan ddweud ‘y dylai’r bobl druenus a deithiodd dros y wlad yn siarad yn erbyn yr hyn a alwent yn filitariaeth adael y wlad a dangos beth oeddent mew gwirionedd: bradwyr i’w gwlad.’ Mae’n anodd barnu wrth ddarllen cofnod byr y papur am y digwyddiad ai ateb sylwadau Esgar James yr oedd y Cyrnol neu ymosod ar aelodau o blith yr Anghydffurfwyr wrth gyfeirio at y ‘bobl druenus’, ond mae agwedd gwrthgyferbyniol y ddau siaradwr a’r teimladau cas a deifiol yn dangos y tensiynau a fodolai rhwng rhai Anghydffurfwyr a’r sawl fel y Cyrnol Spence Colby a gefnogai’n frwd rhan Prydain yn y Rhyfel. Yng Nghymru mae graddau gwrthwynebiad cymdeithas wledig i ryfel yn ystod 1914-1918 ac wedi hynny yn dal yn destun dadl rhwng haneswyr y Rhyfel Mawr, ac yn enwedig am ran gweinidogion yn pregethu yn erbyn rhyfel ac y cefnogi pasiffistiaeth. Dichon ei bod hi’n annoeth i ffurfio barn gyffredinol am agwedd y rhan hon o Gymru yn seiliedig ar un adroddiad mewn papur, a hanes datguddio un gofeb, ond gall tystiolaeth y ffynhonnell hon fod yn rhan o astudiaeth o anerchiadau dadorchuddio cofebau yn ugeiniau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n cael eu hadrodd yn llawn gan rai papurau newydd lleol. Gan osod hyn o’r neilltu, mae safbwynt Esgar James yn cyfateb i syniadau radical, gwrthryfelgar gweinidog Anghydffurfiol yng Nghymru yn ôl rhai haneswyr; ac mae rhai yn credu ei fod yn dangos agwedd a oedd yn gyffredin drwy Brydain yn y cyfnod ar ôl y Rhyfel – pobl yn fwy sinigaidd ac wedi eu dadrithio gan y rhyfel a’i ganlyniadau.

Dr Lester Mason, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

I gyrraedd capel Vachendre rhaid teithio ar ffordd A484 Dinbych-y-pysgod – Aberteifi; milltir a hanner i’r gogledd o Crymych (wedi mynd trwy Blaenffos) troi ar y dde i’r B4332 am Cenarth/Catellnewyd Emlyn. Ym mhentre Boncath cymryd y tro i’r dde i Bwlch y Groes . Milltir lawr y ffordd ar yr ochr dde mae’r Capel.

Hydref 24th, 2016

Posted In: Uncategorized

Leave a Reply

Your email address will not be published.

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University