Mae’n hen draddodiad o fewn i’r grefydd Gristnogol i gynnwys ffenestri lliw mewn eglwysi sy’n adrodd straeon o’r Beibl, neu o fywyd rhyw sant. Ceir enghreifftiau nodedig yng Ngogledd Cymru o ffenestri a grëwyd yn y canol oesoedd neu yn gynnar yn y cyfnod modern. Yn oes Victoria, pan adnewyddwyd llawer o’r hen eglwysi ar draws Cymru, gosodwyd ffenestri lliw ynddynt. Yn ogystal â golygfeydd o’r Beibl, roedd rhai o rhain wedi eu gosod er anrhydedd i ryw gymwynaswr. Hefyd ceir enghreifftiau mewn rhai eglwysi megis y Santes Fair, Trefynwy, o gofebau i Ryfel y Boer.
Nid yw’n syndod felly fod gosod ffenestri lliw yn ffordd o goffáu y sawl a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn arbennig y rhai a syrthiodd yn y Rhyfel. Er hynny, mae’n rhyfeddol sawl un o’r fath gofebau a welir yng Nghymru. Mae llyfr ardderchog Martin Crampin, Stained Glass from Welsh Churches (a gyhoeddwyd gan Y Lolfa yn 2014) yn cynnwys 30 o dudalennau o ddarluniau o’r cofebau hyn.
Er bod nifer o ffenestri lliw wedi eu rhoi mewn capeli Anghydffurfiol, gwelir y mwyafrif o’r cofebau hyn o’r Rhyfel Byd Cyntaf mewn eglwysi Anglicanaidd. Y mae’r delweddau a grëwyd yn aml yn drawiadol ac yn heriol. Mae llawer yn cynnwys portread o filwyr o’r Rhyfel – gwelir un sy’n arbennig o drawiadol yn Eglwys Crist, Yr Orsedd (Rossett), yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Wedi ei gysegru yn 1925 i goffáu ‘milwyr y plwyf a roes eu bywyd yn y Rhyfel Mawr’ darlunnir tri o filwyr: ar yr ochr dde ceir milwr o’r Corfflu Cymreig yn cael cymorth gan gludwr-wely yn perthyn i’r R.A.M.C.
Am fwy o ddelweddau o hyn, gweler gwefan a grëwyd gan Martin Crampin ar ‘Gwydr Lliw yng Nghymru’.
Mae nifer o’r delweddau at wefan ‘Stained Glass in Wales’ yn cynnwys Milwyr o’r Rhyfel Byd Cyntaf ynghyd â Christ, gan gysylltu dioddefiadau’r milwyr â stori Crist ar y Groes. Dyna geir yn Eglwys Sant Pedrog, Llanbedrog (o 1918) wrth ddangos ‘Milwr syrthiedig gyda Christ a’r Angylion’, a’r Santes Fair, Spittal (Sir Benfro, o 1916) sy’n dangos ‘Y crist Atgyfodedig yn cwrdd â’r milwr a syrthiodd yn y gad’.
Yn Eglwys Sant Iago, Maenorbŷr, ceir montage o Grist ar y Groes yng nghwmni lluoedd arfog gan gynnwys nyrs.
Un enghraifft nad yw ar y bâs-data yw’r ffenestr lliw yn Eglwys Llanfrechfa, ger Cwmbrân. Mae hon yn darlunio’r Crist Atgyfodedig gyda milwr a syrthiodd ac mae’n coffáu yr Uwch Capten Edmuund Styant Williams a laddwyd yn Ypres ar 8 Mai 1915.
Y mae hefyd yn drist i nodi yr adeg pryd dadorchuddiwyd rhai o’r cofebau. Crëwyd rhai yn 1919 yn syth ar ôl y Rhyfel, eraill yn ugeiniau’r ganrif, tra bod rhai wedi eu dadorchuddio tra bod yr ymladd yn mynd ymlaen. Cysegrwyd un enghraifft nodedig ar Noswyl Nadolig 1916 yn Eglwys Sant Sannan, Bedwellte.
Dengys hwn Crist ar y Groes gyda milwyr mewn gwisg milwrol y Rhyfel Byd Cyntaf gerllaw; un yn penlinio, un arall yn gorwedd wedi ei glwyfo, neu yn farw. (Ceir mwy o wybodaeth mewn erthygl gan David Mills yn Journal of the Gelligaer Historical Society Cyf. 23, 2016).
Mae’r ffenestr wedi ei gyflwyno i goffáu llawfeddyg lleol, Dr John Clarke, ac mae’r milwr sy’n penlinio yn debyg iawn iddo. Hefyd, mae’r milwr a glwyfwyd yn edrych yn debyg i ŵr lleol arall a syrthiodd, Sgt. W. J. Haskoll o Gatrawd Sir Fynwy, a fu farw yn 31 oed yn Ffrainc ar 25 Mai 1915.
g.h.matthews Rhagfyr 21st, 2016
Posted In: Uncategorized
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University
Hey very nice blog!