Mewn blog cynharach nodwyd rhai enghreifftiau lle coffawyd unigolion ar fwy nag un gofeb. Roedd hyn i’w ddisgwyl os oedd dynion neu ferched yn dal cysylltiad â sefydliad oedd yn awyddus i goffáu’r sawl a ymladdodd ac a fu farw, naill ai wrth i’r Rhyfel fynd yn ei flaen neu ar ei ddiwedd.
Ffordd arall o ddod o hyd i’r cysylltiadau hyn yw drwy edrych ar un gofeb a gweld sawl enw a restrir hefyd ar gofebau lleol arall. Yn ddiweddar cawsom hyd i ddarlun o gofeb Ysgol Terrace Road i’r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yr Ysgol yng nghyffiniau ardal Mount Pleasant. Mae cofeb yr Ysgol yn cynnwys enwau 65 o ddynion ‘a roes eu bywyd er diogelu Rhyddid yn y Rhyfel Byd Cyntaf, 1914-1918’.
Mae llawer o’r dynion ar y gofeb hon yn ymddangos ar gofebau eraill yn Abertawe, yn ogystal ag ar Senotaff y ddinas sy’n cofnodi enwau pawb a gollodd ei fywyd. Un enw sy’n werth sylwi arno yw David Dupree – mae’n ymddangos mewn blog arall ac yn cael ei enwi ar gofeb gwaith Hafod Isha .
Y mae enw o leiaf un arall – sef Malcolm McIndeor – yn cael ei enwi ar gofeb Clwb Salisbury a safai gynt ar Walter Road.
Caiff pump o’r dynion eu henwi ar gofeb plwy S. Jude (eglwys a leolwyd ar Terrace Road) –
sef Llewelyn Arnold, Felix Edwards, Edward Gamage, Fred C. Thomas a George Fortune, gydag enw’r olaf yn ymddangos hefyd ar gofeb capel y Bedyddwyr, Mount Pleasant.
Mae bron yn sicr mai Richard Brayley yw’r R. Brayley a goffeir yng nghapel Carmarthen Road.
Mae’n siwr y daw mwy o enwau’r gwŷr o Ysgol Terrace Road i’r amlwg wrth edrych yn fanwl ar gofebau lleol eraill.
g.h.matthews Awst 12th, 2017
Posted In: Uncategorized
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University