Comisiynodd sefydliadau gwahanol eu cofebau anrhydedd eu hunain yn ystod, neu ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae llawer o’r blogiau a welir ar y safle hon yn canolbwyntio ar gofebau capeli, ond y mae hefyd enghreifftiau o flogiau eglwysi, gweithfeydd ac ysgolion.
Wrth sylwi ar fel mae pethau heddi, mae’n amlwg nad yw llawer o’r sefydliadau a welwyd yn 1914-18 yn bodoli bellach. Caeodd llawer o gapeli ac eglwysi eu drysau; mae gweithfeydd wedi cau ac ysgolion wedi symud o’u safleoedd a chael eu huno ag eraill. Weithiau diogelwyd y cofebau hyn pan symudodd y sefydliad – e.e. gan gapel ac eglwys pan ail-leolwyd yr achos – ond yn aml fe’u collwyd. Er enghraifft, ychydig o gofebau pyllau glo a ddiogelwyd, ac er bod 400 o byllau yn ne Cymry yn ystod Rhyfel 1914-18, gwyddys am leoliad llai na dwsin o’r cofebau.
Bu’r un math o leihad ymhlith clybiau Cymru. Goroesodd rhai heb fawr o newid, megis clwb rygbi Casnewydd; saif gatiau’r clwb heddi fel cofeb trawiadol i’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae eraill wedi diflannu dros y blynyddoedd.
Un math o glwb a welwyd yn aml yn ardaloedd diwydiannol Cymru oedd clybiau’r pleidiau politicaidd. (Y reswm arbennig am lwyddiant y clybiau hyn oedd Deddf Cau’r Tafarnau ar y Sul 1881, a welodd tafardai’n cau ar y Saboth tra bod clybiau’n dal â’r hawl i agor ac yfed alcohol ar y Sul.) Cwestiwn diddorol yw holi pa mor wleidyddol oedd y clybiau hyn gan mai clybiau Ceidwadol oedd llawer ohonynt , er bod rhai yn arddel yr enw ‘Constitutional Clubs’. Mae’n amheus a fyddai’r mwyafrif a fynychai’r clybiau hyn yn pleidleisio i’r Torïaid, ac mae awgrym eu bod yn fwy poblogaidd a bywiog po gryfaf y byddai’r blaid Lafur yn yr ardal. Ceir awgrym hefyd eu bod yn apelio at ddynion oedd yn awyddus i wella’u safle mewn cymdeithas, neu gael eu gweld fel rhywrai oedd yn uwch eu statws nag eraill.
Adwaenid y clwb ar Walter Road, Abertawe fel y ‘Salisbury Club’, wedi cael ei enwi ar ôl y Prifweinidog Ceidwadol yr Arglwydd Salisbury a arweiniai’r wlad yn ystod y rhan fwyaf o’r cyfnod 1885-1902. Mae’n amlwg fod llawer yn aelodau ohono o oedran gwirfoddoli i ymladd gan fod papur lleol yn Chwefror 1916 yn enwi 170 o’r aelodau oedd yn gwasanaethu yn y fyddin (gan gynnwys dau, sef L. Robberechts ac Henri Lefeuvre, a wasanaethent ym myddin Ffrainc).
Dywed adroddiad ar ôl y rhyfel fod cyfanswm o 243 o aelodau’r clwb wedi gwasanaethu yn y fyddin a bod bwriad i cynnwys eu henwau ar Rhestr Anrhydedd – ond ni oroesodd, er bod Cofeb Anrhydedd i’r 28 aelod a fu farw wedi goroesi. Fe’i dadorchuddiwyd yn Rhagfyr 1919 ond wedi i’r clwb gau ychydig o flynyddoedd yn ôl, fe’i symudwyd i storfa yn perthyn i Amgueddfa Abertawe.
Mae adroddiadau cyfoes o fisoedd cynnar y Rhyfel yn dangos yn glir y gallai’r clybiau politicaidd fod yn ganolfannau ricriwtio, gyda’r asiantau politicaidd lleol yn yn ceisio sicrhau y byddai llawer o’i ‘dynion hwy’ yn ymuno. Felly ceir adroddiad yn y Rhondda Leader ym mis Medi 1914 yn nodi ymffrost yr asiant Ceidwadol fod dros 600 o ddynion eu clybiau hwy wedi ymuno â’r fyddin, ond fe gyfrannodd Llafur nifer sylweddol o wirfoddolwyr hefyd.
Un o’r clybiau hyn yn y Rhondda oedd ‘Tylorstown Workingmen’s Conservative Club’. Wedi diwedd y Rhyfel, comisiynodd y clwb gofeb anrhydedd gywrain yn enwi pawb o’r clwb a aeth i’r Rhyfel. Cofnodwyd enwau 17 a fu farw a 98 a wasanaethodd yn y drin ond a ddychwelodd adre – pedwar o rhain wedi rhoi gwasanaeth nodedig.
Ar waelod y gofeb, nodir mai ‘W. T. Maddock & Co., Designers and Illuminators, Ferndale’ a’i lluniodd. Yn wahanol i nifer o gofebau Cymru ag arnynt delweddau Cymreig gwahanol (megis Dreigiau, Cennin a Chennin Pedr), delwedd o Britannia, a Jac yr Undeb ar ei tharian a welir ar ochr chwith y gofeb hon. Uwchben, gwelir fflagiau rhai o’r cynghreiriaid (America, Ffrainc, Gwlad Belg a’r Eidal) wrth ochr Baner yr Undeb a Lluman y Llynges.
Mae’r darlun o’r Clwb a oedd uwchben y cyfan wedi dirywio. Nid yw’r clwb a safodd gyferbyn â’r eglwys yn Tylorstown yn bod mwyach a chedwir y gofeb yn yr eglwys.
Un Clwb Ceidwadol sy’n dal i fodoli yw hwnnw yng Nghaerffili; ond y ‘Constitutional Club’ yw’r enw uwchben y gofeb.
Prydeinig yw’r geiriad: THOSE WHO LIVED/ AND THOSE WHO DIED/ THEY WERE ONE IN NOBLE PRIDE/ BRITONS ARE THEY/ BRITONS EVERY ONE. Ceir enw deg a fu farw, a 143 a wasanaethodd yn y drin ond a ddychwelodd adre yn ddiogel.
Enwi’r ‘Constitutional Club’ wna’r gofeb anrhydedd yng nghlwb y Ceidwadwyr ym Merthyr Tudful. Ceir 9 enw o’r sawl a fu farw ond enw 101 a ddychwelodd adre. Mae rhywbeth mawreddog yn perthyn i’r gofeb hon hefyd, gyda phileri clasurol ac angylion bob ochr i’r enwau.
Mae’n rhannu llawer o’r nodweddion a berthyn i gofeb Zoar Merthyr.
Gellir cael mwy o wybodaeth am y gwŷr a goffeir ar Glwb Salisbury, Abertawe ar wefan http://www.walesatwar.org/en/memorial/detail/1619 . Ni cheir adysgrif o gofebau anrhydedd Caerffili a Merthyr hyd yn hyn, ond gwelir adysgrif o’r enwau ar gofeb clwb Tylorstown isod.
KILLED IN ACTION/
Pte Rees Burton, RFA
Pte D. M. Davies, 9th Welsh
Pte Owen Davies, RWF
Pte Morgan Davies, RWF
Sgt John C. Faulkner, 57th MGC
Pte Wm. Harris, 3rd Welsh
Pte John Kew, 12th YR
Pte Evan Lloyd, Dorsets
Pte Evan Morgan, 3rd Welsh
Pte Regd. Maslin, 11th Welsh
Pte William Moore, RWF
Sgt William Peploe, RWF
Cpl Thomas Penny, 9th Welsh
Cpl Samuel Pendry, 15th Welsh
Sgt Ebenzer Rees, 6th Welsh
Pte Wm. L. Williams, 23rd Welsh
Pte Danl. Williams, RWF
SERVED WITH DISTINCTION Pte Jehu Eastment R.E. Pte David Danl Jones ASC Pte. Richard Owen R.W. Pte James Tustin ASC
Sgt Taff Rogers DCM & Bar,MM Pte Benj Francis 10th Welsh Pte D.T.Jones MGE Sgt Alfred Parry GG Pte John Tudor KOYLI
Sgt Tom Biles DCM MM RE Pte.Stephen Fowler RAST Pte William Jones 16thWelsh Pte George Page RASC Pte Owen Thomas ME
Sgt David John Evans MM SLancs Pte John Fowler RFA Pte William Jones 15thWelsh Cpl Harry Patten Sth Lancs Sgt Harry Williams S Lancs
Sgt Harry Webber MM 14th Welsh Pte Robert Fowler RASC Pte D.J.Jones .13thWelsh Pte Thos Phillips 10th Welsh Sgt Robert Williams S Lancs
Non Com Officers & Men Pte George Ferris 3rd Welsh Pte A.Jeffries 10th Welsh QMS J.H.Price Welsh Sgt Richard Williams 15th Welsh
L.Cpl Oliver Bath 12th Welsh Pte Thomas Farrell RHA Pte Llewellyn Jones 1st Welsh Pte Evan Pyne Welsh Sgt Albert Watts 10th Welsh
Pte Thos Burns Welsh Horse Pte Charles Guy SLI Sgt Hugh Jenkins RFA Cpl George Prosser 17th Welsh Pte Chas Walters RFA
Pte Harry Bulley ASC Pte Albert Gazzard 5th Welsh Pte G.H.Jenkins ASC Pte Gomer Rees 10th Welsh Dvr W.Williams RASC
Pte Jas McCardle RM Pte Wm Gazzard 10th Welsh Pte Thos.Jenkins 13thWelsh Pte Rees Reynolds 1st Welsh Sgt Robert Welsh ASC
Pte Geo Cooksley 1st Welsh Pte J.H.Griffiths RE Pte George King 3rdWelsh Pte William Reece SLI Sgt D.J.Williams 15th Welsh
QMS Geo Winter RE Pte Edwd Griffiths WG Sgt Arthur Lord RFA Pte William Rees RWF Sgt Gus Williams .15th Welsh
Sgt D.O.John S.Lancs Pte William Harris 17th Welsh Pte Arthur Lee S.Staffs Cpl Bert Stockwell S Lancs Pte William Woodland 7th Gloucesters
Pte Thos J.Jones . ASC Pte Alfred Hughes 5th Welsh Pte Walter Lovett WG Sgt John S.Sweet ASC Pte Richd Williams S Lancs
Pte Christmas Davies..KRRC Pte Joseph Hughes 5th Welsh Pte R.C.Martin Welsh Cpl John Sandiland S Lancs Pte Sidney Webber S Lancs
Pte Morgan Day 3rd Welsh Pte Fred Hobbs RHA Pte George Morgan RE Pte Gomer Stephens RWF Pte W.J.Watts RWF
Pte Gwilym Evans 3rd Welsh Pte D.O.Harris RAMC Pte W.J.Evans YR Pte Abraham Smith RWF Pte Percy White ASC
Edwin Edwards HMS Pembroke Pte Herbert Harris KOYLI Pte Tom M.Morgan HSLI Sapper Herbert Smith RE Sgt James Williams ASC
Pte W.H.Edwards RWF Pte Robt J.Hughes 11th Welsh Pte Dan Morgan S.Lancs Pte Ernie Smith .ASC Pte Daniel Williams ASC
Pte Wm Evans DYLI Sgt Lemuel Jones RAMC Pte Stephen Morris RFA Pte Idwal Thomas 20th Batt TC Pte Samuel Young Welsh
g.h.matthews Ebrill 18th, 2019
Posted In: Uncategorized
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University