Yng Nghapel yr Annibynwyr yn Rhyd-y-main (chwe milltir o Ddolgellau ar y ffordd i’r Bala), gwelir plac pres mewn lle amlwg i goffáu dynion lleol a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe’i lleolir ar y wal y tu ôl i’r pulpud fel y’i gwelir gan unrhyw un sy’n addoli yno wrth iddo edrych ar y gweinidog.
Mae’r arysgrif yn darllen:
ER COFFAWDWRIAETH SERCHOG AM
Y RHAI A’U HENWAU ISOD A
SYRTHIASANT YN Y RHYFEL FAWR
1914-1918
“MEWN ANGHOF NI CHANT FOD”
Wedi rhestru eu henwau ynghyd â’u cyfeiriadau ceir adnod o’r Beibl: “MYFI YW YR ATGYFODIAD A’R BYWYD” (Ioan 11:27). Mae’r geiriau’n rhai cyfarwydd a gellir dod o hyd i arysgrifau tebyg mewn capeli ac eglwysi ar draws Cymru.
Rhestrir un ar ddeg o enwau:
Hugh Edward Evans Glan Eiddon
William Williams Ty Cerryg
William Evan James Braich-y-Ceunant
John Richard James Braich-y-Ceunant
William Hughes Ty Capel
Robert Griffiths Pen-y-Bont
Edward Evans Blaen-y-Ddol
Thomas Evans Coedrhoslwyd
Eiddion Thomas Marchant Railway Cottage
Joseph Martin Bryncoedifor
Mae’n ddiddorol fod yr union un enwau i’w gweld ar gofeb capel lleol arall. Capel yn perthyn i’r Methodistiaid Calfinaidd rhwng Rhyd-y-main a Bryncoedifor oedd Siloh a sefydlwyd yn 1874 ond sydd bellach yn dŷ annedd. Mae’r goflech farmor bellach i’w gweld ym mynwent y capel.
Felly, tra bod y mwyafrif o gapeli Cymraeg ond yn coffáu y sawl o’u cynulleidfa hwy a wasanaethodd ac a syrthiodd yn y rhyfel, yn yr achos hwn y mae’r ddau gapel wedi penderfynu anrhydeddu pobun o’r ardal a laddwyd. Ar adeg pan fodolai rhyw gymaint o gystadlu rhwng y gwahanol enwadau, dichon fod hyn yn dangos fod y galar oedd yn eu huno yn fwy na’r gwahaniaethau athrawiaethol oedd yn eu gwahanu.
Gellir dod o hyd i bron bob un a enwir yma ar Gofeb tref Dolgellau. Mae ymchwil i hanes y dynion hyn yn dweud llawer mwy wrthym amdanynt. (Y ffynonellau a chwiliwyd am wybodaeth yw llyfryn sydd ymhlith archifau Meirionnydd yn Nolgellau, a gwefan http://www.roll-of-honour.com/Merionethshire/Dolgellau.html ).
Edward Evans Mab John a Jane Evans, Blaen-y-ddol, Rhydymain. Gwasanaethodd gydag ail Fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Fe’i lladdwyd yn Bullecourt 27 Mai 1917, yn 25 oed. Fe’i coffeir ar Gofeb Arras.
Hugh Edward Evans Mab Griffith a Mary Anne Evans, Glan Eiddon, Rhydymain. Gwasanaethodd gyda ‘Chwmni Myfyrwyr Cymreig yr R.A.M.C.’ a aeth allan i Salonica. Bu farw o falaria yng ngwlad Groeg, 28 Hydref 1917, yn 23 oed. Fe’i claddwyd ym Mynwent Brydeinig, Kalamaria, Salonika, Groeg.
Robert Griffiths [Fe’i coffeir ar gofeb Dolgellau ac yng nhofnodau CWGC dan yr enw Robert William Griffith]. Mab David ac Elizabeth Griffith, 2, Penybont, Rhydymain. Gwasanaerthodd gyda 9fed Bataliwn, Y Gatrawd Gymreig. Lladdwyd ef ar faes y gad 20 Rhagfyr 1917, yn 20 oed. Fe’i coffeir ar Gofeb Thiepval.
John Richard James 10fed Bataliwn, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Lladdwyd ef ar faes y Gad yn Somme 28 Tachwedd 1916. Fe’i ganwyd yn Nolgellau ac ymrestrodd yn Holborn, Llundain. Fe’i claddwyd ym mynwent Euston Road, Colincamps Braich-y-Ceunant
William Evan James 10fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Lladdwyd ef ar faes y gad yn Somme 16 Awst 1916. Ganwyd yn Nolgellu ac ymrestrodd yn Holborn, London. Fe’i claddwyd ym mynwent Ffordd Guillemont, Guillemont Braich-y-Ceunant
Ymunodd y ddau frawd James yn Llundain.
Lewis Jones Mab John a Jane Jones, Esgeiriau, Rhydymain. Gwasanaethodd ym Mataliwn cyntaf y Gwarchodlu Cymreig. Bu farw o’i anafiadau yn ei gartef 25 Medi 1917, yn 21 oed. Claddwyd ef ym mynwent capel yr Annibynwyr Rhyd-y-main.
Joseph Martin Mab Samuel a Mary Martin, Trewent, Altamon, Launceston, Cernyw. Gwasanaethodd gyda 13 Bataliwn, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Lladdwyd ar faes y gad 29 Hydref 1916, yn 24 oed. Claddwyd ym Mynwent Essex Farm, Ypres.
Eiddion Thomas Marchant Mab Mr. a Mrs. Thomas Nelson Marchant o Railway Cottage, Rhydymain. Gwasanaethodd yn 233 Cwmni Corfflu’r Dryllau Peiriannol. Lladdwyd ar faes y gad yn Ypres 4 Hydref 1917, yn 21 oed. Fe’i coffeir ar Gofeb Tyne Cot, Gwlad Belg.
William Williams Gwasanaethodd gydag ail Fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Bu farw o’i anafiadau 21 Medi 1918. Claddwyd ym mynwent Thilloy Road, Beaulencourt
Am y ddau arall a goffeir, mae’n debyg y gellir adnabod William Hughes –
William Hughes [Yn ôl pob tebyg] Mab William ac Ann Hughes, 91 High Street, Blaenau Ffestiniog. Gwasanaethodd 1/5 Bataliwn, Cyffinwyr De Cymru. Anafwyd ar Ffrynt y Marne a bu farw o’i anafiadau ar 30 Mai 1918, yn 19 oed. Fe’i coffeir ar Gofeb Soissons.
Fodd bynnag, nid yw’r wybodaeth sydd ar gael yn gymorth i adnabod Thomas Evans, Coedrhoslwyd.
g.h.matthews Mawrth 7th, 2016
Posted In: chapels / capeli, iconography, memorials
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University
I am researching the family of Alfred de Brissac Owen who was the superintendent of the Barnardos boys home in Toronto Canada in the 1800s. Do you know why his son Malcolm de Brissac Owen is commemorated on the WW1 memorial in Dolgellau? What reason? He was born in Canada in 1890. So what is his connection with Dolgellau or North Wales. Thank you for your time.
Susan Eccles
A memorial garden was opened on the site of Pantglas Primary School, which was destroyed during the disaster.
It’s difficult to find well informed folks on this topic, but you seem like you realize what you’re talking about!
Thanks
Hello , I do consider this is a superb site. I stumbled upon it on Yahoo , I ‘ll come back once again.
A memorial garden was opened on the site of Pantglas Primary School, which was destroyed during the disaster.