• English
  • Cymraeg

Ym misoedd cyntaf y Rhyfel Byd Cyntaf, cyhoeddodd y South Wales Daily News tudalen o luniau bob dydd yn dangos y datblygiadau diweddaraf yn y Rhyfel, gan ganolbwyntio yn arbennig ar recriwtio yn ne Cymru.

Mis ar ôl cyhoeddi’r Rhyfel yn erbyn yr Almaen, dangoswyd y llun hwn lle gwelir pum recriwt Iddewig yn perthyn i Gwmni’r ‘Cardiff Pals’.

Nid yw hyn yn annisgwyl gan mai’r prif bwrpas oedd pwysleisio fel yr oedd cymunedau a sefydliadau o bob dosbarth a phob ardal drwy Gymru yn uno i gynorthwyo’r ymdrech milwrol. Mae lluniau eraill o’r cyfnod cynnar hwn yn dangos timau criced, neu rygbi, neu bobl yn gweithio gyda’i gilydd yn ymuno i wirfoddoli.

Y mae nifer o enghreifftiau ym mhapurau newydd Cymru yn dangos fel yr oedd pobl ymylol a anwybyddwyd cyn hynny yn cael eu canmol am ddangos eu teyrngarwch i’r achos Prydeinig (gyda Gwyddelod, yn arbennig, yn cael sylw). Siaradodd Rabi M. Lubner yn un o gyfarfodydd recriwtio mwyaf Abertawe ym Medi 1914, ac ar ddechrau Rhagfyr roedd adroddiad yn y Cambria Daily Leader yn nodi’r nifer o wirfoddolwyr a ddaeth o fannau o addoli, gan ddweud fod 25 wedi ymuno o’r synagog lleol.

Ar ddiwedd y Rhyfel, ceisiodd sefydliadau o bob math goffáu eu cyfraniad i’r ymgyrch – fel y dengys nifer y blogiau ar y wefan hon!

 

 

 

 

Y mae dwy restr anrhydedd a gomisiynwyd gan synagogau yng Nghymru wedi goroesi: Ar ben y rhestr y mae Cynulleidfa Hebrëwyr Casnewydd (‘Newport Hebrew Congregation’) yn enwi pedwar a laddwyd, ac yna’n rhestru 51 a wasanaethodd, a dychwelyd. Mae’r llun hwn (gyda chaniatâd Shaun McGuire) yn dangos y gofrestr cyn iddi gael ei rhoi i’w chadw’n ddiogel yn Archifau Gwent – ceir mwy o wybodaeth fan hyn.

 

 

 

Mae’r rhestr anrhydedd arall a oroesodd (Cynulleidfa Hebrëwyr Merthyr Tudful) i’w gweld yn Amgueddfa Castell Cyfarthfa. Ceir 38 enw arni, gan gynnwys dau a laddwyd yn y Rhyfel.

Un o’r ddau yw Harry Rosen, a enwir hefyd ar gofeb cwmni’r brodyr Crawshay (Mountain Levels and Steelworks).

 

 

Ceir hefyd cofebau i goffáu aelodau a laddwyd yn perthyn i’r synagogau. Mae naw enw ar y gofeb a gomisiynwyd gan y synagog yn Abertawe, sydd bellach wedi cau.

 

 

 

 

 

 

Comisiynwyd cofeb yr un gan y ddau synagog yng Nghaerdydd yn coffáu pob Iddew a laddwyd yn y Rhyfel, gyda deuddeg enw arnynt. Y gwahaniaeth rhyngddynt yw bod y gofeb yn Ffordd y Gadeirlan (Cathedral Road) yn rhestru’r dynion yn ôl trefn y wyddor, tra bod yr un yn Windsor Place yn rhestru’r swyddogion yn gyntaf.

Mae un enw arnynt yn cyfateb i’r llun a welir yn y South Wales Daily News, Medi 1914 September 1914. Bedair blynedd wedi i’r llun gael ei dynnu, roedd Israel (Issy) Shibko yn gwasanaethu gyda Bataliwn 11 o’r Corfflu Cymreig – y Cardiff Pals) Commercial Battalion – yn Salonika, gogledd gwlad Groeg. Fe’u llwyr ddinistriwyd yn y frwydr a alwyd Trydedd Frwydr Doiran, yn ymladd yn erbyn y Bwlgariaid: lladdwyd Issy ar 18 Medi. Er cymaint y golled, ni enillwyd dim yn frwydr hon. Cytunodd y Bwlgariaid ar gadoediad bythefnos yn ddiweddarach.

 

 

Mehefin 5th, 2019

Posted In: Uncategorized

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University