• English
  • Cymraeg

Datblygwyd adnoddau pellach sy’n datgelu peth o’r wybodaeth a ddaeth i’r golau wrth astudio’r cofebau a’r rhestrau anrhydedd yng Nghymru.

Wedi ei ariannu gan y Living Legacies 1914-18 Engagement Centre, y mae canolfan Data Digitisation and Analysis ym Mhrifysgol Queen’s, Belfast, wedi defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd gan brosiect ‘Cofebau Rhyfel Cymru’ a phrosiect ‘Cofebau Rhyfel Powys’ i greu map sy’n dangos ble gwelir y cofebau hyn. (Mae’r dotiau du yn dod o brosiect Powys a’r gweddill o ‘Cofebau Rhyfel Cymru’).

Mae’r rhan fwyaf o’r cofebau a ystyrir yma yn dod o gapeli, ond ceir hefyd enghreifftiau a ddaw o eglwysi, ysgolion, clybiau a mannau gwaith.

Gall y cofebau hyn ddatgelu llawer am yr effaith a gafodd y rhyfel ar gymunedau lleol a sut dewiswyd cofio digwyddiadau 1914-1919 a’r rhai a gollwyd ar faes y gad. Maent yn amrywio llawer yn eu cynllun, y dewis o eiriau i ddisgrifio’r sawl a goffeir, a pha mor gynhwysol ydynt yn eu dewis o’r merched a’r bechgyn i’w cofio a’u anrhydeddu.

Tra bod rhai rhestrau o anrhydedd yn cynnwys delweddaeth militaraidd, y mae cofebau eraill yn gwahaniaethu yn eu barn am yr angen i fynd i ryfel. Gwelir un enghraifft amlwg o’r gwahaniaethau hyn wrth gymharu dewis Tabernacle Pontypridd (i’r chwith) a Bethel Llangyfelach (i’r dde).

Mae Tabernacl Pontypridd yn canmol rhinweddau marw er lles y wlad – mae’r darn barddoniaeth yn cyflwyno safbwynt mam sy’n dweud wrth ei mab: “Dy fam wyf fi, a gwell gan fam, it golli’th waed fel dwfr, Neu agor drws i gorff y dewr, Na derbyn bachgen llwfr.” Mae Bethel Llangyfelach ar y llaw arall yn dyfynnu o deyrnged R.Williams Parry i Hedd Wyn y bardd ifanc a fu farw yn Passchendaele: “Garw rhoi’r pridd i’r briddell, mwyaf garw marw ’mhell”

Y mae’r map yn dangos ystod eang o wahaniaeth yn yr hyn y mae cymunedau am gyfnodi am y rhai a wasanaethodd yn y lluoedd arfog. Mae rhai, fel yn y Tabernacl (uchod), yn cynnwys lluniau. Dewis eraill yw nodi dim ond cyfenw ac enw bedydd (neu prif lythrennau’r enw). Arfer eraill o’r cofebau a’r rhestrau anrhydedd yw cofnodi lle roedd y milwyr a’r morwyr yn byw, neu eu rhanc, neu’r dyddiad a’r lle ble lladdwyd hwy.

Mae’r map hefyd yn dangos pa ardaloedd ddewisodd goffáu y merched a gyfrannodd i waith y rhyfel. Mae’n ymddangos mai tua thraean o gofebau capeli yng Nghymru a gynhwysodd enwau’r merched hyn ynghyd â’r dynion. Mae rhai o’r capeli a wna hyn mewn clystyrau – fel y rhai yn ardal Pont-y-pwl. Gwna’r map hi’n hawdd i adnabod y clystyrau hyn. Yn aml rhestrwyd y dynion ar wahân i’r merched, fel yn achos Capel-y-Garn, Bow Street ger Aberystwyth.

Enwir y chwiorydd Hannah a Rebecca Rees fel nyrsus ar waelod y rhestr yn y gornel dde. Yn achlysurol gwelir enw merch ymhlith y rhai a syrthiodd. Roedd Janet Jones o Lanrwst, Lluesteiwraig (Quarter Mistress) gyda’r Lluoedd Awyr. Ar rhôl anrhydedd y Lleng Brydeinig yn Llanrwst, gwelir ei henw ymhlith y dynion a syrthiodd.


Nodwedd arall o’r map yw ei fod yn tynnu sylw at y cofebau a’r rhestrau anrhydedd hynny sy’n coffáu y sawl a wasanaethodd gyda milwyr tramor. Gyda lluoedd Canada neu Awstralia y gwasanaethodd y mwyafrif er bod nifer llai wedi gwasanaethu gyda’r Ghurkas, Seland Newydd a De Affrica. Y gofeb sy’n coffáu y nifer fwyaf o ddynion a syrthiodd tra’n gwasanaethu gyda lluoedd tramor yw Cofeb Rhyfel Ysbyty Crucywel. Allan o gyfanswm o 67 a syrthiodd tra’n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd 8 ohonynt wedi cael eu lladd tra’n ymladd gyda lluoedd tramor (dau o Ganada, tri o Seland Newydd a thri o Awstralia). Mae cyfartaledd uchel o ddynion a wasanaethodd gyda lluoedd tramor yn cael eu coffáu yng Nghapel Seion, Llangollen – 3 allan o 12, sef chwarter y rhai a wasanaethodd. Ymladdodd un gyda milwyr Awstralia, un arall gyda lluoedd Canada a’r trydydd gyda byddin De Affrica.

Ardaloedd cymharol wledig yng Nghymru yw Crucywel a Llangollen a dichon fod yy map yn gallu datgelu rhywbeth am batrymau ymfudo o Gymru ar droad yr ugeinfed ganrif. Mae hefyd yn dangos fod y sawl a ymfudodd wedi dal cysylltiad â’r famwlad. Ymfudodd un a goffeir o Langollen ddeng mlynedd cyn dechrau’r Rhyfel, ond roedd yn dal i gael ei ystyried yn un o fechgyn Llangollen a chafodd ei enw ar y Rhol Anrhydedd.

 


Mae cofeb Capel y Bedyddwyr High St. Abersychan yn crynhoi llawer o’r themâu a adlewyrchir yn y ffynhonnell hon. Cyflwynir y Rhol Anrhydedd ‘i’r sawl a gynorthwyodd yr Arglwydd yn erbyn y mawrion yn yr Ymdrech Fawr i ddiogelu delfrydau sanctaidd gwareiddiad’, sy’n dangos nad oedd unrhyw amheuaeth pan comisiynwyd y gofeb pa ochr oedd yn iawn yn y Rhyfel. Rhestrir wyth o ddynion a laddwyd ynghyd â 70 o wŷr a 7 o ferched a wasanaethodd. Roedd un o’r dynion yn gwasanaethu gyda’r Awstraliaid ac un gyda’r adran feddygol ym myddin Canada.

 

 

 

 

 

 

Hyd yn hyn y mae Prosiect Cofebau Cymru wedi cofrestru dros 160 o gofebau a bron i gant rhol anrhydedd ar draws Cymru. Maent yn cynnwys amrywiaeth – o frasgopi drafft o Rol Anrhydedd, fel honno yn Eglwys St Cross, Llanllechid ger Bangor, i gerflun gan y cerfluniwr enwog, Mario Rutelli o’r Eidal yn Tabernacl, Aberystwyth.

Mae defnyddiau’r map ar-lein yn dangos y ffyrdd gwahanol o goffáu y rhai o Gymru a wasanaethodd yn y Rhyfel. Mae’n dangos ble gwneuthpwyd y rholiau anrhydedd, a’r mannau lle mae cofebau yn unig yn fwy cyffredin. Mae’n rhoi cipddarlun o batrymau mudo ar droad y ganrif ac yn dangos pa gymunedau gredai fod cyfraniad y merched lleol i’r ymdrech yn werth ei gofio.

Chwefror 21st, 2018

Posted In: Uncategorized

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University