• English
  • Cymraeg

Y mae gan Cofebau Cymreig i’r Rhyfel Mawr ddiddordeb arbennig yn y cofebau hynny a sefydlwyd gan gymunedau neilltuol i’r rhai a gollodd eu bywyd yn y Rhyfel Mawr.

O’r capeli y daw’r mwyafrif o’r fath gofebau a gasglwyd gennym, ond mae gennym ddiddordeb hefyd yn y rhai a grëwyd gan ysgolion, clybiau a gweithleoedd.

Mae her arbennig wrth chwilio am gofebau gweithleoedd gan nad yw llawer ohonynt oedd ar agor yn 1914 yn dal i fynd bellach. Er enghraifft nid oes un o’r 400 o byllau glo de Cymru a oedd yn weithredol adeg y Rhyfel yn dal mewn bodolaeth bellach, ac yn y rhan fwyaf o’r achosion nid yw eu hadeiladau yn sefyll chwaith. Yn yr un modd, y mae’r mwyafrif o ddiwydiannau trwm Cymru naill ai wedi eu hail-leoli neu wedi cau. Fodd bynnag, yn un o’r prif ardaloedd lle ffynnai diwydiant anfferrus Cymru, saif yr adeilad a fu’n gartref i waith Hafod Isha, lle mwyndoddwyd cobalt a nicel.

Y tu allan i’r adeilad, gwelir cofgolofn garreg yn enwi un ar ddeg o ddynion a laddwyd yn y rhyfel. Mae’n ddiddorol nodi mai eu cydweithwyr a ysgogodd codi’r gofgolofn ac nid y cwmni ei hunan.

Wrth ddefnyddio papurau newydd Abertawe mae’n bosibl i ddysgu mwy am y dynion hyn. Bu un ohonynt eisoes yn destun blog, sef Dai Dupree.

Daw’r cliwiau cyntaf mewn cofnod a welir mewn dwy rôl anrhydedd a gyhoeddodd y Cambria Daily Leader yn Medi a Hydref 1914, yn rhestru enwau’r dynion o’r gwaith a oedd wedi gwirfoddoli i ymuno â’r fyddin. Ceir 64 o enwau ar y rhestr a gyhoeddwyd ar 23 Hydref – gan gynnwys Dupree; George; Isaac; Jenkins; Rees; Sword a Williams.

Felly fe wyddom mai Emin Stanley George yw E. S. George ac iddo gael ei ladd ger Ypres tra’n gwasanaethu gyda Chatrawd Dorsetshire ym Mawrth 1915; lladdwyd George Rees ym Mehefin 1915 tra’n gwasanaethu â’r South Wales Borderers; roedd William Edward Isaac yn gwasanaethu yn adran fagnelau’r Gatrawd Gymreig pan laddwyd ef yn Awst 1916; yng Nghatrawd Oxford and Bucks y gwasanaethai Fred Jenkins a laddwyd yn Salonica yr un mis. Mae’r ffaith fod Charles Williams yn cael ei enwi yn Rhestr Hydref 1914 ar Rôl Anrhydedd y papur newydd fel un yn gwasanaethu gyda’r South Lancashire Light Infantry yn caniatáu inni ddod i’r casgliad gyda pheth sicrwydd mai ef yw’r ‘C. Williams’ a enwir ar Gofeb Hafod Isha. Fe’i lladdwyd yn Salonica ym Medi 1918 wrth ymladd gyda’r Chatrawd De Lancashire.

Dichon mai’r ifancaf o’r enwau ar y gofeb yw eiddo Harold Grey, a fu farw ar y llong S.S. Dundalk, chwe diwrnod cyn ei benblwydd yn 19 oed ar 14 Hydref 1918.

Y mae adroddiadau mewn papurau newydd arall yn ei gwneud hi’n hawdd i adnabod eraill o’r dynion. Ceir adroddiad byr am farwolaeth Maurice Kirwan, 20 oed, a laddwyd yn Ffrainc yn Awst 1917. Dywedir iddo fod yn un o’r gweithwyr a fu yng ngwaith Hafod Isha. Rhoddir yr un wybodaeth am George Pickett a fu farw ar H.M.S. Arbutus. Cafodd y llong ei tharo gan long danfor llynges yr Almaen yn Rhagfyr 1917.

Y ddau na chânt eu rhestru gan y Commonwealth War Graves Commission ymhlith y rhai a laddwyd yw J. White, a J. S. Sword. Y mae gormod o’r un enw â’r cyntaf wedi eu cofrestru, tra bod eisiau mwy o ymchwil am yr ail. Rhestrir James Spence Sword yn rhestr Hydref Cambria Daily Leader: Dengys y cofnodion iddo ymrestru â’r Royal Naval Volunteer Reserve ar 13 Hydref 1914 gan wasanaethu ar sawl llong ryfel tan iddo gael ei ryddhau o’i wasanaeth yn gynnar yn 1919. Er na welir ei enw yn rhestr CWGC list, mae’r ffaith fod ei gydweithwyr yn ystyried iddo fod ymhlith y rhai a glwyfwyd yn y rhyfel ac yn awgrymu iddo farw’n ddiweddarach fel canlyniad i’w glwyfau neu heintglwyf a gafodd yn y rhyfel.

Dirgelwch arall nad oes ateb hawdd iddo yw pam roedd eraill a enwai’r papurau newydd fel gweithwyr yn Hafod Isaf ac a syrthiodd yn y rhyfel heb gael eu henwau ar y gofeb a ysgogwyd gan y gweithlu? Un enghraifft o hyn yw James Heffron, a fu farw yn Awst 1915 tra’n gwasanaethu gyda’r Somerset Light Infantry.

 

Chwefror 27th, 2017

Posted In: Uncategorized

4 Comments

Leave a Reply to John Powell Cancel reply

Your email address will not be published.

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University