Wrth i brosiect ‘Cofebau Cymreig’ gasglu gwybodaeth am gofebau’r Rhyfel Byd Cyntaf o bob rhan o Gymru, un peth a ddisgwyliem yw fod cofebau cefn gwlad yn llai sylweddol na rheiny o ardaloedd dinesig poblog. Ni fyddai capeli ac eglwysi gwledig wedi danfon cymaint o ŵyr i’r lluoedd arfog â chapeli ac eglwysi tref drwchus ei phoblogaeth. Hefyd yn y Gymru ddiwydiannol ceid cofebau mewn gweithfeydd i gofio nifer fawr a syrthiodd yn y Rhyfel. Mae’n amlwg na ddigwyddai hyn mewn ardaloedd lle gweithiai’r dynion fel gweision fferm neu denant fferm.
Felly mae cofeb hen eglwys Aberysgir, pedair milltir i’r gorllewin o Aberhonddu yn nodweddiadol o’r cofebau syml a geir mewn eglwysi gwledig. Cofnoda wybodaeth am bump o wŷr o’r plwyf, wedi eu trefnu yn nhrefn y wyddor.
Dau frawd, meibion teulu bonheddig Francis a Lucy Dickinson o Aberyskir Court, yw’r enwau cyntaf ar y gofeb. Bu farw’r ddau yn ystod misoedd olaf y Rhyfel. Bu farw Digby Dickinson, yr ieuengaf o’r brodyr ar Ffrynt y Gorllewin ar 18 Awst 1918, tra’n arwain ei ddynion mewn cyrch. Rhydd y Commonwealth War Graves Commision 28 Awst fel y dyddiad cafodd ei ladd ond mae’r adroddiad hwn yn y papur newydd lleol, sy’n uchel ei ganmoliaeth o ddewder y lefftenant ifanc, yn cadarnhau mai y 18fed o Awst sy’n gywir.
Bu farw’r brawd hŷn, Francis Dickinson, mis yn ddiweddarach ym mrwydr Doiran yn Salonica. Roedd y frwydr hon, mewn maes yr anghofiwyd amdano, yn fethiant llwyr i Brydain a chostiodd fywyd dwsenni o filwyr Cyffinwyr De Cymru (South Wales Borderers, SWB).
Cynhaliwyd gwasanaeth i gofio’r brodyr yn Aberhonddu ar 1 Tachwedd 1918, deng niwrnod cyn i’r cadoediad rhoi terfyn ar yr ymladd. Cynhaliwyd y gwasanaeth dau ddiwrnod ar ôl i un arall ar y gofeb farw.
Roedd John Lewis yn fab i John ac Anne Lewis o Llanddew, a chafodd ei ladd ar Ffrynt y Gorllewin ar 29 Hydref 1918. Gwelir ei lun ar wefan Cymru1914.
Ni ddeuthpwyd o hyd i wybodaeth am y Lewis arall ar gofeb Aberyscir, sef Sarsiant W. G. Lewis. Fodd bynnag y mae llawer o wybodaeth ar gael am Edgar Gilbert. Mab ydoedd i Eli ac Elizabeth Gilbert o Lwyn-llwyd, Aberyscir. Cyn y Rhyfel bu’n gweithio fel glöwr yn Llanhiledd (Blaenau Gwent). Ymunodd ef a’i frawd â’r SWB yn haf 1915.
Clwyfwyd Edgar yn gynnar yn 1916 (gweler detholiad o lythyr) ond dychwelodd i’r gad. Ar 25 Gorffennaf 1916 cafodd ei anafu’n ddifrifol yn yr arennau ac wrth i gyfaill fynd i’w achub a’i gario i ddiogelwch, lladdwyd y ddau gan ergydion o ddryll peiriannol. Ei frawd, Joseph, a hysbysodd y teulu.
Gan na wyddys lle cafodd ei gladdu, coffeir Edgar Gilbert ar gofeb Thiepval – ynghyd â thros 72,000 eraill o filwyr Prydain a’r Gymanwlad. Fodd bynnag gwelir ei enw ar un gofeb arall, sef carreg fedd ei rieni ym mynwent Aberysgir.
g.h.matthews Gorffennaf 22nd, 2016
Posted In: Uncategorized
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University