Nodwedd amlwg ar gofebion y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru yw cynnwys darn o farddoniaeth fel rhan o’r arysgrif. Weithiau mae yma gerdd a gyfansoddwyd yn arbennig gan fardd lleol, fel yn achos y gofeb ym mynwent capel yr Annibynwyr, Llwynyrhwrdd, ger Tegryn yng ngogledd Sir Benfro.
O sŵn corn ac adsain cad – huno maent.
Draw ymhell o’u mamwlad:
Gwlith calon ga glewion gwlad
Wedi’r cur, mwynder cariad.
Dyma englyn gan John Brynach Davies, neu “Brynach” o ddefnyddio’i enw barddol . Roedd Brynach yn newyddiadurwr wrth ei alwedigaeth, ac yn aelod gweithgar o’r capel hwn, ac fe fyddai’n barddoni’r helaeth, yn cystadlu mewn eisteddfodau ac yn dathlu digwyddiadau lleol. Peth hollol naturiol oedd iddo gyfrannu fel hyn, ac er nad yw ei enw ar y gofeb, nid oes amheuaeth mai ef oedd y bardd gan fod yr englyn i’w weld yn Awelon Oes, casgliad o’i farddoniaeth a gyhoeddwyd ar ôl iddo farw yn ddyn cymharol ifanc yn 1925, a nodyn wrth y gerdd yn dweud Oddiar Garreg Goffa’r Milwyr yn Llwynyrhwrdd.
Dro arall dyfyniad sydd ar y gofeb o gerdd gan fardd adnabyddus, fel y llinell hon o englyn enwog Ellis Evans, neu “Hedd Wyn” eto i ddefnyddio’i enw barddol. Fe welais i’r llinell hon ar gofebion yn y de-orllewin – yn Aberbanc, Castell Newydd Emlyn a Phencader, ac fe fyddai’n ddiddorol gwybod am fannau eraill lle defnyddiwyd hi fel rhan o’r arysgrif.
Eu haberth nid â heibio.
Fel yr eglura Alan Llwyd ac Elwyn Evans yn eu cyfrol Gwaedd y Bechgyn: Blodeugerdd Barddas o Gerddi’r Rhyfel Mawr 1914-1918, fe gyfansoddwyd yr englyn hwn ganddo yn 1916, er cof am Tommy Morris, cyfaill a fu farw yn Ffrainc. Coffáu un dyn oedd Hedd Wyn, a ffurf unigol sydd yn yr englyn gwreiddiol, ei aberth; yma ar y cofebion mae angen coffáu nifer o bobl, ac fe newidiwyd y geiriad i’r lluosog, eu haberth.
Ei aberth nid â heibio – ei wyneb
Annwyl nid â’n ango,
Er i’r Almaen ystaenio
Ei ddwrn dur yn ei waed o.
Nid aberth yw’r unig thema sydd yn codi yn y cerddi hyn. Un arall yw’r cof am y rhai a gollwyd, fydd yn para am byth. Daw un o’r dyfyniadau mwyaf poblogaidd ar y thema hwn o waith John Ceiriog Hughes, “Ceiriog”, ac fe’i gwelais ar 12 o gofebion ar draws y de-orllewin.
Mewn angof ni chânt fod.
Ar ddwy gofeb arall cafwyd fersiwn ychydig yn wahanol o’r un llinell.
Yn angof ni chânt fod.
O bennill yn y gerdd Dyffryn Clwyd y daw’r dyfyniad hwn yn wreiddiol,
Mewn Anghof ni chânt fod,
Wŷr y cledd, hir eu clod,
Tra’r awel tros eu pennau chwŷth:
Y mae yng Nghymru fyrdd,
O feddau ar y ffyrdd,
Yn balmant hyd ba un y rhodia rhyddid byth!
Bu farw Ceiriog yn 1887, heb weld cyflafan y Rhyfel Byd Cyntaf, a chyfeirio y mae yma at arwyr yr hen oesoedd. Ond mae defnyddio’r llinell hon yn yr arysgrif fel petai yn awgrymu bod y meirw a goffeir yma yn arwyr hefyd, wedi ennill eu lle yn yr un traddodiad o goffadwriaeth haeddiannol.
Nid yw gweld cerddi fel hyn yn annisgwyl. Maent yn ategu themau’r cofebion, ac yn gydnaws â’r awydd i gofio dewrder ac aberth y rhai a gollwyd. Ond ambell waith fe ddaw cerdd wahanol iawn i’r golwg, cerdd sydd yn gwrthod gwerthoedd milwrol ac yn dyheu am heddwch. Hyd yn hyn fe welais ddwy o’r rhain, un ar gofeb Llanilar ger Aberystwyth, ac un ar gofeb Llangynog ger Caerfyrddin.
Mae adysgrif Llanilar yn coffáu un dyn o’r ardal mewn ffordd syml a gweddus, ond edrychwch ar y cwpled sydd yn dod ar ddiwedd yr arysgrif! Ni lwyddais i ddarganfod enw’r bardd a gyfansoddodd y darn hwn, ond mae ei deimladau yn glir. Nid oes lle i ryfel mewn byd gwâr, a heddwch yn unig sydd yn glod i Dduw.
Ior Nef! Gwna di i ryfel beidio a bod,
A’r gwaedlyd gledd i rydu er dy glod.
Mae’r holl arysgrif yn Gymraeg, a rhaid bod y teimladau a fynegir yma yn gyhoeddus, sef galar am ddyn ifanc a gollwyd o’r gymdeithas a dyhead am weld diwedd ar ryfel, yn gydnaws â barn y gymuned yn Llanilar.
Mae’r sefyllfa yn Llangynog ychydig yn wahanol, er bod y gerdd a ddyfynnir yn debyg o ran ei argyhoeddiad.
Yma mae geiriad yr arysgrif yn Saesneg, yn llawer mwy milwrol ei naws, a’r milwyr a fu farw wedi ymladd for their king and empire. Ond nid dyma’r neges a geir yn y cwpled Cymraeg sydd ar y gofeb.
Segurdod yw clod y cledd,
A rhwd yw ei anrhydedd.
Esgyll englyn enwog gan William Ambrose, “Emrys”, sydd yma, eto yn pregethu heddychaeth digymrodedd.
Celfyddyd o hyd mewn hedd – aed yn uwch
O dan nawdd tangnefedd;
Segurdod yw clod y cledd,
A rhwd yw ei anrhydedd.
Tybed oedd y bobl luniodd y geiriad Saesneg ar y gofeb, a’i rwysg milwrol, wedi deall ergyd y dyfyniad hwn yn Gymraeg? Beth ddigwyddodd yn Llangynog, i greu cofeb oedd yn mawrygu rhyfel mewn un iaith, ac yn ei wrthwynebu yn y llall?
Tybed a oes enghreiffiau eraill o gerddi fel hyn mewn mannau eraill yng Nghymru ar gofebion y rhyfel byd cyntaf, yn edrych ymlaen at ddyfodol o heddwch gwâr, a diwedd ar ryfela? Tybed hefyd a oes cerddi tebyg i’w gweld yn Saesneg, un ai yma yng Nghymru neu dros y ffin? Ni welais erioed gyfeiriad at hyn, ond mae’n werth holi a chwilota.
Gwen Awbery
Caerdydd
g.h.matthews Mehefin 3rd, 2016
Posted In: Uncategorized
Ers dros ganrif, mae gwaith nicel y Mond wedi bod yn safle o bwys ac yn gyflogwr sylweddol i drigolion Clydach, yng ngwaelod Cwm Tawe. Cynhyrchodd y gwaith nicel am y tro cyntaf ym 1902, gan ddefnyddio proses a ddyfeisiwyd gan Ludwig Mond, cemegydd ac entrepreneur o’r Almaen. Saif ei gerflun gerllaw hyd heddiw, yn edrych ar ei greadigaeth. Er i berchnogaeth y gwaith newid dros y blynyddoedd, fel ei fod bellach yn perthyn i gwmni Vale o Frasil, i bobl leol, ‘y Mond’ yw e o hyd.
Wrth gerdded i mewn i ganolfan gymunedol y Mond (gerllaw’r gweithle) fe gerddwch heibio i ddwy gofeb, yn coffáu’r 33 o ddynion yn gysylltiedig â’r cwmni a fu farw yn y Rhyfel Mawr, a’r 19 a laddwyd yn yr Ail Ryfel Byd.
Mae’r nifer o enwau ar gofeb y Rhyfel Mawr yn drawiadol, er mai ond cyfran fechan ydynt o’r 450 o ddynion y Mond a wirfoddolodd neu (ar ôl 1916) a orfodwyd i wasanaethu yn y lluoedd arfog. Awgryma’r ystadegau fod 250 ohonynt wedi gwirfoddoli ym misoedd cynnar y Rhyfel. Heblaw am unrhyw resymau eraill dros wirfoddoli, fe gafodd y dynion eu hannog i wneud gan reolwyr y cwmni, gan addo talu hanner tâl y dynion i deuluoedd y sawl a oedd yn briod, a chan gynnig cefnogaeth ariannol i deuluoedd dynion sengl a ymrestrodd. Wrth reswm, roedd galw mawr am gynnyrch y gweithle, hynny yw nicel o safon uchel, yn ystod blynyddoedd yr ymladd, ac roedd yn gyfnod llewyrchus i’r cwmni. Am fwy o wybodaeth am hyn, gweler y blog hwn o 2014 ar wefan y BBC.
Un canlyniad o’r llif o ddynion o’r Mond i mewn i’r lluoedd arfog oedd bod merched wedi’u recriwtio am y tro cyntaf i weithio ar lawr y gweithle. Felly, dim ond rhan o’r stori o effaith y Rhyfel ar y gymuned yng Nghlydach yw’r rhestr o enwau ar y gofeb.
Mae gwaith rhagorol gan yr hanesydd lleol Bill Hyett wedi dod o hyd i wybodaeth ddiddorol am hanesion y 33 o ddynion a laddwyd. Mae patrymau annisgwyl yn ymddangos ac mae’n rhaid bod yn ofalus wrth ddadansoddi’r manylion. Mae Mr Hyett wedi darganfod manylion bywgraffiadol am bob un o’r milwyr a’r morwyr heblaw un. Yr ystadegau mwyaf nodedig sy’n dod allan o’r ymchwil yw bod dros ddwy ran o dair o’r dynion – 23 ohonynt – wedi eu geni yn Lloegr. Ganwyd tri arall yn Iwerddon, sy’n golygu mai dim ond chwech ohonynt a anwyd yng Nghymru. Nid yw hyn yn adlewyrchu gweithlu’r Mond yn gyffredinol, lle mae’n amlwg bod y rhan fwyaf o’r enwau ar gofnod cyflogaeth y cwmni yn Gymreig.
Fe ddaw gymorth i egluro’r sefyllfa hon wrth astudio pryd y lladdwyd y dynion hyn. O’r pedwar a fu farw yn 1914, fe anwyd tri yn Lloegr ac un yn Iwerddon; yn 1915, fe laddwyd deg o Loegr ac un o Iwerddon; yn 1916, roedd pob un o’r saith a fu farw yn dod o Loegr. Fodd bynnag yn 1917 roedd tri o’r meirw wedi’u geni yng Nghymru a thri yn Lloegr; yn 1918 bu farw dau Gymro ac un Gwyddel; ac roedd yr olaf i farw, yn 1919, yn Gymro.
Fe ddengys hyn fod y rhan fwyaf o’r dynion a ymunodd yn gynnar yn y Rhyfel, ac felly yn fwyaf tebygol i gael eu lladd, wedi eu geni yn Lloegr. Roedd gan nifer o’r rhain swyddi fel labrwyr yn y gwaith, nad oedd yn talu cystal â’r swyddi sgiliedig. Roedd rhai ohonynt heb fod wedi gweithio’n hir yn y Mond, er enghraifft Reginald Edwards, a anwyd yn Erdsley, swydd Henffordd. Dechreuodd yntau yn y Mond ar 11 Awst 1914 ac fe wirfoddolodd ar gyfer y Royal Field Artillery ym mis Medi 1914.
Felly y rhai a oedd y mwyaf tebyg i ymuno â’r lluoedd arfog yn gynnar oedd y dynion di-sgil, a llawer ohonynt wedi symud i Glydach o Loegr. Yn aml roedd gan y gweithwyr a anwyd yn lleol swyddi a oedd yn galw am fwy o sgiliau ac a dalwyd yn well, ac felly yn llai tebygol i wirfoddoli ar gyfer y lluoedd arfog.
Dyma fanylion, allan o ymchwil rhagorol Mr Hyett, am ddau unigolyn sy’n rhoi enghreifftiau o’r straeon personol sydd y tu ôl i’r rhestr foel o enwau ar y plac metel. Y cyntaf o ddynion y Mond i farw yn y Rhyfel oedd Peter McCarthy, a anwyd yn Tipperary. Roedd o gwmpas 25 oed pan ddechreuodd weithio yn y Mond ym mis Mawrth 1914, ond mae’n sicr ei fod yn aelod wrth gefn o’r fyddin [army reservist] a alwyd ym mis Awst 1914 i wasanaethu, oherwydd fe’i lladdwyd ar Ffrynt y Gorllewin ar 7 Hydref 1914. Ni ŵyr neb lle gorwedd ei gorff.
Y dyn olaf o’r Mond i farw yn sgil y Rhyfel oedd Sidney Phillips (sydd ar y gofeb fel ‘S. C. Phillips’, er bod ymchwil Mr Hyett wedi dangos mai George oedd ei enw canol). Fe’i ganwyd yn Abertawe ac roedd yn byw yn Stryd Ebenezer yn y dref gyda’i wraig a’u tri o blant. Roedd Sidney’n un o’r rhai a wirfoddolodd yn 1914, gan wasanaethu’n gyntaf gyda’r Gatrawd Gymreig cyn trosglwyddo i Gatrawd York a Lancaster. Fe ddioddefodd anaf bwled i’w glun ym mis Mai 1916 ond fe gafodd wellhad o hynny dim ond i ddioddef wedyn mewn ymosodiad nwy yn Ffrainc. Fe’i hanfonwyd adref a chafodd ei ryddhau o’r fyddin ym mis Medi 1918, ond bu farw ar 17 Ebrill 1919. Cafodd angladd filwrol ym mynwent Dan-y-Graig, Abertawe.
g.h.matthews Mai 23rd, 2016
Posted In: Uncategorized
Un o’r pethau a ddaeth yn amlwg wrth inni gasglu defnyddiau o bob rhan o Gymru ar gyfer prosiect ‘Cofebau Cymru’ yw y gall y patrymau o goffáu fod yn ddewis lleol. Hynny yw, mae gan gymunedau mewn rhan o’r wlad yr un fath o gofebau i’r sawl a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ag sydd gan eraill o’u cwmpas.
Gwelir un enghraifft o hyn yng nghapeli Anghydffurfiol Treforys. Mae blog arall yn edrych yn fanylach ar y rhain – sylwch pa mor debyg yw cofebau’r eglwysi gwahanol.
Y mae’r pum cofeb hyn wedi eu cynllunio gan yr un person, ac mae ganddynt lun o’r capel yn y canol gyda Jac yr Undeb a Draig y naill ochr.
Ardal arall yng Nghymru lle goroesodd nifer o gofebau diddorol yw Pont-y-pŵl. Isod gwelir enghreifftiau o bum cofeb o gapeli’r Bedyddwyr o’r un ardal sydd yn rhannu llawer o’r un un nodweddion er ar gynllun gwahanol.
Cafodd cofeb Ebenezer, capel y Bedyddwyr yn Griffithstown (i’r de o Bont-y-pŵl) ei chynllunio gan Mrs K. Davies, gwraig y gweinidog a’i dadorchuddio ym mis Mawrth 1919. Mae’n rhestru enwau 78 o ddynion ac yna deg o ferched. Oddi tano enwir deg a gafodd eu lladd yn y Rhyfel. (Y ferch olaf a restrir yw F. Muxworthy: mae’n debygol iawn mai hi yw Frances Muxworthy o Kemeys Street, Griffithstown, a wasanaethodd gyda’r Queen Mary’s Army Auxiliary Corps. Fe awgryma hyn fod dau o’r dynion a restrir yn frodyr iddi, sef Arthur a William Muxworthy).
Yng nghapel y Bedyddwyr Merchant’s Hill, Pontynewynydd, dadorchuddwyd y Rhestr Anrhydedd ym mis Hydref 1919, gan enwi pum dyn a fu farw, a 47 dyn ac un fenyw a wasanaethodd.
Hefyd yn y capel ceir cofeb i chwech dyn ac un fenyw a fu farw.
I’r gogledd o Bont-y-pŵl mae capel Pisgah Talywain.
Yno mae’r gofeb mewn marmor yn rhestru tri o ddynion a laddwyd mewn brwydr ac yna enwir 44 o wŷr a phedair merch a wasanaethodd yn y Rhyfel.
Saif capel y Bedyddwyr Saesneg, High Street, ychydig i ffwrdd yn Abersychan.
Yno rhestrir yr enwau yn nhrefn yr wyddor (yn wahanol i’r cofebau eraill a enwir yma) ac mae’n cynnwys 85 o enwau yn cynnwys saith merch. Lladdwyd wyth o’r dynion yn y Rhyfel.
Mewn man amlwg yn y capel gwelir tabled marmor yn dathlu’r heddwch a ddaeth ar ddiwedd y Rhyfel.
Nid nepell i ffwrdd o gapel High Street mae gan y Bedyddwyr gapel arall, sef Noddfa. Mae’r gofeb yno yn rhestru saith o ddynion a fu farw a 53 o ddynion a chwech o ferched a wasanaethodd.
O ran ei ymddangosiad, hon yw’r gofeb mwyaf trawiadol o’r pump. Lluniwyd y gofeb gan William Benjamin John o Abertyleri ac mae’n gyforiog o symbolau cryf. Angel yw’r ffigwr canolog; uwchben darlunir llew â chadwyni yn ei geg; ar y gwaelod mae draig a laddwyd. Mae’n debyg mai hon yw’r mwyaf trawiadol o’r delweddau ar gofebau capeli a gasglwyd gan brosiect ‘Cofebau Cymru’ hyd yn hyn.
Wedi nodi’r gwahaniaethau yn y pedair cofeb a ddisgrifiwyd, mae’n werth aros gyda’r tebygrwydd sydd rhyngddynt. Mae’r pedair yn anrhydeddu y sawl a wasanaethodd yn ogystal â galaru’r sawl a fu farw. (Rhestrau anrhydedd y sawl a wasanaethodd yw tua hanner cofebau’r capeli Cymraeg a gasglwyd hyd yn hyn.) Y mae rhain i gyd yn enwi’r merched a wasanaethodd (fel nyrsus yn bennaf, ond hefyd mewn unedau tebyg i’r Women’s Army Auxiliary Corps) ond, a siarad yn gyffredinol, rhyw un o bob tair o Restrau Anrhydedd y capeli sy’n cynnwys enwau merched.
Efallai fod yr eglwysi hyn yn copïo ei gilydd, neu hyd yn oed yn cystadlu â’i gilydd. Roedd y capeli’n ymfalchïo yn y cyfraniad a wnaeth eu cymunedau i’r Rhyfel ac am ddangos hynny. Felly, yn ogystal ag anrhydeddu’r sawl a wasanaethodd yn y Rhyfel, yr oedd balchder hefyd yn y ffordd y lluniwyd y gofeb, ac yn hyd y rhestr o enwau aelodau’r capel a ‘wnaeth eu rhan’.
g.h.matthews Mai 9th, 2016
Posted In: Uncategorized
Ar ôl bron 190 o flynyddoedd, fe gaeodd capel mawreddog yr Annibynnwyr, Siloh Glandŵr, ei ddrysau ym mis Ionawr 2016. Ganrif yn ôl, roedd rhyw 640 o aelodau yma; ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd roedd dros 600; pan ddaeth yr achos i ben roedd nifer yr aelodau yn llai na deg.
Yn nghyntedd yr adeilad roedd ‘llech anrhydedd’ i goffáu’r 84 o ddynion y capel a wasanaethodd yn y lluoedd arfog rhwng 1914 a 1918. Nid yw’r cyfanswm hwn yn annisgwyl ar gyfer cofeb capel yng ngogledd Abertawe – ceir, er enghraifft, 81 o enwau ar gofeb Caersalem Newydd, Treboeth, a 66 ar gofeb Carmel, Treforys.
Mae’r ddarluniau sydd ar y gofeb hon yn ddiddorol, ond eto mae tebygrwydd â chofebau eraill. Gwelir colofnau ffug-glasurol naill ochr i’r enwau ar gofebau capel Mynydd Bach (gogledd Abertawe), Zoar (Merthyr), Graig (Merthyr), Libanus (Dowlais) a Carmel (Aberdâr), i enwi dim ond pump arall. Hefyd, gweler angylion ar gofebau Zoar (Merthyr) a Noddfa (Abersychan).
Nid yw’r dewis o adnod Beiblaidd yn un cyfarwydd (‘Tariannau y ddaear ydynt eiddo Duw’ – Salm 47:9) ond eto, fe welir egwyddorion tebyg ar gofebau capeli ar hyd y wlad.
O ran y dynion ei hunan, rydym yn gwybod (diolch i adroddiadau blynyddol y capel) bod 18 wedi gwirfoddoli yn 1914 a 10 yn 1915. Cyflwynwyd gorfodaeth filwrol ar ddechrau 1916, felly nid oes modd dyfalu faint o ddewis oedd gan y 25 a ymrestrodd y flwyddyn honno, na’r 15 yn 1917 na’r 12 yn 1918.
Nodir bod un o’r dynion (Capten Willie Richards) wedi gwasanaethu gyda lluoedd Canada. Eto, ceir nifer o enghreifftiau tebyg ar draws Cymru o ddynion a wasanaethodd gyda (yn arbennig) byddin Canada neu Awstralia. Adlewyrcha hwn yr ymfudo sylweddol a oedd wedi digwydd o Gymru i’r dominiynau yn y degawd hyd at 1914.
Nid y ‘llech anrhydedd’ yn unig sy’n cyflwyno safbwynt y capel am gyfiawnder yr achos Brydeinig: anfonwyd llythyrau bob Nadolig gan y gweinidog, y Parch. Samuel Williams, i ddynion y fyddin a’r llynges yn eu sicrhau bod Siloh yn eu cefnogi a gweddïo drostynt. Pan ddychwelodd y milwyr ar ymweliad, cynhaliwyd cyfarfodydd i’w croesawu, a chyflwynwyd iddynt rodd o ysgrifbin gan y capel. Gallwch ddarllen fan hyn adrodiad o Ionawr 1917 pan y cyflwynwyd Preifat Tom Matthews ag ysgrifbin gan y Parch Williams.
Yn wahanol i nifer o gapeli, nid oes cofeb ar wahân yn Siloh i’r rhai a syrthiodd, ond fe ychwanegwyd croes wrth enwau chwech o’r dynion i nodi eu bod wedi marw yn y rhyfel.
Er bod capel Siloh wedi cau a bydd yr adeilad yn cael ei werthu, mae’r gofeb wedi’i diogelu diolch i Archifau Gorllewin Morgannwg.
g.h.matthews Ebrill 25th, 2016
Posted In: Uncategorized
Mae gan brosiect ‘Cofebau Cymreig i’r Rhyfel Mawr’ ddiddordeb mewn cofebau sy’n coffáu cymunedau arbennig, megis y rhai mewn capeli, clybiau, ysgolion neu weithleoedd. Wrth gwrs, diflannodd neu newidiodd rhai o’r sefydliadau hyn dros y blynyddoedd ac yn achos gweithleoedd mae’n anodd dod o hyd i lofeydd a diwydiannau sy’n dal i ffynnu.
Un sefydliad sydd yn ffynnu a’i le yn y gymdeithas yn sicr yw’r Heddlu. Gwir i ad-drefnu ddigwydd ac fe ymunodd yr hen Heddlu Morgannwg ag heddluoedd annibynnol Caerdydd, Merthyr, Castell-nedd ac Abertawe i ffurfio Heddlu De Cymru. Mae gan yr heddluoedd trefol eu cofebau eu hunain i’r rhai o’u plith a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar Heddlu Morgannwg.
Y tu allan i Bencadlys yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr saif cofeb drawiadol yn enwi 58 a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r 28 a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd.
Fel arfer fe welir Rhestr Anrhydedd trawiadol oddi mewn i’r adeilad – ond ar hyn o bryd, oherwydd gwaith adnewyddu, mae hwn yn yr orsaf yng Nghaerdydd.
Mae’r gofeb hon yn rhestru’r 58 o ddynion gan roi manylion am gylchoedd eu gwasanaeth fel aelodau o’r heddlu.
Mae Grwp Prosiect Rhyfel Byd Cyntaf Heddlu De Cymru wedi bod yn brysur yn ymchwilio i hanes y dynion hyn fel bod mwy ar gael na dim ond rhestr o enwau. Mae cyfres o lyfrynnau yn cael eu paratoi gan ddechrau gydag un sy’n adrodd stori’r rhai syrthiodd yn 1914.
Wrth edrych ar lyfryn 1915, mae’n rhyfedd gweld fod pump o heddweision Morgannwg ac un o Gaerdydd wedi cael eu lladd ar yr un diwrnod, 27 Medi 1915, ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Loos (yng ngwlad Belg ar Ffrynt y Gorllewin). Lladdwyd pump arall o heddlu De Cymru o fewn mis yn yr un ardal.
Mae llyfryn yn adrodd am y cysylltiad fu rhwng yr Heddlu a’r Gwarchodlu Cymreig ac mae
llyfryn arall yn ffocysu ar stori Richard Thomas (a adwaenid fel ‘Dick’).
Wedi ei eni yn Ferndale yn 1881, roedd yn adnabyddus cyn y rhyfel fel sbortsmon a enillodd bedwar cap yn chwarae fel blaenwr i Gymru rhwng 1906 a 1909. Roedd yn un o’r tîm a enillodd y Gamp Lawn am y tro cyntaf pan enillodd Cymru yn erbyn Iwerddon ym Mawrth 1908. Er iddo ennill bri fel blaenwr caled, chwaraeai fel cefnwr yn nhîm Heddlu Morgannwg. I brofi ei fod yn amryddawn, fe enillodd pencampwriaeth bocsio pwysau trwm yr heddlu dair gwaith.
Yn Awst 1913 cafodd Dick ei ddyrchafu’n Rhingyll a’i roi yng ngorsaf yr Heddu Pen-y-bont ar Ogwr. Fodd bynnag ym mhumed mis y Rhyfel gwirfoddolodd i wasanaethu yn y 16eg Bataliwn y Gatrawd Gymreig a adwaenid fel Bataliwn Dinas Caerdydd. Roedd hwn yn rhan o ‘Gorff y Fyddin Gymreig’ – a ffurfiwyd fel rhan o’r ymdrech a arweinid gan Lloyd George i sicrhau fod ‘Byddin Gymreig ar faes y gad’. Wedi ymarfer yng Nghymru, aeth yr uned ymlaen i Gaer-wynt am ymarfer pellach cyn ymadael i Ffrynt y Gorllewin fel rhan o Adran 38 (Gymreig) y Fyddin.
Bu’r Adran yn ymladd am y tro cyntaf ym mrwydr fawr Mametz Wood, chwe diwrnod wedi dechrau ymgyrch y Somme yn 1916. Roedd Bataliwn Dinas Caerdydd ymhlith y rhai a orchmynnwyd i ymosod ar 7 Gorffennaf ar draws dir agored i feddiannu’r goedwig oedd ag amddiffynfeydd cryf. Roedd Dick Thomas yn un o 300 o golledigion y bataliwn y diwrnod hwnnw.
Wrth edrych ar gofeb heddlu Morgannwg, ceir gwybodaeth am eraill a laddwyd yn yr un frwydr. Lladdwyd Robert Harris (Bataliwn Dinas Caerdydd, 7 Gorffennaf 1916), William Edward Trinder (Bataliwn Dinas Caerdydd, 7 Gorffennaf 1916) a William Henry Loud (10fed Bataliwn (Rhondda) y Gatrawd Gymreig, 10 Gorffennaf 1916) wrth i’r Cymry feddiannu Mametz Wood; nid nepell i ffwrdd lladdwyd Edward Beresford (Catrawd South Staffordshire, 10 Gorffennaf) tra’n cynorthwyo yn yr ymgyrch.
Gyda diolch i Gaeth Madge am ei gymorth
g.h.matthews Ebrill 18th, 2016
Posted In: Uncategorized
Pentref yn Nyffryn Ogwen, sir Caernarfon yw Tregarth. Mae capel y Methodistiaid Wesleaid, ‘Shiloh’ a’r eglwys, ‘St Mary’s’ yn dal ar agor ac mae ganddynt gofebau sy’n cofio rheiny a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r eglwys hefyd yn dal cofeb yr hen ysgol Sul, a ffenestr gwydr lliw er cof am y brodyr Brock. Eu tad oedd pennaeth yr ysgol leol. Mae gatiau’r eglwys hefyd yn gofeb i’r sawl a fu farw yn y ddau ryfel byd.
Mae cofeb Shiloh yn rhestru enwau a chartrefi aelodau’r gynulleidfa a fu farw yn ymladd yn y rhyfel (er enghraifft: Richard Jones – Tyddyn Dicwm). Mi roedd yn rhaid rhestru enw’r stryd neu’r fferm lle roeddent wedi byw, gan bod y gymuned yn adnabod pobl trwy enw’r lle roeddent yn byw, yn hytrach na thrwy eu cyfenwau. Felly, mae’n debyg y byddai Richard Jones wedi cael ei adnabod fel Richard Tyddyn Dicwm. Mae’r gatiau tu allan i St. Mary a chofeb yr ysgol Sul hefyd yn nodi lle roedd y milwyr yn byw. Roedd hyn yn bwysig hefyd gan fod nifer o’r milwyr efo’r un cyfenw – mae 43 enw ar gofeb yr ysgol Sul, ac o’r rheiny mae 13 yn ‘Jones.’
Mae cofeb St Mary, ar y llaw arall, yn ymddangos fel ei bod yn canolbwyntio mwy ar y rhan roedd y milwyr yn chwarae yn y rhyfel yn hytrach na’u rhan yn y gymuned. Nid yw’r gofeb yn dweud lle roedd y milwyr yn byw, na hyd yn oed enw cyntaf y rhai a laddwyd. Yn lle hynny, mae’n rhestru eu rheng yn y fyddin; llythyren gyntaf eu henw; cyfenw a’r flwyddyn a’r ardal lle y syrthion nhw. Mae’r gofeb gwydr lliw i’r brodyr Brock yn St Mary yn adlewyrchu’r pwyslais ar ymdrechion milwrol. Rydym yn gwybod o gofeb yr ysgol Sul bod y teulu yn byw yn Sunnyside, ond nid yw’r gofeb wydr yn sôn am hynny. Mae’n darllen: ‘In loving memory of Lieut. Herbert Leslie Brock (BA Wales) 20th Div. MGC. Killed in action in France April 10th 1918 age 28, and Private Ivor James Baxter Brock 14th Batt. R. W. F. killed in France Sept. 1st 1917 age 19. “Greater love hath no man than this that a man lay down his life for his friends.” S. John XV 13’ (Er cof annwyl am Lieut. Herbert Leslie Brock (BA Cymru) 20fed adran. MGC. Lladdwyd wrth ymladd yn Ffrainc Ebrill 10fed 1918 yn 28 mlwydd oed, a Preifat Ivor James Baxter Brock 14fed adran. R.W.F. wedi lladd yn Ffrainc Medi 1af 1917 yn 19 mlwydd oed. “Cariad mwy na hwn nid oes gan neb, sef bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion’ Ioan XV. 13.)
Mae cofebion gwahanol yn cofio dynion mewn gwahanol ffyrdd, ac mae’r un peth yn wir am ysgrifau coffa y papurau newydd. Un amcan y prosiect (ymhlith eraill) yw ymchwilio i gofebau ar draws Cymru er mwyn gweld os yw hi’n bosib nodi patrymau yn eu harddull a’u geiriad. Er enghraifft, a oedd nodi cartref y milwr ar gofeb yn nodwedd unigryw i ogledd Cymru, neu a oedd hi’n arferol ar draws cefn gwlad Cymru? A oedd pob Eglwys Anglicanaidd yn nodi lle ac ar ba ddyddiad y bu aelodau o’i chynulleidfa farw yn y rhyfel? Mae angen mwy o ymchwil hefyd ar ysgrifau coffa y papurau newydd – a oedd eu safbwynt crefyddol neu wleidyddol yn cael effaith ar y math o ysgrif goffa roeddent yn eu cyhoeddi?
Mae tair enghraifft o ysgrifau coffa dynion o Tregarth yn dilyn. Roedd Y Llan yn bapur Anglicanaidd dwyieithog, tra roedd y Gwyliedydd Newydd yn bapur y Wesleaid. Roedd Y Genedl yn fwy gwleidyddol ei naws, gan gefnogi’r Rhyddfrydwyr ond hefyd yn croesawu cyfraniadau oedd yn adlewyrchu’r safbwynt sosialaidd.
Ymddangosai bod Y Llan a’r Genedl yn pwysleisio bod y milwyr yn ddynion dewr oedd wedi cwympo er lles y brenin a’r gwlad. Tra roedd Y Llan (28/4/1916, tud.7) yn ymestyn eu cydymdeimlad mwyaf tuag at holl deulu David Williams, yn enwedig ei wraig, ei blant ifanc a’i fam, roeddent yn credu ‘y mae cysur i’w gael wrth feddwl ei fod wedi marw wrth wneud ei ddyletswydd.’ Mis yn ddiweddarach, roedd Y Genedl (23/5/1916, tud.8) yn gryfach ei argyhoeddiad fod y milwyr yn marw dros achos cyfiawn. Roedd yr erthygl am wasanaeth er cof am Richard Price Jones, ond yn ei chanol mae’n sôn am bob milwr yn y rhyfel: ‘Da gweled yr ardalwyr yn gollwng dagrau hiraeth, ac o barch, ar ôl y bechgyn sydd yn rhoddi eu bywydau i lawr i gadw y gelynion rhag gwneud ein gwlad fel Belgium, Serbia a Pholand.’ Cafodd gwasanaeth coffa Richard Price Jones ei gynnal yng Nghapel Calfinaidd Tregarth, ond yn anffodus nid wyf yn gwybod os yw’r capel dal ar agor nac os oes ganddyn nhw gofeb.
Roedd y Gwyliedydd Newydd yn hollol wahanol, ac yn llai sicr bod y Rhyfel Mawr yn achos a oedd yn werth yr aberth. Cydnabyddai hefyd nad oedd pob milwr ar faes y gad eisiau bod yno. Nid yw fy ymchwil hyd yn hyn wedi bod yn helaeth iawn, felly mae’r ysgrif goffa gyntaf am filwr o eglwys Shiloh rwyf wedi darganfod yn dod o fis Medi 1916. Roedd gorfodaeth filwrol wedi’i chyflwyno yn mis Mawrth 1916, a roedd agweddau am y rhyfel dros Brydain gyfan wedi newyd cryn dipyn ers diwrnodau gwladgarol a gobeithiol 1914. Hefyd, fel mae Dafydd Roberts wedi egluro yn ei erthygl: ‘”Dros ryddid a thros ymerodraeth” Ymatebion yn Nyffryn Ogwen 1914-1918’ (Trafodion Cymdeithas Hanes Caernarfon, 1988-9 tud.107- 123), roedd trigolion Dyffryn Ogwen wedi bod yn eithaf amharod i ymrestru ers cychwyn y rhyfel. Roedd traddodiad cryf o heddychiaeth ymhlith Methodistiaid Cymru cyn 1914, ac efallai bod hyn wedi cael effaith ar safbwynt Y Gwyliedydd Newydd am y rhyfel. Pan yn ysgrifennu am wasanaeth coffa Rowland Hughes (12/9/16, tud.6) mae’n cyfeirio at faes y gad fel ‘maes y gyflafan ofnadwy.’ Pan fu farw Owen Ellis ar y ffrynt, chwaraeodd y papur (30/1/1917, tud.7) hefo’r ymadrodd ‘maes y gad’, gan ei alw’n hytrach yn ‘faes y gwaed.’ Erbyn i David Richard Jones farw (2/7/1918, erthygl yn cael ei chyhoeddi 24/7/1918, tud.8), roedd Y Gwyliedydd Newydd yn galw’r holl rhyfel yn ‘y gyflafan erchyll yma.’
Mewn dwy erthygl am aelodau o gynulleiddfa Shiloh a fu farw ar y ffrynt, mae’r papur yn ei gwneud hi’n glir nad oeddent wedi ymrestru oherwydd eu bod nhw’n credu mewn gogoniant rhyfel. Mae’r cyntaf, am Rowland Hughes (12/9/16, tud. 6), yn dweud: ‘Ymunodd a’r fyddin o argyhoeddiad dwfn. Methai a chysgu’r nos gan faint bwysai ar ei feddwl. Cychwynnodd i’r chwarel at ei waith, troes yn ei ôl, a cherddodd i Fangor i ymuno a’r fyddin, – “yr wyf i fod i listio, meddai, i ymladd dros gyfiawnder.” Er ei fod wedi penderfynu ymladd dros ei egwyddorion yn y diwedd, mae’r papur newydd yn gwenud hi’n glir nad oedd y penderfyniad yn un hawdd i’w gwneud. Yr erthygl am Owen Ellis yw’r ail enghraifft (30/10/1917, tud. 7). Pan yn disgrifio’i gymeriad, dywedai’r papur ei fod yn ‘un o’r bechgyn tyneraf ei ysbryd, a pharatof ei gymwynas. Er iddo farw’n filwr ar faes y gwaed, nid milwr mohono wrth anianawd. Yr oedd o duedd enciliedig, gwell ganddo wrando na llefaru. Er hynny, pan alwyd arno i gyflawni’r annymunol gwnaeth hynny yn ffyddlon a theyrngarol. Da gennym glywed gan ei Gaplan iddo farw fel y bu fyw, yn llawn arwriaeth.’ Er bod y dyfyniad yn cyfeirio at Owen yn ‘gwneud ei ddyletswydd” ac yn ‘marw yn llawn arwriaeth,’ mae hefyd, dwi’n meddwl, yn gwneud hi’n berffaith glir na ddylai o fod wedi marw ar faes y gwaed.
Mae’r erthygl yma ond wedi edrych yn fras ar rhai cofebau mewn un pentref. Mi fyddai’n hynod ddiddorol os gallai eraill edrych ar gofebau ac ysgrifau coffa eu hardaloedd lleol.
Meg Ryder Ebrill 11th, 2016
Posted In: chapels / capeli, memorials
Tags: Dyffryn Ogwen, Tregarth
Mae’n bosibl mai’r cyfanswm o 85 o ddynion o Gasnewydd a laddwyd ar 8 Mai 1915 yw’r golled fwyaf a ddioddefodd unrhyw dref Gymreig ar un diwrnod yn ystod y Rhyfel Mawr. Roedden nhw’n rhan o Frwydr Crib Frezenberg, a oedd yn rhan o’r ymgyrch sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Ail Frwydr Ypres.
Mae’r llun yma’n dangos dynion yn gorymdeithio lawr Stow Hill, Casnewydd, yn yr Haf 1914 – mae’r ysgrifen arno yn dweud ‘Newport boys off to the front’. Job William White yw’r dyn sy wedi ei amlygu ar flaen y llun. Cafodd ei ladd ar 8 Mai 1915. Yn bellach tu ôl iddo mae John Albert Pope, a laddwyd ddwy flynedd yn ddiweddarch, ar 17 Mehefin 1917. Cafodd Bataliwn Cyntaf Catrawd Sir Fynwy ei ricriwtio yn y Drill Hall yn Stow Hill, Casnewydd. Aeth y dynion yma (gyda dau fataliwn arall y gatrawd) ymlaen i chwarae rhan bwysig yn Ail Frwydr Ypres, a gychwynnodd ar 22 Ebrill 1915.
Ar 8 Mai roedd Catrawd Sir Fynwy yn ceisio amddiffyn Crib Frezenberg rhag ymosodiad ffyrnig yr Almaenwyr. Erbyn diwedd y diwrnod, roedd y Gatrawd wedi colli 211 o ddynion a swyddogion – 150 o’r Bataliwn Cyntaf, 19 o’r Ail Fataliwn a 42 o’r Trydydd. Erbyn diwedd mis Mai roedd y tri bataliwn wedi colli cyfanswm o 515 o ddynion, gyda’r Trydydd Battaliwn yn dioddef y colledion mwyaf.
Yn ystod y frwydr ymatebodd Capten Harold Thorne Edwards ymateb i gynnig yr Almaenwyr i ildio gyda’r geiriau: “Surrender be damned” a fe wnaeth e a’i ddynion yr aberth eithaf. Cafodd yr olygfa o safiad olaf Gapten Edwards a’i ddynion ei ddarlunio gan Fred Roe, yn ei ddarlun “Surrender be damned.” Cafodd ei baentio yn 1935 ar ôl ei gomisiynu gan y South Wales Argus. Mae’n dangos Capten Edwards yn tanio ei lawdryll tuag at yr Almaenwr oedd yn agosáu. Rwy’n meddwl bod y darlun bellach yn cael ei arddangos yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, ar ôl hongian yng nghanolfan dinesig Cyngor Dinas Casnewydd am sawl blwyddyn.
Yn ystod fy ymchwiliadau ar gyfer gwefan Newport’s War Dead fe ddes i ar draws ffotograff yn y South Wales Argus, 9 Mai 1947, o’r Henadur Mrs. Sarah J Haywood yn dadorchuddio plac o flaen aelodau Cymrodoriaeth Catrawd Sir Fynwy ym mharc Bellevue, Casnewydd. Efallai bod y plac yma wedi cymryd lle’r plac wreiddiol fyddai wedi’i chysylltu â gelli o wyth Coeden Fai (draenen wen) gafodd eu plannu yn y 1920au fel cofeb i’r rheiny o Gatrawd Sir Fynwy a fu farw ar 8 Fai 1915.
Dangosodd fy ymholiadau fod y coed naill ai wedi marw neu ei torri lawr. Yn anffodus golygai hyn nad oedd digwyddiad a fu’n achos tristwch mawr i deuluoedd a ffrindiau y dynion hyn o Gasnewydd yn cael ei gofio bellach.
Dechreuais ymgyrch i gael cofeb newydd er mwyn cofio brwydr Crib Frezenberg a’r dynion fu farw ar 8 Mai 1915. Ymunodd y cynghorwr Charles Ferris a nifer o ffrindiau eraill gan gynwys fy merch, Shelley, yn yr ymgyrch. Codwyd arian ac ar 8 Mai 2015 cafodd gofeb newydd ei dadorchuddio ar lannau’r afon Wysg gyferbyn a thafarn Blaine Wharf, Casnewydd. Mynychodd nifer o fawrion a phersonél milwrol y digwyddiad.
Geiriau ar y gofeb ar lannau’r afon Wysg
8fed Fai 1915
MAE’R GELLI YMA WEDI EI PHLANNU/ ER COF AM DDYNION/ CATRAWD SIR FYNWY WNAETH/ GYMERYD RHAN YN AMDDIFFYNIAD CRIB FREZENBERG/ YN YSTOD AIL FRWYDR YPRES./
YN YSTOD Y FRWYDR HON (LLE DEFNYDDIODD Y FYDDIN ALMENIG NWY GWENWYNIG AR Y FFRYNT AM Y TRO CYNTAF)/ FE DDALIODD TAIR BATALIWN CATRAWD SIR FYNWY Y LLINELL FLAEN./ FE WNAETH SAFIAD GWROL Y GATRAWD/ MEWN AMGYLCHIADAU ANODD TU HWNT HELPU DIOGELU DINAS YPRES/ RHAG SYRTHIO I DDWYLO’R GELYN A/ RHWYSTRWYD Y FYDDIN ALMAENIG RHAG FEDDIANNU’R PORTHLADDOEDD HOLL BWYSIG.
PARHAODD AIL FRWYDR YPRES/ O’R 22 EBRILL I 25 MAI 1915 AC O GANLYNIAD I’R YMLADD BU FARW/ 526 O DDYNION CATRAWD SIR FYNWY AC ANAFWYD 799/ COLLWYD MWY NAG 80 DYN O CASNEWYDD YN NIWRNOD CYNTAF FRWYDR CRIB FREZENBERG YN UNIG.
Look Up, And Swear By The Green Of The Spring/ That You’ll Never Forget” – SIGFRIED SASSOON, 1919
Yn gynharach ar yr un diwrnod, dadorchuddwyd cerflunwaith pren newydd wrth ymyl yr hen Drill Hall ar Stow Hill, lle cafodd y dynion hyn ei recriwtio. Mae’n darlunio’r olygfa a baentiodd Fred Roe o Capten Harold Thorne Edwards a’i ddynion yn sefyll yn erbyn ymosodiad yr Almaenwyr.
Meg Ryder Ebrill 4th, 2016
Posted In: memorials
Tags: Monmouthshire Regiment/ Catrawd Sir Fynwy, Newport/Casnewydd
Ar wal y tu fewn i’r Tabernacl, capel y Bedyddwyr yn yr Aes yng nghanol Caerdydd, mae cofeb i goffáu chwech o ddynion yr eglwys a fu farw yn y Rhyfel Mawr.
Mae’r gofeb ei hunan yn un mawreddog, wedi’i cherfio mewn marmor.
Nid oes cofnod i ddweud os fu ‘Rhestr Anrhydedd’ yn cael ei arddangos yn ystod blynyddoedd yr ymladd i nodi cyfraniad pob un o ddynion y Tabernacl i’r lluoedd arfog. Fodd bynnag, mae adroddiadau blynyddol y capel yn nodi enwau pawb a oedd wedi ymaelodi, ac felly fe welwn fod ymglymiad yr eglwys â’r rhyfel yn dwysau o flwyddyn i flwyddyn. Roedd 45 o enwau ar y rhestr ar ddiwedd 1915, 62 yn 1916, a 66 yn 1917 (gan gynnwys pedwar a oedd wedi cael eu lladd). Roedd nifer aelodau y Tabernacl yn ystod y rhyfel yn amrywio o oddeutu 520 i 560: mae’r cyfanswm o 66 felly yn cynrychioli rhan sylweddol o ddynion ifainc y Tabernacl.
Rhestr o aelodau’r eglwys a oedd yn gwasanaethu yn 1916
Gellid gweld yn yr un modd sut y dyfnhaodd effaith y Rhyfel o edrych ar sylwadau’r gweinidog yn yr adroddiadau. Ar ddiwedd 1914 cafwyd llawer mwy o sôn am y tân a oedd wedi achosi niwed i’r capel nag am y Rhyfel, ond fe aeth sylwadau’r Parch Charles Davies yn fwyfwy prudd a theimladol wrth i’r ymladd barhau a chipio mwy a mwy o ddynion ifainc o’i braidd. ‘Gadawant fwlch mawr ar eu hol, a theimlwn y baich yn trymhau ar ein hysgwyddau yn herwydd colli eu gwasanaeth gwerthfawr’ ysgrifennodd ar gychwyn 1917 yn yr adroddiad am 1916. Fodd bynnag, nodwch ei fod yn datgan yn glir mai rhyfel cyfiawn oedd hwn wrth ddisgrifio ‘teyrngarwch’, ‘dewrder’ ac ‘aberth’ y dynion, ‘yn eu gwaith yn wynebu anghyfleusterau a pheryglon rhyfel er amddiffyn ein gwlad, a sicrhau buddugoliaeth i gyfiawnder a gwir rhyddid yn ein byd’.
Yn y rhestrau o ddynion ceir nodiadau am ble’r oedd nifer ohonynt yn gwasanaethu. Ar ddiwedd 1916 roedd nifer fawr ohonynt mewn gwersylloedd yn Lloegr neu Gymru; 14 gyda’r BEF (British Expeditionary Force) ar Ffrynt y Gorllewin; chwech yn yr Aifft; pedwar yn Salonica ac un yn Bombay.
Yr enw cyntaf ar y gofeb yw Oscar D. Morris. Mae’n bosibl dod o hyd i dipyn o wybodaeth amdano: mae’r llythyrau a anfonodd wrth geisio ymuno â’r Corfflu Cymreig ar gael ar wefan Cymru1914 – http://cymru1914.org/cy/view/archive/4089505
Gellir hefyd dod o hyd i adroddiad am ei ddyrchafiad i fod yn lifftenant (Awst 1915 – http://cymru1914.org/cy/view/newspaper/3886208/7/ART121) ac yna adroddiadau am ei farwolaeth ar Ffrynt y Gorllewin ar 21 Ebrill 1917 (http://cymru1914.org/cy/view/newspaper/3886989/1/ART11 a http://cymru1914.org/cy/view/newspaper/3886999/3/ART35 )
Ceir enw Oscar hefyd ar gofeb rhyfel y capel roedd yn ei fynychu cyn symud i Gaerdydd – Salem, Nantyffyllon.
Yr ail enw yw W. Bevan Rees, un o Landybïe, Sir Gaerfyrddin (a oedd yn 20 oed ac yn gweithio fel glöwr adeg cyfrifiad 1911). Bu yntau farw ym Mhalesteina ar 3 Tachwedd 1917.
Reggie I.V.C.Thomas yw’r enw nesaf: bu yntau farw ar 24 Tachwedd 1917 yn 19 oed, tra’n gwasanaethu ar Ffrynt y Gorllewin gyda’r South Wales Borderers. Nid oes ganddo fedd, ond mae ei enw ar gofeb Cambrai.
Gellir darganfod John Wynford Thomas fel bachgen 12 oed yng nghyfrifiad 1911, yn byw yn Llanbedr Efelffre. Nid oes awgrym pa bryd y symudodd i Gaerdydd, ond fe listiodd yn y ddinas, gan ymuno â’r South Wales Borderers. Fe’i laddwyd yn Fflandrys ar 31 Hydref 1917.
Er gwaethaf ei enw cyffredin, mae’n bosibl bod yn sicr mai’r William John Thomas a enwir ar y gofeb yw’r llanc 18 oed a fu farw ar 11 Gorffennaf 1918 tra’n gwasanaethu gyda’r Army Service Corps. Fe’i gladdwyd ym mynwent Cathays, Caerdydd.
Fodd bynnag, nid yw enw Trevor N Evans ar restr y meirw y Commonwealth War Graves Commission. Yn ôl cofnodion y Tabernacl yr oedd yntau’n filwr yn 1916, yn gwasanaethu fel Gunner gyda’r RFA (Royal Field Artillery) ar Salisbury Plain. Noda cofnodion y capel ei fod wedi marw ar 18 Chwefror 1919.
g.h.matthews Mawrth 22nd, 2016
Posted In: chapels / capeli, memorials, Uncategorized
Tags: chapels / capeli, memorials, WW1
Cynhyrchodd nifer o gwmnïau gofebau i’w gweithwyr a laddwyd yn y Rhyfel Mawr, a cheir nifer o enghreifftiau o Gymru ymhlith y rhai sydd wedi goroesi, gan gynnwys cwmnïau rheilffyrdd a chyflogwyr yn y diwydiannau trwm.
Un o’r cwmnïau diwydiannol mwyaf yng Nghymru ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif oedd Guest, Keen & Nettlefolds Ltd. Roedd gan y cwmni weithiau dur, glofeydd a ffatrïoedd pe
iriannol, gan fwyaf yn ne dwyrain Cymru. Crëwyd y cwmni yn 1902 pan unodd nifer o gwmnïau llai, gan gynnwys Nettlefolds Ltd, cwmni a nifer o ffatrïoedd yn Birmingham a oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r rhan fwyaf o sgriwiau pren y Deyrnas Unedig. Cynhyrchwyd y dur a ddefnyddiwyd gan ffatrïoedd Nettlefolds yn y Castle Steel Works, ei safle yn Nhŷ-Du (Rogerstone), ychydig i’r gogledd-orllewin o Gasnewydd.
Agorodd y Castle Steel Works yn 1888, yr olynydd i weithle o’r un enw yn Hadley ger Wellington, Sir Amwythig, pan newidiodd Nettlefolds o’r defnydd o haearn gyr i ddur ar gyfer cynhyrchu eu sgriwiau pren. Fe symudodd nifer o’r gweithwyr o’r Castle Works gwreiddiol i Dde Cymru, gyda’u teuluoedd. Cafodd y dynion hyn (a adnabuwyd fel ‘Shroppies’) nifer o’r swyddi oedd yn gofyn am fwyaf o sgiliau, ac fe ddaethant yn gymuned nodedig yn ardal Tŷ-Du.
Llun o’r gweithfeydd yn 1902
Pan yn Weinidog Arfau yn gynnar yn y Rhyfel Mawr, fe ddwedodd Lloyd George fod Prydain yn ymladd ‘rhyfel o ddur’, gan fod y cyflenwad o ddur mor allweddol i’r ymgyrch filwrol. O fis Tachwedd 1915 ymlaen fe ddaeth y rhan fwyaf o weithiau dur Prydain o dan reolaeth y Llywodraeth, gan gynnwys y Castle Works. Ym mlynyddoedd cynnar y Rhyfel fe cwynodd y gweithiau dur am brinder o weithwyr oherwydd bod cymaint wedi gwirfoddoli. Wedi i’r diwydiant ddod o dan reolaeth y Llywodraeth gan amlaf fe ataliwyd y dynion rhag gwirfoddoli; ond wedi i orfodaeth filwrol gael ei chyflwyno yn 1916 fe gafodd nifer o weithwyr heb sgiliau yn y diwydiannau angenrheidiol eu dewis ar gyfer gwasanaeth milwrol (y ‘comb-out’).
Gwelir nifer o gyfenwau o du-allan i Gymru ar gofeb y Castle Steel Works ac mae’n debyg bod nifer ohonynt yn ddisgynyddion i’r ‘Shroppies’. Fodd bynnag, fe welwyd llawer o fudo i Sir Fynwy ddiwydiannol o Swydd Henffordd a’r siroe
dd cyfagos ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed, felly nid yw’n sicr bod pob un o’r cyfenwau ‘Seisnig’ yn dod o Sir Amwythig.
Fe gomisiynodd GKN nifer o blaciau efydd tebyg ar gyfer eu gweithloedd eraill. Tra bod y geiriau (“In ever grateful recognition of the splendid patriotism and heroic self sacrifice of the following employees of Guest, Keen & Nettlefolds, Ltd.”, ac yna enw’r gweithle) yn gyson ymhob achos sydd wedi goroesi, roedd amrywiaeth yng nghynllun y placiau. Yn enwedig, roedd amrywiaeth yng nghynllun yr ochr a sut y dosrannwyd y testun a’r rhestr o enwau (yn aml fe rannwyd y rhestr yn ddwy). Mae’n debyg bod ymgais bwriadol i gael amrywiaethau bychain, tra bod y prif elfennau yn gyson ar draws y cwmni. Ym mhob achos fe restrwyd y meirw yn nhrefn y wyddor, gan roi’r cyfenw a blaenlythrennau.
Nid oes manylion ar y plac am ba ffowndri a’i gynhyrchodd. Roedd gan GKN nifer o weithloedd a oedd â’r gallu i gynhyrchu rhywbeth o’r safon hon, ac mae’n bosibl bod pob un o’r cofebau wedi’i chynllunio a’i chastio oddi fewn i’r cwmni. Ar y llaw arall, mae’n bosibl eu bod wedi eu cynhyrchu gan ffowndri a oedd yn arbenigo yn y math hwn o waith.
Wrth edrych ar beth ddigwyddodd yn safleoedd eraill GKN mae’n debyg bod plac y Castle Works wedi ei osod yn swyddfeydd y gwaith dur. Yn 1938 fe symudodd y Castle Works am yr eildro, y tro hwn i Gaerdydd, ac fe symudodd y plac o Dŷ-Du, ynghyd â nifer o’r gweithwyr. Pan ddaeth y gweithle yng Nghaerdydd o dan reolaeth newydd yn 1981 fe ddymchwelwyd y swyddfeydd ac fe gafodd y plac ei roi yn y domen sgrap. Fodd bynnag fe’i achubwyd gan unigolyn ac yn 2015 fe’i roddwyd i Amgueddfa Cymru – National Museum Wales gan yr unigolyn a’r cwmni sydd bellach yn berchen ar y Castle Works yng Nghaerdydd.
Robert Protheroe Jones
Prif Guradur – Diwydiant
Adran Hanes ac Archaeoleg
Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
Lluniau o’r gofeb cyn ac ar ôl gwaith cadwriaeth. Diolch i Amgueddfa Cymru – National Museum Wales am y lluniau
g.h.matthews Mawrth 14th, 2016
Posted In: memorials, workplaces / gweithleoedd
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University