• English
  • Cymraeg

Yn ddiweddar derbyniais gopi o gofeb y sawl a weithiodd cyn 1914-18 i gwmni British Mannesmann yn Glandŵr, Abertawe (gyda diolch i Bernard Lewis a Pam McKay). Mae’r gwaith wedi hen fynd, ynghyd â’r gofeb, mae’n debyg. Fodd bynnag, cadwodd deulu Hubert McKay doriad o’r South Wales Daily Post o 1922 neu 1923 sy’n adrodd am ddadorchuddio’r gofeb. Gwelir bod y teulu wedi rhoi ‘X’ wrth ochr enw Hubert.

 

Mae gweld fod 58 wedi eu lladd yn y Rhyfel yn syndod – a mwy na hynny, mae’n hynod o drist. Roedd 1,600 o wŷr yn gweithio yn y cwmni yn 1914, ac felly bu farw un o bob 27 fel canlyniad i’r Rhyfel.

 

Wrth edrych y tu hwnt i’r rhifau, mae’n amlwg fod mwy i’r stori na hynny. Roedd papurau newydd Abertawe, a gredai ar y pryd fod y Rhyfel yn gyfiawn, yn frwdfrydig i roi cyhoeddusrwydd i’r cwmnïau a wnâi fwyaf i annog eu gweithwyr i wirfoddoli i ymuno â’r fyddin. Cyhoeddent rhestrau yn dangos faint o ddynion a ymunodd o’r gwahanol weithfeydd, ac enillydd y ‘gystadleuaeth’ hon oedd Cwmni British Mannesmann. Ar restr y Cambrian Daily Leader ar 14 Medi 1914 ceir enwau 210 o weithwyr y cwmni oedd yn ‘gwneud eu dyletswydd’. Mae llawer o’r enwau hyn – yn cynnwys Hubert McKay – ar rhestr y sawl a fu farw.

 

Felly pam oedd dynion y cwmni hwn mor awyddus i wirfoddoli? A oes ganddo unrhyw beth i wneud â’r ffaith fod prif weithle’r cwmni yn yr Almaen? Mae adroddiad mewn papur newydd ar ddechrau’r Rhyfel yn dweud fod dau fab Mr Roeder, rheolwr y gweithle, yn dychwelyd i’r Almaen i ymladd dros eu gwlad. Gan dderbyn fod pwysau ar y cwmnïau i ddangos eu ffyddlondeb i’r Brenin ac i’r Wlad, a olygai hynny fod gweithle Mannesmann yn eiddgar i weld cymaint ag y gellid o wirfoddolwyr yn ymuno â’r fyddin?

Cadwodd y teulu McKay y toriad o’r South Wales Daily Post 18 Hydref 1917 oedd yn cofnodi marwolaeth Hubert, a laddwyd ar 9 Hydref yng Ngwlad Belg. Ysgrifennodd swyddog iddo farw ‘dros yr achos ac er clod i’w gatrawd’. Ni wyddys pa le y mae ei fedd, ond ceir ei enw ar Gofeb Tyne Cot.

 

 

Ceir gwybodaeth am lawer o’r dynion eraill ar dudalennau papurau newydd Abertawe (sydd ar gael ar y we). Lladdwyd John M. Price ar Ddydd Calan 1915 yn Festubert. Bu farw William Doel gerllaw Loos ar 11 Mai 1916, a’i frawd Sydney yn ymgyrch y Somme ar 28 Medi 1916. Lladdwyd Oswald Murphy ar 27 Rhagfyr 1916. Roedd Frederick Woolard (a elwir Fred Wallard yn y papur) ar y llong Laurentic pan suddwyd hi ar ôl taro dau mine ar 25 Ionawr 1917.

Y mae hefyd nifer o ddynion a weithiai ar un adeg i Mannesmann na welir eu henwau ar y gofeb hon. Gwasanaethodd James Keefe yn Rhyfel y Boer, gan ymuno â’r fyddin eto fel hyfforddwr, ond bu farw o ryw aflwydd yn mis Tachwedd 1915. Pedair ar bymtheg oedd Richard William Thomas pan laddwyd ef yn Fflandrys yn Hydref 1917. Ugain oed oedd Thomas Ivor Jones pan fu farw ar Ffrynt y Gorllewin ym Medi 1918.

Coffeir y mwyafrif o’r gŵyr a enwir yma ar Cenotaph Abertawe, lle enwir 2,274 a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r darlun a welir uchod yn dangos enw William Henry Phelps, a lladdwyd yn y cyrch ar Mametz Wood ar 10 Gorffennaf 1916, tra’n gwasanaethu gyda 14eg Bataliwn y Gatrawd Gymreig (y ‘Swansea Pals’). Caiff ei goffáu hefyd ar gofres capel yr Annibynwyr yn Carmarthen Road, Abertawe.

Ceir enw Oswald Murphy ymysg y 120 o enwau sydd ar gofeb Eglwys Gadeiriol (Babyddol) St Joseph.

Un a goffeir mewn capel arall yw David James Jones a enwir ar gofeb Caersalem Newydd, Treboeth. Fe’i lladdwyd pan suddwyd H.M.S. Genista gan long tanfor yn Hydref 1916. Dywed y papur newydd ei fod ‘yn llanc addawol iawn y disgwylid iddo gael gyrfa lwyddiannus. Roedd yn hynod boblogaidd a bydd cylch eang yn galaru ar ei ôl.’ I gael rhyw syniad o effaith y rhyfel ar weithwyr cwmni Mannesmann gellir cynyddu’r teimlad hwnnw am un person 58 gwaith, a mwy.

 

Mehefin 11th, 2018

Posted In: Uncategorized

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University