• English
  • Cymraeg

Ers yr hydref 2015 mae prosiect Cofebion Cymreig i’r Rhyfel Mawr wed bod yn paratoi ar gyfer ymchwilio’r ystod o gofebau ar draws Cymru i’r Rhyfel Byd Cyntaf.  Wedi’i ariannu’n hael gan y Living Legacies Engagement Centre, bwriad y prosiect yw dechrau’r gwaith o lenwi’r bwlch yn ein dealltwriaeth o gofebau ‘answyddogol’ i’r Rhyfel Mawr yng Nghymru. Er i lawer o waith gael ei wneud ar sut y coffawyd y rhyfel yng Nghymru, rydym wedi gweld tuedd i ganolbwyntio ar y cofebau ‘swyddogol’ – hynny yw, y rhai sy’n amlwg yng nghanol y dref neu’r ddinas. Mae’r rhain yn cael eu rhestru ar gronfeydd data, ond ni chynhwysir nifer o gofebau eraill, a sefydlwyd gan gapeli, gweithleoedd, ysgolion a chlybiau.

 

Yn ogystal â chreu a rhannu cronfa ddata, bydd y prosiect yn archwilio’r amrywiaeth o ffyrdd y gellir dadansoddi’r cofebau hyn gan ymchwilwyr. Gellir defnyddio’r gronfa ddata i hwyluso:

 

– ymchwiliad manwl o gofeb unigol, gan ddadansoddi bywydau’r dynion a restrir arno

– astudiaeth o ddosraniad y cofebau, a sut y ceir patrymau amrywiol o goffáu ar draws Cymru

– astudiaeth o’r delweddau a ddefnyddiwyd, eto gan edrych ar y gwahaniaethau ar draws ardaloedd Cymru

– edrych ar y patrymau o bwy sy’n cael eu cynnwys ar y cofebau, er enghraifft gan astudio’r cofebau sydd yn rhestru merched yn ogystal â dynion

 

Adulam Bonymaen Roll of Honour__1s

Wrth i ni baratoi seiliau’r prosiect, rwyf wedi parhau â’r gwaith o gasglu lluniau o gofebau mewn capeli. Rwy’n credu bod y rhain yn siarad cyfrolau am agweddau pobl a chymunedau ar draws y wlad at y rhyfel. Wrth gwrs, cyn mis Awst 1914 roedd y sefydliadau hyn yn gryf yn erbyn militariaeth, ond fe allwn weld sut gafodd y sefyllfa ei thrawsnewid  wrth astudio Rhestr Anrhydedd Adulam, eglwys y Bedyddwyr ym Môn-y-maen (gogledd Abertawe).

Fel nifer o gofebau capeli eraill, fe restra hon nid yn unig y rhai a syrthiodd, ond pob dyn a wasanaethodd. Nid yw’n fawr o syndod fod 48 enw ar y rhestr: ymhlith capeli eraill y Bedyddwyr yng Ngogledd Abertawe mae 81 o enwau ar gofeb Caersalem Newydd (Tre-boeth), 99 ar un Seion (Treforys) a 52 ar un Soar (Treforys). Ym 1914 roedd gan Adulam 231 o aelodau (ychydig yn llai na’r tri chapel arall a enwyd) ac felly fe allwn fod yn sicr bod y rhan fwyaf o ddynion ifainc Adulam a oedd yn medru ymuno â’r lluoedd arfog wedi gwneud.

 

Mae’r Rhestr Anrhydedd hon yn ddiddorol ac yn anghyffredin oherwydd mae’r un a’i lluniodd (T. Lewis o Dreforys) wedi rhoi ei enw, a’r dyddiad 1917. Felly roedd hon yn ddogfen ‘fyw’, gyda mwy o enwau yn cael eu hychwanegu wrth i’r ryfel rygnu ymlaen a mwy o ddynion ifainc Adulam yn cael eu recriwtio. Wrth sylwi fod y gofod rhwng y llinellau ar waelod y ddogfen yn newid, gwelwn fod rhai o’r enwau wedi’u gwasgu i mewn.  Hefyd, fe ychwanegwyd enwau brwydrau i’r pileri ar y naill ochr, gan gynnwys brwydr a ymladdwyd ym 1918.

 

Mae cynllun y gofeb hon yn wahanol i bob un arall a welais, er bod rhai nodweddion yn gyffredin. Mae dwy ddraig goch yn y corneli ar ben y ddogfen, sydd yn debyg i’r hyn sydd ar gofeb Penuel, Casllwchwr. Mae casgliad o faneri gwledydd y Gynghrair yn y canol, yn debyg i gofeb Bethel, Llanelli. Ceir pileri ar naill ochr y rhestr o enwau, sy’n debyg i’r cofebion yng nghapel Mynydd Bach. Ond un nodwedd na welais erioed o’r blaen yw’r darlun o Kitchener o dan y baneri. Mae’n rhyfedd gweld llun o ryfelwr fel Kitchener, nad oedd yn adnabyddus am ei gydymdeimlad ag egwyddorion Anghydffurfwyr Cymru, mewn capel Cymraeg.

 

Adulam Bonymaen Roll of Honour__2s

 

Awgrymaf fod geiriad y gofeb hon yn arwyddocaol. ‘Rhestr yr Anrhydeddus – Aelodau’r Eglwys a’r Gynulleidfa sydd yn gwasanaethu eu Duw, eu Brenin a’u Gwlad’. Mewn nifer o gapeli Cymru ceir cofebau sydd yn datgan bod y dynion wedi ymladd dros ‘Rhyddid’  ac ‘Anrhydedd’, ond nid yw’n gyffredin i gael datganiad plaen fel hwn bod y dynion yn ymladd dros Duw.

 

Cwestiwn allweddol y mae’n rhaid bod yn ofalus yn ei gylch yw: A ydym yn gallu dod i’r casgliad bod prawf yn y gofeb bod y capel yn derbyn y ddadl bod hon yn rhyfel cyfiawn? Nid ydym yn gallu dweud i sicrwydd bod y gynulleidfa gyfan wedi’i hymrwymo i ymladd y rhyfel hyd y diwedd, beth bynnag y gost, ond mae’n amlwg bod arweinyddiaeth yr eglwys yn cyd-fynd â’r casgliad mai brwydr oedd hon rhwng y da a’r drwg. Credaf fod y ffaith bod y gofeb hon wedi’i chreu ym 1917 yn arwyddocaol: erbyn hynny roedd pawb yn ymwybodol bod hwn yn rhyfel hynod o ddrudfawr a dinistriol. Nid oedd Prydain yn ennill y rhyfel ym 1917, ond yn hytrach yn colli niferoedd torcalonnus o ddynion yn barhaus mewn brwydrau nad oedd yn arwain at unrhyw obaith o fuddugoliaeth fuan. Ond ceir datganiad plaen yn y ddogfen hon bod yr achos yn un cyfiawn, oherwydd os ydi Duw ar ochr y Cynghreiriaid, ni all fod unrhyw amheuaeth ynglŷn â phwy sydd ar ochr cyfiawnder.

 

Fe ddaw tystiolaeth bellach o dudalennau’r papurau newydd lleol, y Cambrian Daily Leader a’r Herald of Wales. Wrth chwilio’r ar wefan hynod o ddefnyddiol Cymru1914.org gallwch ddod o hyd yn hawdd i adroddiadau am dros ddwsin o’r dynion ar y rhestr yn cael eu hanrhydeddu gan y capel pan ddychwelasant adref, naill ai dros dro yng nghanol y rhyfel neu ar ôl i’r tanio dawelu. (Gweler, er enghraifft, yr adroddiadau ar Gwilym Leyshon a Willie Martin).

 

Felly mae’r gofeb unigol hon yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth sydd yn gallu ein cynorthwyo i ddeall ymateb y gymuned hon i’r rhyfel. Bwriad y prosiect yw i rannu manylion rhai cannoedd o gofebau Cymreig, sy’n rhoi’r cyfle i ni astudio ymateb pobl a chymunedau ar draws Cymru i her eithriadol y Rhyfel Mawr. Felly cawn weld yn well y creithiau a adawodd y rhyfel hwn ar ein cenedl.

Dr Gethin Matthews, Prifysgol Abertawe

 

 

 

Chwefror 15th, 2016

Posted In: iconography, memorials

Tags: , , , , ,

2 Comments

Leave a Reply

Your email address will not be published.

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University