• English
  • Cymraeg

Y mae cannoedd o gofebau gwahanol yng Nghaerdydd. Mae’r rhain yn cynnwys dros gant o gofebau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Y mae rhain yn amrywio o’r Gofeb Gymreig Genedlaethol ym Mharc Cathays i gofebau pres cyffredin.

Ni fydd y blog hwn yn canolbwyntio ar y llu o gofebau a welir mewn llefydd amlwg yng nghanol y trefi a’r maestrefi, ond ar y sawl sydd o fewn i adeiladau ac na ŵyr hyd yn oed pobl sy’n byw yn lleol ddim amdanynt.

Wrth edrych yn fanwl ar yr enwau ar y cofebau hyn, gweir fod enwau rhai unigolion yn ymddangos ar nifer ohonynt. Un enghraifft nodedig yw enw’r chwaraewr rygbi rhyngwladol, John Lewis Williams, swyddog yn y fyddin gyda Bataliwn16 (Dinas Caerdydd) y Gatrawd Gymreig, a glwyfwyd yn ddrwg ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Mametz Wood, ac a fu farw o’i anafiadau ar 12 Gorffennaf 1916. Mae ei enw ar gofebau yn Eglwys Newydd ac Eglwys Mair, yr Eglwys Newydd, ym Marchnad Lo Caerdydd, Ysgol Ramadeg Penybontfaen, Penarth, Seiri Rhyddion Caerdydd, Undeb Rygbi Cymru a chlwb rygbi Casnewydd. (Am fwy o wybodaeth, gwêl llyfr Ceri Stennett a Gwyn Prescott, In Proud and Honoured Memory).

Cofebau Gweithfeydd

Yng Nghaerdydd y gwelir y mwyaf nodedig o gofebau gweithleoedd yng Nghymru. Y mwyaf trawiadol yw’r un sy’n coffáu gweithwyr Corfforaeth Caerdydd a wasanaethodd yn y Rhyfel Mawr.

Fred J Dobbs a’i lluniodd a chafodd ei argraffu gan y Western Mail. Mae’n cynnwys cyfoeth o ddelweddau yn ogystal ag enwau rhyw 600 o’r sawl a wasanaethodd (gan gynnwys o leiaf 11 gwraig). Ceir delweddau yn cynrychioli   baneri’r gwledydd y Cynghreiriaid, y pyramidiau, y llanastr yng Ngwlad Belg a’r Lusitania.

Mae’r gofeb hon i’w gweld yn Neuadd y Ddinas.

Un arall nodedig yw honno welir yn Adeiled y Pierhead ym Mae Caerdydd sy’n coffáu gwŷr cwmni y Cardiff Railway. Ar y gofeb enfawr hon ceir pais arfau a logo’r cwmni, ynghyd ag emblemau o wledydd Prydain ac yn agos i 700 o enwau arno.

Comisiynodd Cwmni Rheilffordd Taff Vale gofeb i’w gweithwyr hwy a wasanaethodd yn y lluoedd arfog. Mae’r gofeb hon hefyd wedi ei addurno’n gywrain, a gellir gweld copi manwl ohoni yng ngorsaf brysur Stryd y Frenhines. (Am fwy o wybodaeth gweler – http://historypoints.org/index.php?page=taff-vale-railway-war-memorial-cardiff )

 

Y bedwaredd gofeb nodedig yng Nghaerdydd yw honno i weithwyr Swyddfa Bost y ddinas, Cofrestrir dros 600 o enwau – deugain ohonynt wedi colli eu bywyd. Fe’i gwelir yng nghanolfan gwasanaeth cwsmeriaid y Post Brenhinol yn Ffordd Penarth. (Am fwy o wybodaeth gweler – http://188.65.112.140/~daftscou/steve/grangewar18.htm )

 

Comisiynodd nifer o weithfeydd bychain o gwmpas Caerdydd eu cofebau hwy eu hunain. Gyda chymain o fusnesau o’r cyfnod wedi cau eu drysau erbyn hyn, mae’n amhosibl gwybod faint o gofebau a ddiflannodd a mynd ar goll, Un a oroesodd yw cofeb gwaith Cardiff Gas Light And Coke Company Grangetown.

 

 

 

 

Cofebau Ysgol a Phrifysgol

 

Wrth i’r rhyfel fynd rhagddo bu gan nifer o sefydliadau addysgiadol ‘cofebau anrhydedd’ yn cofrestru cyn-ddisgyblion a oedd yn gwasanaethu gyda’r lluoedd arfog. Os gŵyr rhywun am gofebau o’r fath mewn ysgolion lleol (heblaw y rhai sy’n enwi dim ond y sawl a fu farw) byddai’n dda gennyf wybod amdanynt.

 

Ail-leolwyd llawer o ysgolion dros y degawdau diwethaf, ond un sy’n cynnwys y fath gofeb o hyd, er newid safle, yw Ysgol Uwchradd Caerdydd.

 

Lluniodd y Brifysgol gofeb i 111 o fyfyrwyr israddedig a fu farw yn y gyflafan. (Adwaeinid y Brifysgol ar y pryd fel ‘Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy’.)

 

 

 

 

Eglwysi

 

Comisiynodd y mwyafrif o eglwysi gofebau rhyfel i aelodau’r gynulleidfa a fu farw. Plâc syml o bres yw rhai o’r rhai hyn, ond mae’r ergyd yn un emosiynol yr un fath pan gyfrifir nifer yr enwau arnynt. Roedd gan gofeb eglwys St James ar Newport Road gofeb ag arni 17 o enwau. Wedi iddi hi gau gosodwyd y plâc yn eglwys St John yng nghanol y ddinas.

 

Yng ngogledd Caerdydd, un o’r cofebau allanol mwyaf tarawiadol yw honno a welir yn yr Eglwys Newydd. Ond ceir hefyd gofeb i’r plwyfolion a addolai yn eglwys Saint Mary, sy’n cynnwys 24 o enwau.

 

Hefyd yng ngogledd y ddinas, yn Llanishen, mae cofeb yn enwi 18 o wŷr.

 

 

Yn agosach at ganol y ddinas saif eglwys atyniadol St German. Nid dim ond cofeb i’r sawl a laddwd a berthynai i’r eglwys hon a welir (40 o enwau) ond hefyd o gynulleidfa St Agnes (40 enw).

Capeli

 

Roedd llawer mwy o gapeli Anghydffurfiol yng Nghaerdydd nag oedd o eglwysi Anglicanaidd. Mae rhai o’r cofebau welir yn y rhain yn sylweddol, megis cofeb Tabernacl, yr Ais, un y soniwyd amdani mewn blog arall.

 

I ddechrau gyda chofebau mwyaf cyffredin; ceir pump enw ar gofeb Eglwys Fethodistaidd yr Eglwysnewydd. Lladdwyd dau ohonynt (Charles Collier a David Williams) ym mrwydr Mametz Wood ar 7 Gorffennaf 1916, yn gwasanaethu gyda’r ‘Cardiff Pals’.

 

 

Pum enw geir hefyd ar gofeb yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig (U.R.C. Eglwys Bresbyteraidd Parc y Rhath , cyn hynny). Lladdwyd un, sef Joseph Stephens, ym mrwydr Doiran yng ngogledd gwlad Groeg ar 18 Medi 1918 – fel llawer mwy o ddynion Caerdydd.

 

Y mae un-ar-ddeg o enwau ar gofeb Eglwys Efengylaidd Heath (Heath Presbyterian, gynt).

 

 

Y mae’r tair enghraifft uchod mewn adeiladau sy’n dal i gael eu defnyddio fel addoldai, ond caewyd llawr o gapeli Caerdydd. Symudwyd llawer o’r cofebion oddi mewn iddynt ond aeth eraill ar gol, ac mae’n amhosibl dweud sawl un a ddiflannodd.

 

Un enghraifft o gofeb sy’n dal yn y lle ble ei gosodwyd, er i’r adeilad beidio â bod yn gapel yw Pembroke Terrace, hen addoldy’r Methodistiaid Calfinaidd, sydd bellach yn dŷ bwyta, dan yr enw Chapel 1877. Ceir naw enw ar y gofeb.

 

Arferai cynulleidfa Ebeneser, yr Annibynwyr Cymraeg, gwrdd yn Charles Street, ond bellach defnyddir yr addoldy hwnnw fel canolfan gan yr Eglwys Gadeiriol Babyddol sydd gyferbyn. Ail-leolwyd y gofeb, sydd ag chwech o enwau arni, y tu allan i’r adeilad.

 

Mae enghraifft arall lle ail-leolwyd y gofeb i’w gweld yng Nghanolfan y Drindod, y Rhath – canolfan allgymorth yr Eglwys Fethodistaidd. Pan gaewyd eglwys gyfagos yn Broadway yn 1950, symudwyd y gofeb bres (ac arni 14 enw) a’r ffenestr liw yno.

Y gofeb olaf yn yr adran hon yw’r darn anarferol o gelfyddid a gomisiynwyd gan Salem, Eglwys Bresbyteraidd Treganna. Gofynnwyd i William Goscombe John, y cerflunydd a anwyd yng Nghaerdydd, i lunio cofeb i’r pump o’r gwŷr o’r capel a laddwyd yn y rhyfel. Y canlyniad annisgwyl oedd cerflun o ferch, a allai gynrychioli Britannia, neu efallai’r dduwies Rhufeinig, Minerva. Ni ddisgwyliech weld y naill na’r llall mewn capel Cymraeg!

 

 

 

 

Cofebau Eraill

Comisiynodd nifer eraill o glybiau a sefydliadau eu cofebau hwy eu hunain ar ôl y Rhyfel Mawr. Mae’n anodd amcangyfrif faint o rain a fu, a faint gafodd eu colli. Un enghraifft ddiddorol yw cofeb yr Oddfellows, y credir ei bod bellach ar goll; gweler gwefan Cymdeithas Hanes Lleol y Rhath

I orffen y rhestr hon o ugain o gofebau Caerdydd, mae un yng nghyfrinfa’r Seiri Rhyddion yn Guildford Crescent. Coffeir aelodau o chwe chyfrinfa gwahanol a fu farw yn y rhyfel ac enwir 32 o ddynion. Mae adnodd ar gael ar wefan BBC Cymru, gyda’r diweddar Barchg Dafydd Henri Edwards yn disgrifio’r gofeb hon – https://www.bbc.co.uk/programmes/p0289qw5

 

Y mae dwsenni mwy o gofebau’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghaerdydd. Mae bâs data’r cofebau rhyfel a gasglwyd gan yr Amgueddfa Milwrol Ymerodrol (Imperial War Museum) yn cofnodi 102 o gofebau yn y ddinas, ond nid yw’r rhestr hon yn gyflawn, ac mae’n siwr y daw mwy i’r fei na ŵyr ymchwilwyr amdanynt hyd yn hyn.

 

 

 

 

Adnoddau pellach o fâs data Cofebau’r Amgueddfa Milwrol Ymerodrol :

Corfforaeth Caerdydd: https://www.iwm.org.uk/memorials/item/memorial/6647

Cardiff Railway company: https://www.iwm.org.uk/memorials/item/memorial/6670

Taff Vale Railway: https://www.iwm.org.uk/memorials/item/memorial/6669

Swyddfa’r Post Caerdydd: https://www.iwm.org.uk/memorials/item/memorial/60558

Cardiff Gas Light And Coke Company: https://www.iwm.org.uk/memorials/item/memorial/6673

Ysgol Uwchradd Caerdydd: https://www.iwm.org.uk/memorials/item/memorial/6657

Prifysgol Caerdydd: https://www.iwm.org.uk/memorials/item/memorial/6651

St James’: https://www.iwm.org.uk/memorials/item/memorial/60542

St German’s : https://www.iwm.org.uk/memorials/item/memorial/51037

St Agnes’: https://www.iwm.org.uk/memorials/item/memorial/51030

St Andrew’s URC: https://www.iwm.org.uk/memorials/item/memorial/17676

Heath Evangelical: https://www.iwm.org.uk/memorials/item/memorial/37148

Pembroke Terrace: https://www.iwm.org.uk/memorials/item/memorial/65213

Broadway Methodist: https://www.iwm.org.uk/memorials/item/memorial/37643 and https://www.iwm.org.uk/memorials/item/memorial/50427

Seiri Rhyddion Caerdydd: https://www.iwm.org.uk/memorials/item/memorial/6675

Mai 7th, 2019

Posted In: Uncategorized

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University