• English
  • Cymraeg

Dyma gyfres o fapiau sydd yn dangos y patrymau sydd ynghlwm a’r casgliad o wybodaeth am 500+ o gofebau i’r Rhyfel Mawr mewn capeli Cymreig.

MAP 1

Mae’r map hwn yn dangos y lleoliadau lle cafodd y cofebau hyn eu sefydlu (cofiwch fod nifer ohonynt wedi cael eu hail-leoli, a bod nifer fawr ohonynt wedi eu colli).

Allwedd:

Gwyrdd – Rhestr Anrhydedd yn unig

Coch – Cofeb i’r meirw

Du – Rhestr Anrhydedd a chofeb i’r meirw

Glas – Cofeb gymunedol

Oren – Cofebau sydd heb enwi’r rhai a wasanaethodd

Ar y map ceir gwybodaeth am gofebau mewn dros 500 o gapeli

MAP 2

Dengys yr ail fap y cofebau i’r Rhyfel Mawr mewn capeli Cymru sydd yn ffenestri lliw neu sy’n cynnwys ffotograffau o’r rhai a wasanaethodd

Allwedd:

Oren – Ffenestri Lliw

Gwyrdd – Cofeb yn cynnwys ffotograffau o’r dynion a wasanaethodd

Ceir 15 o gofnodion sydd â ffenestri lliw

a 13 o gofnodion sydd â ffotograffau

MAP 3

Mae’r map hwn yn categoreiddio’r cofebau yn ôl y ganran o’r rhai a wasanaethodd a fu farw.

MAP 4

Mae’r map hwn yn dangos lle mae cofebau i’r Rhyfel Mawr yng nghapeli Cymru â niferoedd uchel neu isel o’r meirw arnynt.

MAP 5

Dengys y map hwn pa gofebau i’r Rhyfel Mawr sydd yn cynnwys menywod.

MAP 6

Mae’r map hwn yn dangos pa gofebau sydd yn cynnwys milwyr o Ganada, Awstralia neu Dde Affrica.

MAP 7

Mae’r map hwn yn categoreiddio’r cofebau yn ôl yr iaith a ddefnyddiwyd.

Ionawr 22nd, 2020

Posted In: Uncategorized

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University